Dafydd Jones - Doze
Dafydd Jones
Doze
Trosolwg:
Ap chwyldroadol ar gyfer teithwyr
Sectorau:
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
Rhanbarth:
Merthyr Tudful

Bachgen o dde Cymru'n lansio ap i gymudwyr Llundain mewn digwyddiad yn Covent Garden

Mae entrepreneur ifanc, 17 oed o Donyrefail newydd lansio ei ap symudol i helpu defnyddwyr rheilffyrdd tanddaearol Llundain rhag mynd heibio eu gorsaf.

 Lansiodd Dafydd Jones yr ap 'Doze' mewn digwyddiad yn y London Transport Museum yn Covent Garden ar 10 Hydref.  Yno hefyd oedd entrepreneuriaid eraill, megis y gwasanaeth têc-awê ar lein, Just Eat, y llwyfan codi arian torfol Seedrs, yr arbenigwyr matresi, Simba, yn ogystal â chynrychiolwyr Transport for London (TfL).

 Mae Doze yn gweithio trwy ddweud wrth ddefnyddwyr, ychydig cyn iddyn nhw gyrraedd eu gorsaf, ei bod yn bryd iddyn nhw baratoi i adael y trên. Mae Doze yn cysylltu â mannau poeth Wi-Fi yn y gorsafoedd i gael gwybod yn union lle mae’r trên o dan ddaear.  Mae’r ap ar gael i’w lawrlwytho’n rhad ac am ddim o iOS App Store ar hyn o  bryd a bydd fersiwn Android ar gael yn 2018.

Yn y lansiad, eglurodd Dafydd mai ei frawd hŷn yn disgyn i gysgu ar drên tanddaearol oedd wedi ysbrydoli Doze.  Aeth ei frawd i bendraw’r lein a bu’n rhaid iddo dalu £60 am dacsi adref. Ar ôl profiad anffodus ei frawd, defnyddiodd Dafydd ei uchelgais technegol a’i ddawn entrepreneuraidd i greu Doze, sy’n canu larwm ychydig cyn cyrraedd pen y daith i ddweud wrth ddefnyddiwr ei bod yn bryd paratoi i adael y trên.

 Wrth ddatblygu’r ap, llwyddodd Dafydd i oresgyn sawl anhawster, megis diffyg cysylltiad GPS mewn gorsafoedd Tanddaearol.  Dewisodd yn hytrach y mannau poeth Wi-Fi sydd ym mhob gorsaf danddaearol ar gyfer yr ap. Mae Dafydd hyd yn oed wedi gweithio’n agos gyda TfL i gael gwybod yn union ymhle mae pob man poeth er mwyn sicrhau y bydd yr ap yn gweithio’n iawn i’r defnyddwyr yn ystod eu taith.

Meddai Dafydd wrth siarad yn y lansiad: “Rwyf wastad wedi bod ag angerdd at dechnoleg ac mae wedi bod yn freuddwyd i mi ers peth amser greu fy ap fy hunan. Rwyf wirioneddol wedi mwynhau’r broses o ddatblygu’r ap ac wedi gwirioni fod yn barod i’w lansio.

“Rwy’n wirioneddol gredu y gallai Doze helpu miloedd o deithwyr a thwristiaid sydd eisiau ymlacio ar eu taith heb orfod poeni pryd i fynd oddi ar y trên.

 Wrth baratoi ar gyfer y lansiad, bu Dafydd yn trafod gyda darpar fuddsoddwyr posibl ehangu’r cydsyniad o Doze dramor gydag Efrog Newydd a Pharis yn cael eu nodi fel marchnadoedd allweddol yn y dyfodol.

Fodd bynnag, gan mai dim ond 17 mlwydd oed yw Dafydd, nid yw’n ddigon hen i gael benthyciad busnes ei hunan, felly, mae wedi bod yn chwilio am wasanaethau eraill i ddatblygu’i fusnes ac i'w helpu i ddarganfod ble i gael arian yn y dyfodol.

Wrth astudio yng Ngholeg Merthyr Tudful, cyfarfu Dafydd â Pencampwr Menter, Christine Bissex, sydd  wedi mentora Dafydd wrth iddo ddatblygu’i syniad fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i annog entrepreneuriaeth gyda myfyrwyr mewn Addysg Bellach. O ganlyniad, rhoddodd hi Dafydd mewn cysylltiad â Syniadau Mawr Cymru.

Roedd y gwasanaeth yn amhrisiadwy wrth ddatblygu sgiliau a chraffter masnachol Dafydd a bu’n mynychu amryw o’r digwyddiadau y maen nhw’n eu cynnal gydol y flwyddyn. Yn wir, bydd Dafydd yn mynd yn ôl i Fŵtcamp i Fusnes y mae Syniadau Mawr Cymru yn ei redeg mis nesaf.  Daw hanner cant o entrepreneuriaid i’r gweithdy preswyl tri diwrnod, sy’n cael ei gynnal, unwaith eto, yng Nganolfan Ddarganfod Margam, i fagu’r sgiliau hanfodol maen nhw eu hangen i roi eu busnesau ar seiliau cadarn a datblygu eu rhwydwaith o gysylltiadau.  

Roedd Dafydd yn y digwyddiad yn 2016 pan oedd yn y broses o ddatblygu’r cysyniad o Doze, a chafod gynghorion busnes gwerthfawr gan entrepreneuriaid o’r un fryd mewn cyfres o weithdai heriol yn ystod y tridiau.

Mae Mark Adams, Syniadau Mawr Cymru wedi cefnogi Dafydd ers iddo fod ym mhenwythnos Bŵtcamp Syniadau Mawr Cymru. Cafodd Dafydd gefnogaeth i ddatblygu’i fusnes yn ogystal â’r cefnogaeth a gafodd oddi wrth Chris Bissex yng Ngholeg Merthyr.

Bydd yn y Bŵtcamp fel Llysgennad Ifanc, yn cynnig arweiniad i’w gyfoedion sydd yn union yr un lle ag yr oedd yntau flwyddyn yn ôl.

Mae Dafydd hefyd wedi dod yn aelod o'r Entrepreneurial Spark, sbardun busnes ar gyfer mentrau yn eu cyfnod cynnar a’r cyfnod tyfu sy’n cael ei redeg gan NatWest gan ddarparu cefnogaeth, mentora, rhwydweithio a swyddfeydd yn rhad ac am ddim. Erbyn hyn mae Dafydd yn 10fed both Entrepreneurial Spark NatWest yn 1 Central Square yng Nghaerdydd.

Meddai Dafydd: “Nawr bod yr ap wedi’i lansio’n swyddogol, byddaf yn parhau i drafod gyda buddsoddwyr posibl ac yn gweithio i ehangu Doze i farchnadoedd tramor y rwy’n credu a allai fanteisio ar y cysyniad ac i sicrhau fod Doze yn rhoi’r profiad cludiant cyhoeddus gorau i'w ddefnyddwyr.

“Er mai llwyddiant Doze yw’r brif flaenoriaeth i mi, rwyf hefyd yn defnyddio fy mhrofiad hyd yma i helpu entrepreneuriaid ifanc eraill, yn siarad mewn digwyddiadau sy’n canolbwyntio ar y sector technoleg a hefyd yn cysylltu ag entrepreneuriaid eraill i ledaenu’r neges y gall unrhyw un ddilyn eu hangerdd a gwireddu eu potensial, hyd yn oed os ydych ond yn 17 mlwydd oed!"

 


Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am STEM a sut i gymryd rhan, cliciwch yma