Jemima Letts
Blog from Jemima Letts
Trosolwg:
Blog from Jemima Letts, Tree Sparks about the opportunities that came about through going to Celebrated and Bootcamp

Trawiad wnaeth ddechrau’r cyfan. Un funud rydych chi’n iawn. Y funud nesaf, rydych chi’n deffro. Ar y llawr. Yn chwys drosoch. Yn ddryslyd, yn flinedig ac yn ffwndrus. Fe newidiodd y trawiad hwnnw fy mywyd, ond er gwell, er fy mod yn meddwl ar y pryd bod diwedd y byd wedi dod. Gadewch imi esbonio.

 

Fy enw i yw Mima ac rwy’n fyfyriwr gradd sy’n astudio Coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor. Ar ôl cwblhau fy ail flwyddyn, roeddwn i’n mynd i’m blwyddyn ar leoliad pan fyddwn yn cymryd blwyddyn allan oddi wrth fy astudiaethau i gael profiad o’r byd go iawn yn y sector Coedwigaeth. Llwyddais i gael lleoliad delfrydol, gan sicrhau swydd gyflogedig fel warden gyda Chyngor Dosbarth Wyre Forest. Roeddwn wedi bod yn dioddef â’m hiechyd ers ychydig fisoedd, ond roeddwn i’n barod i ddechrau ym mis Medi tan 4 diwrnod ynghynt pan gefais fy nhrawiad cyntaf a phan dderbyniwyd fi i’r ysbyty. Collais fy ngwaith. Ar ôl amryw o gyfarfodydd gydag arbenigwyr a’m Prifysgol, penderfynwyd y dylwn gymryd amser i ffwrdd o’m hastudiaethau a gorffwyso. Fe wnes i orffwyso, ond dim ond am 2 wythnos. Roeddwn i wedi cael llond bol. Roeddwn i’n colli gwaith caled a phrysurdeb bywyd prifysgol, ond roeddwn i 250 milltir i ffwrdd yn ardal dawel y Fens. Fel coedwigwr, roeddwn i’n methu’r teithiau maes, cerdded mewn coedwigoedd, gwlychu at fy nghroen yng nglaw Cymru, ond yn lle hynny, roeddwn i’n sownd yn y tŷ yn meddwl beth ar y ddaear oedd yn bod arnaf fi. Aeth dyddiau heibio. Yna misoedd. Mewn dim amser, roedd hi’n fis Chwefror ac roeddwn i’n teimlo nad oeddwn i wedi cyflawni dim.

 

Ond yna fe dderbyniais e-bost. Nid oedd yn ddim byd arbennig. Un o’r negeseuon e-bost cyffredinol hynny sy’n cael eu hanfon at bawb sydd â chyfeiriad e-bost y brifysgol, ond fe wnes i roi amser i’w ddarllen yn hytrach na’i ddileu yn syth (mae’n rhaid fy mod i wedi cael llond bol) ac rwyf mor falch mod i wedi gwneud hynny. Roedd yn hysbysebu cystadleuaeth fusnes a oedd yn cael ei chynnal yn fuan i bobl ifanc yng Nghymru o’r enw Dathlu Syniadau Mawr Cymru. Roedd yn syml. Yr oll roedd  rhaid i chi ei wneud oedd meddwl am syniad ar gyfer busnes a byddai gennych chi gyfle i fynd i ddigwyddiad arddangos cenedlaethol ac ennill gwobrau hael. Felly mi wnes i roi cynnig arni. Nid wyf fi’n fenyw busnes, ond rwy’n teimlo’n angerddol am goed ac am gynyddu ymwybyddiaeth amgylcheddol ymysg pobl ifanc.

 

A dyma sut dechreuodd Tree Sparks a phan ddechreuodd fy nhaith fel entrepreneur. Er nad wyf yn gwybod llawer am redeg busnes, gallai’r beirniaid yn y gystadleuaeth weld fy mod yn teimlo’n angerddol am fy syniad a dyma sut gwnes i ennill dwy wobr ac ennill £1000 o gyllid. Nid oedd gennyf esgus nawr – roedd gen i amser ar fy nwylo a’r arian a’r gefnogaeth yr oeddwn angen i ddechrau fy musnes fy hun ac i ddechrau gwneud newid! Er mai dim ond 6 mis sydd wedi bod ers y gystadleuaeth, rwyf wedi llwyddo i wneud llawer iawn (o gwmpas apwyntiadau ysbyty) ac mae Syniadau Mawr Cymru wedi bod yno bob cam o’r ffordd.

