Cameron Calder and Max Sugar
Cameron Calder a Max Sugar
QZee
Trosolwg:
Gwasanaeth archebu lletygarwch
Sectorau:
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
Rhanbarth:
Caerdydd

Lansio gwasanaeth archebu lletygarwch entrepreneur ifanc mewn pryd ar gyfer y Nadolig

Mae entrepreneur 24-oed o Gaerdydd yn y broses o lansio ap gwasanaeth archebu rhithwir, y cyntaf o’i fath, yn y gobaith o fod mewn pryd i helpu’r sector lletygarwch dros y Nadolig.

Datblygwyd ap QZee, talfyriad o ‘queue easy’, gan Cameron Calder, gŵr gradd mewn cyfrifiadureg o Brifysgol Abertawe, a Max Sugar, gŵr gradd mewn peirianneg meddalwedd, hefyd o Brifysgol Abertawe, fel ymateb i'r cynnydd mewn cansladau a darodd sector lletygarwch y DU yn ystod y pandemig, a amcangyfrifir i gostio £17.6 biliwn y flwyddyn i fusnesau.*

Gan weithredu allan o’r Tramshed yng Nghaerdydd, mae QZee yn cydweithio â busnesau a bwyd-garwyr yng Nghymru i helpu busnesau i adfer dros y Nadolig trwy annog archebion llwyddiannus trwy opsiynau ciwio munud olaf effeithlon, cynigion bwyd digymar ac olrhain clyfar, i sicrhau bod archebion yn cael eu cyflawni’n ddidrafferth.

Mae QZee yn system archebu rhad ac am ddim, di-flaendal, sydd yn mynd i gostio hyd at 75% yn llai na chystadleuwyr blaenllaw arall, ac nid yw’r ap yn cynnwys unrhyw gostau cudd na ffioedd ychwanegol. Mae QZee yn ddull newydd o fynd i’r afael ag archebu a chiwio, ac mae’r ap yn annog cynlluniau munud olaf trwy wahodd defnyddwyr neu grwpiau i ymuno â nifer o giwiau rhithwir ar unrhyw amser, gan roi cyfle iddynt sicrhau o leiaf un o’u prif ddewisiadau. Bydd yr ap yn fanteisiol tu hwnt ar adegau prysur fel diwrnodau gemau rhyngwladol neu dros y Nadolig.

Yn ogystal, mae’r ap yn monitro lleoliadau defnyddwyr yn y cefndir ac mae’n gallu diweddaru ac aildrefnu archebion yn effeithiol ac yn awtomatig yn seiliedig ar amseroedd teithio i’r lleoliad, gan olygu bod QZee yn gwybod o flaen llaw os ydych yn mynd i fod yn hwyr ac os na fyddwch yn troi fyny, gan ddatrys y sefyllfa ar ran y busnes.

Gyda 28 o fusnesau rhyngwladol wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth yn barod, gan gynnwys Dough & Co yng Nghaerdydd, mae Cameron, cyd-sefydlydd technegol-graff QZee, yn barod i newid dyfodol profiadau archebu rhithwir pan fydd y busnes yn cael ei lansio’n hwyrach eleni.

I droi ei freuddwyd yn realiti, trodd Cameron am gymorth at Syniadau Mawr Cymru, gwasanaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd, fel rhan o Busnes Cymru, yn anelu at gefnogi unrhyw un rhwng 5 a 25 oed i ddatblygu syniad busnes, gan gynnwys myfyrwyr a graddedigion, fel rhan o’i ymrwymiad i’r Gwarant i Bobl Ifanc.

Daeth Cameron ar draws gwaith Syniadau Mawr Cymru am y tro cyntaf yn ystod sgwrs Bŵt-camp Busnes yn Tramshed, a gynhaliwyd gan Syniadau Mawr Cymru ac a oedd yn cynnwys Dan Swygart, Prif Swyddog Gweithredol Alpacr – llwyfan rhwydweithio cymdeithasol ar gyfer unigolion sy’n frwd dros deithio. Ysbrydolwyd Cameron, oedd yn ei flwyddyn gyntaf yn astudio cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe, gan Dan, a oedd wedi llwyddo i godi arian ecwiti preifat enfawr yn Silicon Valley.

Wrth drafod ei daith, dywedodd Cameron: “Doedd gen i ddim syniad busnes mewn golwg, ond cefais fy ysbrydoli gymaint gan Dan a gwaith Syniadau Mawr Cymru nes i mi estyn allan i’r gwasanaeth a dod i gyswllt â Thîm Menter Prifysgol Abertawe, a Chynghorydd Busnes Syniadau Mawr Cymru, Miranda Thomas, a roddodd bentyrrau o ddeunyddiau a chyngor i mi ar y dirwedd entrepreneuraidd yng Nghymru. O'r eiliad honno ymlaen, roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau dilyn llwybr entrepreneuraidd, y cyfan oedd angen i mi ei wneud oedd penderfynu ar fusnes.

Yn ystod gweddill ei amser ym Mhrifysgol Abertawe, bu Cameron yn gweithio ochr yn ochr â Thîm Menter y Brifysgol a Model Rôl Syniadau Mawr Cymru, Ryan Stephens, i ddatblygu ei sgiliau a’i bresenoldeb entrepreneuraidd. Yn ystod eu cyfarfodydd, bu Cameron a Ryan yn gweithio ar wella presenoldeb proffesiynol Cameron, gan drafod amrywiol strategaethau datblygu syniadau busnes ac archwilio dulliau newydd o feddwl yn greadigol.

