Helo, Maciek ydy f’enw i a chyd-sefydlais i Get Wonky gyda’m Nyweddi Karina. Mae Get Wonky yn gwmni diodydd cynaliadwy sy’n gwneud suddion ffrwyth allan o ffrwythau a llysiau afreolaidd. Mae ein suddion â blas danteithiol yn cael eu gwneud o afalau, mefus, aeron tagu a betys o siapau afreolaidd a fyddai’n cael eu gwastraffu fel arall. Drwy becynnu’n diodydd mewn poteli gwydr ailgylchadwy 100%, ein nod yw lleihau gwastraff o becynnau gan 70%.
O ble daeth yr ysbrydoliaeth am Get Wonky?
Daeth yr ysbrydoliaeth am Get Wonky o boster Caru Bwyd Casáu Gwastraff, a ddwedodd fod “4.4 miliwn o Afalau’n cael eu gwastraffu bob dydd”. Roedd y ffigur yma’n sioc i ni ac roedden ni eisiau gwneud rhywbeth i helpu i ymdrin â phroblem gynyddol gwastraff ac aneffeithlonrwydd wrth gynhyrchu bwyd a diod.
Pa gymorth ydych chi wedi’i gael gan Syniadau Mawr Cymru?
Gwnaeth y ddau ohonon ni astudio ym Mhrifysgol De Cymru a phenderfynon ni aros yng Nghymru i gychwyn ein busnes oherwydd y cymorth a chefnogaeth anferthol mae Llywodraeth Cymru a chyrff fel Syniadau Mawr Cymru yn eu darparu. Mae Syniadau Mawr Cymru wedi rhoi cyngor ac arian i ni. Rydyn ni wedi cael cefnogaeth unigol ac wedi manteisio ar sawl un o’u digwyddiadau rydyn ni wedi’n gwahodd i’w mynychu. Maen nhw wedi bod yn amhrisiadwy i’n helpu i gyrraedd ein potensial a gwireddu ein breuddwydion.
Ydych chi wedi gwneud unrhyw gamgymeriadau? Os felly, beth wnaethoch chi ei ddysgu?
Rydyn ni wedi dechrau’n busnes gydag £800 ac er gwaetha’ hynny llwyddon ni i dyfu’n gyflym. Fodd bynnag, pe baen ni wedi sicrhau buddsoddiad ar ôl y lansiad swyddogol, faswn ni’n tyfu’n llawer cyflymach. Penderfynon ni aros am dipyn er mwyn cadw’r rheolaeth lawn dros y busnes.
Beth ydy’r darn gorau o gyngor rydych chi wedi ei gael?
Daliwch ati i werthu.
“4.4 miliwn o Afalau’n cael eu gwastraffu bob dydd”
Beth sy’n eich ysgogi?
Mae ysbryd entrepreneuraidd cryf gennyn ni erioed ac rydyn ni wedi bod yn angerddol am fusnes gydag awydd i eisiau gweithio droson ni ein hunain. Rydyn ni’n angerddol am wneud newid positif, felly ein prif ysgogiad yw helpu i leihau gwastraff bwyd ac ymdrin â materion amgylcheddol.
Pa gyngor fasech chi’n ei roi i rywun sy’n meddwl am gychwyn busnes?
Ewch amdani a’i wneud e! Mae busnes yn ymwneud â chymryd risgiau bwriadol a bod yn ddigon dewr i weithredu ar eich syniadau. Hefyd mae yna lawer o help a chefnogaeth allan yno i ddarparu entrepreneuriaid yng Nghymru, sy’n gwneud Cymru yn wlad fendigedig i gychwyn busnes. Faswn i’n awgrymu gwneud ymchwil a gweld a ydych chi’n gymwys i dderbyn unrhyw grantiau neu gefnogaeth gan gyrff fel Syniadau Mawr Cymru, achos mae hynny’n gallu helpu i wneud gwahaniaeth mawr i lwyddiant a chyflymder twf eich busnes.
Gwnaeth y ddau ohonon ni astudio ym Mhrifysgol De Cymru a phenderfynon ni aros yng Nghymru i gychwyn ein busnes oherwydd y cymorth a chefnogaeth anferthol mae Llywodraeth Cymru a chyrff fel Syniadau Mawr Cymru yn eu darparu.
Fasech chi wedi gwneud unrhyw beth yn wahanol o edrych yn ôl?
Na, ond fasai’n llawer haws petai gennym ni fuddsoddiad cychwynnol yn ei le.
Beth ydy’ch cynlluniau am y dyfodol?
Rydyn ni ar ein ffordd i sicrhau buddsoddiad erbyn Gorffennaf, ail-frandio ac ail-lansio gyda fformatau diodydd gwahanol. Rydyn ni hefyd yn meddwl am ein safle ein hun yma yng Nghymru, ond ein cyfrinach ni ydy hynny!