 

Cefais gyfle i fynd ar benwythnos bŵt-camp i fusnesau, lle cefais gwrdd â phobl ifanc eraill o bob cwr o Gymru i ddysgu am gyllid, strwythur, dyrchafu, gwerthiannau a gwefannau, gan weithio mewn timau i gynhyrchu cynlluniau busnes a chyflwyno ein syniadau. Fe gawsom ni hyd yn oed gyfle i gwrdd â rhai o rôl-fodelau Syniadau Mawr Cymru, a thrafod syniadau newydd a chael cyngor da ynglŷn â beth i’w wneud nesaf. Cefais hyd yn oed fynediad at fwy o gyllid i’m busnes gan ganiatáu i mi greu cynnwys newydd ar gyfer fy ngwefan a dechrau creu pecynnau adnoddau ar gyfer ysgolion.

 

Cynigwyd lle i mi ar Drivers for Change, yr ymgyrch gyntaf o’i bath yn y DU i ddarganfod gweithredu cymdeithasol creadigol. Fe gefais gwrdd â phobl ifanc eraill yn union fel fi o bob cwr o’r wlad a’r byd a dysgu gyda nhw wrth deithio ar draws y DU am 11 diwrnod, gan orffen y daith â chyfle i gyflwyno ein syniadau yn Nhŷ’r Arglwyddi.

 

Er gwaethaf yr holl fomentwm hwn, roedd yna sawl tro yn ystod y misoedd diwethaf pan oeddwn yn eistedd wrth fy nesg yn meddwl beth ar y ddaear wyf fi’n ei wneud, gan ofyn ai fi yw’r person iawn i ddechrau’r busnes hwn. Mae mor hawdd cael eich dal gan byliau o hunan amheuaeth, ni waeth faint o gymhelliant neu ysbrydoliaeth sydd gennych. A dyna pam mae rôl-fodelau mor bwysig. Rwyf wedi bod yn ffodus bod cymaint o bobl o’m cwmpas sydd eisiau imi lwyddo ac sy’n deall hynt a helynt dechrau eich busnes eich hun a’i redeg. Mae rôl-fodelau yn eich helpu i’ch codi ar eich traed unwaith eto ac i’ch atgoffa pam eich bod yn gwneud yr hyn rydych chi’n ei wneud a pham mai chi ddylai fod yn gwneud hyn. Gallant gydymdeimlo â chi pan na fydd pethau’n mynd yn iawn neu pan fyddwch chi wedi ymlâdd. A dyna pam yr wyf wedi mwynhau gweithio gyda Syniadau Mawr Cymru cymaint! Fe wnaethon nhw fy helpu i droi sefyllfa erchyll yn gyfle gwych.

 

Pe na fyddwn wedi cael y trawiad y llynedd, ni fyddai Tree Sparks yn bodoli ac fe fyddwn i’n dal i freuddwydio am y newid yr oeddwn eisiau ei wneud, yn hytrach na chymryd camau tuag at wneud iddo ddigwydd.

 

Mae’n anrhydedd gen i fod wedi cael gweithio mor agos â Syniadau Mawr Cymru ac allaf fi ddim credu faint o gefnogaeth sydd ar gael am ddim! Cefais y fraint o gwrdd â rôl-fodelau llawn ysbrydoliaeth a hefyd bobl ifanc yr un mor ysbrydoledig sydd hefyd ar ddechrau eu siwrnai fel entrepreneuriaid. Rwy’n edrych ymlaen i weld beth a ddaw’r flwyddyn nesaf a dal i weithio â Syniadau Mawr Cymru i wneud Tree Sparks yn fwy ac yn well nag erioed!


Cewch sesiynau 1-2-1 gyda Chynghorydd Busnes, canllaw ar gychwyn busnes a Simply Do Ideas - ffordd wych o ddatblygu eich syniadau busnes chi!