Gyda'r gallu i ddod yn entrepreneur blaenllaw a gyda syniad busnes mewn cof, gweithiodd Cameron gyda Miranda er mwyn datblygu QZee ymhellach. Am dros flwyddyn, mae Cameron wedi bod yn cyfarfod â Miranda yn wythnosol i dderbyn arweiniad ar bob maes busnes, o ddatblygu cynllun busnes i reoli llif arian a chyfrifon yn llwyddiannus. Mae Miranda wedi bod yn ganolog i gefnogi Cameron wrth iddo lenwi dogfennaeth fusnes allweddol, ac mae wedi bod wrth law bob awr o’r dydd i adolygu broliannau busnes QZee.

Yn ogystal, cefnogodd Miranda gais llwyddiannus Cameron am Grant Cychwyn Busnes i Bobl Ifanc gwerth £2,000, y mae’n bwriadu ei ddefnyddio i gynhyrchu ffilmiau hysbysebu busnes-i-fusnes a busnes-i-ddefnyddiwr atyniadol i hyrwyddo lansiad QZee. Mae gan Cameron gynlluniau i ddefnyddio gweddill y grant i ddatblygu ei dîm ymhellach wrth iddo osod ei olygon ar dwf ledled y DU.

Mae Cameron a Max yn gweithio ochr yn ochr â thîm o chwech o weithwyr rhan amser a llawn amser, a gyflogwyd gan Cameron yn y cyfnod cyn y lansiad, ar ôl iddo lwyddo i dderbyn cyllid ecwiti preifat ar ddechrau 2022. Enillodd QZee wobr fawreddog Academi Dechrau Arni Tramshed Tech, gan ennill gofod swyddfa yn rhad ac am ddim yn hwb cydweithio’r sefydliad.

Parhaodd Cameron: “Roedd bod yn rhan o’r Academi Dechrau Arni yn anhygoel i ni. Mae’n lleoliad ardderchog ac mae’r tîm ar gael i gefnogi busnesau ar unrhyw gam i fireinio eu cynnyrch, ac roedd hynny’n hwb mawr i ni.

Dywedodd Miranda Thomas, Cynghorydd Busnes Syniadau Mawr Cymru: “Daw entrepreneuriaid atom ni yn ystod camau gwahanol o’u teithiau busnes. Dim ond hedyn o syniad sydd gan rai, tra bod gan eraill fusnesau sydd wedi’u ffurfio’n dda. Daeth Cameron atom gyda chynllun cadarn ar gyfer QZee, ond roedd angen cymorth arno i farchnata ei fusnes, datblygu cynlluniau ariannol a chwblhau’r holl waith papur pwysig. Mae Cameron yn awyddus ac yn barod i ddysgu popeth sydd i'w wybod am redeg busnes, ac rwy'n edrych ymlaen at ddefnyddio ap archebu QZee pan fydd yn cael ei lansio.”

Ychwanegodd Ryan Stephens, Model Rôl Syniadau Mawr Cymru: “Mae’r un mor bwysig i entrepreneur berffeithio ei feddylfryd a’i bresenoldeb ag ydyw iddo ddatblygu ei fusnes. Mae'r ddau yn mynd law yn llaw. Daeth Cameron ataf yn gyntaf am gefnogaeth o ran ei bresenoldeb proffesiynol, wrth weithio'r un mor galed i droi QZee mewn i’r busnes ydyw heddiw. Mae ei barodrwydd i dyfu’n broffesiynol ac yn bersonol yn dangos ei fod yn barod i fynd i’r afael ag unrhyw rwystr mae entrepreneuriaeth yn taflu ato, ac edrychaf ymlaen at ddilyn taith Cameron wrth iddo helpu i gryfhau sector lletygarwch Cymru.”

Wedi’i orlethu gan gefnogaeth Syniadau Mawr Cymru a Phrifysgol Abertawe, mae Cameron bellach wedi’i gyflwyno i Jayesh Parmar, Rheolwr Perthynas Twf Busnes Cymru, a fydd yn parhau i gefnogi breuddwydion entrepreneuraidd Cameron o wneud bywyd nos yn fwy hygyrch i fyfyrwyr yng Nghaerdydd drwy weithio ochr yn ochr â bariau prysur y brifddinas.

Mae gan Cameron gynlluniau mawr i QZee. Un o brif amcanion arfaethedig Cameron yw datblygu ap neidio ciw dibynadwy, gyda ffocws ar wella profiadau bywyd nos yng Nghaerdydd ac Abertawe. Yn ogystal, mae Cameron yn gobeithio cryfhau ei rwydwaith yma yng Nghymru trwy ffocysu fwy ar gefnogi sefydliadau a busnesau annibynnol yn Abertawe a Chaerdydd dros y Nadolig a thu hwnt.

A yw’r erthygl hon wedi eich ysbrydoli i roi eich syniad busnes ar waith? Ewch i Hafan | Busnes Cymru (gov.wales) er mwyn cychwyn arni.