Dafydd Emyr
Dafydd Emyr
Scŵt yn y Bŵt Cyf.
Trosolwg:
Cynnig gwasanaeth o yrru cleientiaid adref yn eu car eu hunain.
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Caerdydd

Yn ȏl fy nghrefft rwyf yn actor ac ysgrifennwr ond sefydlais Scŵt yn y Bŵt Cyf. oherwydd imi weld cilfach fusnes ac angen yn y farchnad.

YFWCH CHI MI YRRWN NI

Ar gyfer y rhai hynny oedd yn mwynhau noson allan a’n gwerthfawrogi alcohol yn gyfrifol, roeddwn yn cynnig gwasanaeth o yrru cleientiaid adref yn eu car eu hunain. Trwy ddefnyddio scwters petrol oedd yn plygu’n fach, bydden yn cyfarfod y cleient, rhoi’r beic ym mŵt ei gar ac yna yn ei yrru adref o dan ein hyswiriant llawn ni. Yna bydden yn neidio ar gefn ein scŵter a sgrialu mlaen i’r job nesa.

Mae peth amser bellach ers imi werthu’r busnes ond rwyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn i’r fenter entreprenuriadd nesaf!