Chris Dawson photo
Chris Dawson
CHRISTOPHER E DAWSON GRŴP BUSNES
Trosolwg:
Arbenigo mewn canolbwyntio ar eich llwyddiant drwy gynyddu eich elw drwy sicrhau mwy o werthiannau a chwsmeriaid a dileu eich costau.
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol

Lansiwyd ein cwmni cyntaf yn 2005 – Will-Masters Legal Services ac o hwnnw fe ddeilliodd y Cwmni Fideo Ewyllysiau cyntaf yn y DU. Hefyd lansiwyd cwmni gwasanaethau busnes ar ben Canolfan Rockefeller Efrog Newydd sydd wedi datblygu i The Business Mentalist, Ovation Business Multiplicity (ymgynghoriaeth a hyfforddiant) a Negco (Cwmni Negodiadau pwrpasol). Yma rydym yn defnyddio ein holl brofiad i gynyddu eich proffidioldeb llinell waelod. Rydym yn gwneud hyn drwy roi'r wybodaeth a’r addysg i chi ar sut i gyflwyno a marchnata eich busnes, eich cynnyrch a’ch gwasanaethau, gwerthu gan ddefnyddio atgyfeiriadau a thechnegau eraill, negodi i ennill, rhwydweithio ar-lein ac wyneb yn wyneb a therm rydym wedi'i gyflwyno o'r enw Business Multiplicity©... gwneud un gwerthiant yn werth llawer mwy. Mae Ovation Film Productions yn ein galluogi i gefnogi ein busnesau ac eraill drwy ddefnyddio'r cyfryngau marchnata gorau sydd ar gael. Yn olaf mae Santa Claus sy’n cyfuno'r holl ddysgu, cyflwyno, siarad, marchnata, ysgrifennu, adrodd straeon, diddanu, actio a mwy i gefnogi 43 o elusennau a miliynau adeg y Nadolig... ydych chi'n Credu – HoHoHo.

Derbyniais gynnig o ddiswyddiad gwirfoddol a buddsoddais ynof fy hun. Mae'n debyg bod gennych hyfforddiant, sgiliau, hobïau, pethau rydych chi'n eu mwynhau ac yn gallu eu gwneud yn dda. I mi, cerddoriaeth, siarad, ffotograffiaeth, ffilmio, actio, diddanu a busnes oedd y pethau yma. Penderfynais wneud yr hyn rwyf wrth fy modd yn ei wneud a chael fy nhalu am ei wneud. Rwy'n gweithio'r oriau rwyf am weithio, pan rwyf eisiau gweithio ac yn derbyn y cleientiaid a'r cwsmeriaid y gwn y byddant yn arwain at lwyddiant a boddhad... i'r ddau ohonom. Mae fy niddordebau busnes wedi fy ngalluogi i roi rhywbeth yn ôl i eraill, helpu perchnogion busnes newydd a chefnogi elusennau.

Yn 30 oed, sylweddolais y gallwn amgylchynu fy hun gyda'r mentoriaid busnes gorau yn y byd – Jim Rohn, Tony Robbins, Richard Branson, Andrew Carnegie, Dale Carnegie, Alan Sugar a hyd yn oed Charles Dickens, a llawer mwy. Doeddwn i ddim wedi cael addysg coleg na phrifysgol ond yn 15 oed gweithiais fel entrepreneur a DJ symudol (gan ennill mwy mewn un noson na thâl wythnos am fy swydd bob dydd). Tra bod eraill yn astudio, dysgais nad oes angen MBA arnoch i fod yn berchennog busnes llwyddiannus. Manteisiais ar y ffordd greadigol y mae'r rhain ac arweinwyr eraill yn gweithio i wthio fy hun. Mae Syniadau Mawr Cymru wedi fy ysbrydoli i helpu i'w gyflwyno i ddarpar entrepreneuriaid newydd.

