Caitlyn Sheldon
Caitlyn Sheldon
CVS-Technical Ltd
Trosolwg:
Busnes TG yn arbenigo mewn atgyweirio caledwedd a meddalwedd
Sectorau:
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
Rhanbarth:
Pen-y-bont ar Ogwr

Mae entrepreneur ifanc 22 oed, sydd wedi lansio ei busnes TG ei hun gan arbenigo mewn atgyweirio caledwedd a meddalwedd, yn gwrthod gadael i'w diagnosis awtistiaeth ei dal yn ôl.

Mae Caitlyn Sheldon wedi prysur ddod yn fusnes TG poblogaidd sy’n cynnig cymorth technoleg ac atgyweirio yn ne Cymru yn dilyn lansio ei chwmni CVS-Technical Ltd, gyda chymorth gwasanaeth entrepreneuriaeth ieuenctid Llywodraeth Cymru, Syniadau Mawr Cymru.

Fe’i lansiwyd ym mis Mawrth mewn ymateb i'r argyfwng costau byw presennol. Mae'r sylfaenydd Caitlyn Sheldon yn gweithio ochr yn ochr â'i chwsmeriaid i deilwra'r gwaith atgyweirio ar sail eu cyllideb bersonol gan eu haddysgu ynglŷn â phob cam o'r broses atgyweirio mewn ymdrech i fod yn fusnes tryloyw, dibynadwy. 

Mae'r entrepreneur ifanc â’i bryd ar ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid na fydden nhw fel arfer yn ei dderbyn yn y siop dechnoleg gyffredin ac i gadw ei phrisiau'n gystadleuol. Mae Caitlyn yn ymfalchïo ei bod nid yn unig yn gwmni fforddiadwy, ond yn un cynaliadwy, gan weithio gyda Tech Ebay Sellers i sicrhau rhannau cyfrifiadurol o ansawdd uchel, ail-law ar gyfer ei gwaith atgyweirio.

Cysylltodd Caitlyn, a gafodd ddiagnosis o awtistiaeth yn 2014, â Syniadau Mawr Cymru ar ôl penderfynu mentro i faes entrepreneuriaeth yn ystod y cyfnod clo. Mae Syniadau Mawr Cymru yn rhan o Fusnes Cymru ac wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi entrepreneuriaeth yng Nghymru.  Mae'r gwasanaeth wedi ei anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sydd am ddatblygu syniad busnes, yn cynnwys myfyrwyr a graddedigion, fel rhan o'i ymrwymiad i'r Warant i'r Person Ifanc.

Meddai: "Roeddwn i'n ei chael hi'n anodd cydymffurfio â threfn strwythuredig a disgwyliadau swydd draddodiadol 9-5 yn y gorffennol. Ond mae entrepreneuriaeth wedi caniatáu i mi weithio o bell a rheoli fy terfynau amser fy hun a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Drwy redeg fy musnes fy hun, gallaf greu amgylchedd gweithio tawel sydd yn ei dro yn fy helpu i reoli fy awtistiaeth."

Nawr, gyda'i busnes newydd wedi ei lansio, mae Caitlyn wedi bod yn datblygu cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol CVS Technical Ltd, gan ddefnyddio'r busnes i allu rhoi rhywbeth yn ôl i'w chymuned leol.  Drwy'r busnes, mae Caitlyn wedi dod o hyd i liniaduron ac iPads ail-law i roi tâl am ddim i ffoaduriaid o Wcrain sy'n addasu ar hyn o bryd i fywyd ac addysg yng Nghymru.

Daeth Caitlyn ar draws gwaith Syniadau Mawr Cymru gyntaf wrth wneud cais am Gredyd Cynhwysol ac fe'i parwyd yn gyflym ag Ymgynghorydd Busnes Syniadau Mawr Cymru Liz Hopkin a ddarparodd gefnogaeth a chyngor ar hanfodion rhedeg busnes - o gofrestru fel unig fasnachwr neu fasnachwr cyfyngedig, i yswiriant a hysbysebu.

Ochr yn ochr â phentyrru syniadau i dyfu ei busnes, gofynnodd Caitlyn hefyd am gymorth ariannol sydd ar gael i entrepreneuriaid ifanc yma yng Nghymru ac fe’i cyfeiriwyd at grant Rhwystrau i Ddechrau Busnes Llywodraeth Cymru. Llwyddodd Caitlyn i gofrestru ar gyfer y grant a defnyddiodd ei harian i uwchraddio ei hoffer busnes, prynu cyfrifiadur a chofrestru newydd fel cwmni cyfyngedig.

Wrth siarad am fanteision rhedeg ei busnes ei hun, meddai Caitlyn: "Mae bod yn entrepreneur mor addas ar gyfer fy ffordd o fyw. Dw i wedi creu amgylchedd gwaith unigryw fy hun ac mae gen i fy nheulu yn yr ystafell nesaf yn gefn i mi. Fyddai dim o hyn yn bosibl mewn rôl draddodiadol, ac ni fyddai'n bosibl heb gefnogaeth Syniadau Mawr Cymru.

"Fel person ifanc anabl, cymerodd Syniadau Mawr Cymru yr amser i fy mharu â chynghorydd sy'n fy neall i, fy nghyflwr, a fy nodau ar gyfer fy musnes. Dangosodd Syniadau Mawr Cymru bob llwybr posibl i mi wireddu fy mreuddwydion entrepreneuraidd a helpodd fi i'w gwireddu yn ddim ond 22 oed."

Meddai ymgynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru, Liz Hopkin: "I ddechrau, roedd Caitlyn yn disgwyl i bawb gyrraedd eu cyfarfodydd Syniadau Mawr Cymru wythnosol mewn siwt a thei, gyda chynllun busnes llawn, ond roedd yn rhyddhad canfod bod Syniadau Mawr Cymru yn wasanaeth sy'n addasu ei hun o amgylch anghenion yr entrepreneur. Buom yn eistedd am oriau yn trafod syniadau a'r ffyrdd y gallwn wneud CVS Technical Ltd yn gwmni cynaliadwy, cymunedol lle gallai ffynnu fel entrepreneur ifanc sy'n byw gydag awtistiaeth. Mae'n hyfryd gweld busnes Caitlyn yn ffynnu, a dwi'n edrych ymlaen at ddilyn ei thaith."

Wrth i'w busnes barhau i ehangu, mae Caitlyn yn gobeithio cyflogi menywod ifanc sydd â diddordeb mewn technoleg, mewn ymdrech i roi cyfleoedd gyrfa iddynt mewn sector sydd fel arfer yn cael ei reoli gan ddynion.