Mae bod mewn busnes yn gallu golygu eich bod yn profi bob math o emosiynau. Mae yna adegau pan na allwch fforddio gwyliau, na fforddio bod yn sâl (fel sawl un cefais Covid-19) ac mae'r pandemig diweddar wedi golygu syrthio'n ôl ar gynilion o'r amseroedd da i gefnogi cyfyngiadau’r cyfnodau clo. Mae llawer wedi colli eu busnesau ac yr wyf wedi gorfod cefnu ar ychydig o gwmnïau. Mae cael portffolio amrywiol o gwmnïau wedi fy ngalluogi i oroesi pob storm, hyd yn oed Covid-19. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o gwmnïau, rwyf wedi defnyddio'r pandemig byd-eang i ailadeiladu, ail-lansio ac i ddefnyddio'r amser i ysgrifennu, datblygu siopau ar-lein ar gyfer y Nadolig, dylunio a datblygu cynhyrchion Nadolig newydd yn barod ar gyfer tymor y Nadolig - mae rheswm dros y tymor. Rydym wedi gweld llawer o fusnesau'n cau yn ystod y pandemig a ph’un ai a ydych chi’n berchen ar y busnes neu'n cael eich cyflogi gan y busnes hwnnw, y naill ffordd neu'r llall mae risg.

Mae rheoli eich tynged a'ch llwyddiant busnes eich hun yn deimlad gwych. Rydych chi'n llwyddo neu’n methu yn sgil yr hyn rydych chi'n ei wneud, eich gwasanaethau neu gynhyrchion, sut rydych chi'n marchnata ac yn gwerthu. Byddwch yn wynebu sawl rhwystr ac yn cael eich llorio ac mae'n rhaid i chi godi a bwrw ymlaen. Weithiau mae'n rhaid i chi fuddsoddi ynoch 'chi'. I mi’n bersonol, rhaid dysgu ffyrdd newydd o wneud yr un hen fusnes - rwy'n galw hyn yn 'Mynd Ag Ef i'ch Terfyn Eithaf'. Rwyf bob amser yn 'edrych y tu hwnt i'r hyn sy’n amlwg i ddod o hyd i'r anhygoel'. Mae hyn wedi arwain at gael fy enwi’n negodydd #1 yn y DU a Santa Claus #1 yn y DU gan arwain at fod ar bob Gorsaf Deledu a pherfformio o flaen miloedd a chael fy ngweld gan filiynau.

CYNGHORION AR GYFER ENTREPRENEURIAID IFANC: Tra bod eich ffôn symudol yn gwefru, cymerwch ddarn o bapur a rhestrwch yr holl bethau rydych chi'n dda yn eu gwneud (dylech gynnwys popeth). Peidiwch â stopio nes bod eich rhestr wedi'i chwblhau. Nawr rhowch dic yn erbyn pob un o'r eitemau fyddai, yn eich barn chi, yn gallu cynhyrchu arian (does dim ots faint o arian ar hyn o bryd). O'r rhestr yma – croeswch y pethau rydych chi'n dda am eu gwneud ond ddim yn mwynhau eu gwneud mewn gwirionedd. Yr hyn sydd gennych ar ôl yw busnes posibl... eich busnes. Dyma enghraifft. Ar fy rhestr i oedd diddanu, cyflwyno, siarad a sgwrsio â phobl ac yn y diwedd fe wnes i lansio a bod yn berchen ar rwydwaith busnes am ddim o'r enw BIG Business Network yn Stadiwm y Principality Caerdydd. Am ddwy flynedd cawsom 187 o gynrychiolwyr a chefnogwyd cymaint o fusnesau... a hyn i gyd yn ystod cyfnod o ddirwasgiad.

Recordiwch eich hun ar fideo drwy gadw dyddiadur dyddiol (defnyddiwch eich ffôn symudol). Gwnewch hyn am fis a'u gwylio'n ôl er mwyn darganfod sut mae eich arddull cyflwyno wedi gwella. Fe welwch hyn yn y cynnwys, mynegiant yr wyneb, iaith y corff a ph’un ai ydych chi’n fwy bywiog. Oes, mae pobl ar Youtube yn gwneud incwm 4, 5 a hyd yn oed 6 ffigwr, yn syml drwy ffilmio a siarad am eu bywydau. Pam ddim chi?

Ym mhob un o fy sesiynau, byddaf yn gofyn i bob myfyriwr gyflwyno ei hun fel Emoji. Mae hon yn ffordd wych i dorri’r garw ond hefyd pan fydd rhywun yn meddwl am emoji unigryw rydym yn ei ystyried ymhellach ac yn cael hwyl yn gwneud hyn. Fel darlithydd a model rôl fydda i ddim yn cofio enw pawb ond byddaf yn eu hadnabod drwy eu emoji.