Crefftwr ymladd ieuanc o Gymru’n defnyddio sgiliau dylunio graffeg i lansio busnes dillad ymladd unigryw
Mae crefftwr ymladd dawnus o Abertawe wedi cyfuno ei angerdd dros grefftau ymladd gyda'i gariad at ddylunio graffeg i lansio ei fusnes dillad ymladd unigryw.
Sefydlodd Daniel Huxtable (20), sydd â belt du trydedd dan a thri o deitlau byd i’w enw, Fightwear Store UK yn nechrau 2016 tra roedd yn astudio dylunio ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant. Yr un pryd, roedd yn hyfforddwr yn Academi G&K Martial Arts, ysgol crefftau ymladd ei deulu, sydd â changhennau yng Ngorseinon a Dynfant.
Mae Fightwear Store UK yn cynnig nwyddau ac offer crefftau ymladd a bocsio wedi’i dylunio’n arbennig gan Daniel ac sy’n rhan o frand unigryw Points Fighter. Gall cwsmeriaid ddewis o amrywiaeth mawr ac unigryw o ddillad, esgidiau cic-focsio a menig sy'n cynnwys dyluniadau megis baner Cymru, a phrintiadau Siapanaeg amine a camo.
Ond yr hyn sy’n wirioneddol godi sgiliau Daniel i’r brig yw adran ‘Dylunio’ch Dillad’ gwefan Fightwear Store, sy’n galluogi cwsmeriaid i gyflwyno brîf neu fanylebion o’r sut yr hoffen nhw i'w dillad edrych. Yna, bydd Daniel yn gweithio gyda meddalwedd Adobe i greu patrymau i’w adolygu a fydd, yn y man, yn cael eu cynhyrchu gan ei gyflenwyr.
Cafodd Daniel gefnogaeth mentora a busnes gan raglen Syniadau Mawr Cymru yn ei fenter entrepreneuraidd gyntaf. Mae’r rhaglen yn rhan o Wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru ac yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Eisoes, mae dyluniadau Daniel eisoes yn cael eu gwisgo gan rai o grefftwyr ymladd gorau’r byd, gan gynnwys Krisztián Jároszkievicz, Chris Aston, Elijah Everil, Natasha Baldwin a Roland Veres.
Yn wir, gofynnodd Veres, sy’n cael ei gydnabod fel un o ymladdwyr ifanc gorau’r byd ac a fydd yn seren enfawr yn y dyfodol, i Daniel yn ddiweddar i ddylunio ei fenig personol ei hun. Erbyn hyn, mae Daniel a Veres yn cydweithio ar gyfres o ddyluniadau i Veres eu gwisgo ym mhob un o'i frwydrau yn y dyfodol.
“Rwyf wastad wedi bod â’m llygad ar fusnes ac rwy'n cadw fy meddwl yn brysur bob amser. Ac mae gen i uchelgais ers pan oeddwn i'n ifanc iawn i redeg fy nghwmni fy hunan a bod yn feistr arnaf i fy hun"
“Mae gallu cyfuno fy angerdd dros grefftau ymladd a dylunio graffeg i greu busnes llwyddiannus wedi gwireddu breuddwyd i mi".
Bu Daniel yn astudio karate a chic-focsio ers yn gynnar yn 2004 ac enillodd ei Felt Du Trydedd Gradd fis Ebrill 2016. Mae wedi cynrychioli Tîm Cymru ym Mhencampwriaeth y Byd WKA yn yr Almaen yn 2007, Fflorida yn 2008, Sbaen yn 2009, Caeredin yn 2010, yr Eidal yn 2013 a 2014, Sbaen yn 2015 a'r Eidal unwaith eto yn 2016. Mae Daniel hefyd yn Llysgennad Cymru dros Gyngor Cic-focsio Prydain.
Cafodd Daniel ei gyflwyno i grefftau ymladd gan ei dad pan oedd yn cael ei fwlio'n blentyn. Mae ei deulu’n hoelion wyth sîn crefftau ymladd Cymru gyda’i dad, ei fam a'i chwaer yn hyfforddi yn academi crefftau ymladd y teulu, sydd â mwy na 370 o aelodau.
Mae Daniel yn dysgu yn yr academi bum prynhawn a gyda’r nos yr wythnos yn ogystal â mynychu’r brifysgol a rhedeg ei gwmni. Mae'n priodoli cryfder yr ysfa sydd ynddo i weithio i'r ffaith iddo gael diagnosis o ddyslecsia pan oedd yn ifanc, sydd, meddai, wedi ei yrru i lwyddo.
“Roeddwn i’n chwech neu’n saith pan gefais ddiagnosis o ddyslecsia difrifol ac roedd yn rhaid i mi, o ganlyniad, newid ysgol i fod mewn lle dysgu oedd yn fwy addas at fy anghenion. Newidiodd trosglwyddo i Ysgol Ffynone House yn Uplands fy mywyd. Gyda dosbarthiadau llawer llai a chael llawer o sylw gan athrawon, roeddwn i'n ffynnu ac mae llawer o'm llwyddiant heddiw yn ddyledus i'r cyfnod a dreuliais i yno."
Ar ôl gwneud ei lefelau A yng Ngholeg Gŵyr, Abertawe, daeth Daniel yn fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod Dewi Sant yn astudio dylunio graffeg ac yno y cyfarfu â Kathryn Penaluna. Hi yw Pencampwr Menter y Brifysgol a hi â’i cyflwynodd i Syniadau Mawr Cymru a’i helpu i ddilyn ei freuddwydion entrepreneuraidd.
Meddai Kathryn: “Rydyn ni wrth ein bodd gyda Daniel. Mae’n enghraifft wych o fyfyriwr yn defnyddio’r syniadau entrepreneuraidd o’i astudiaethau i gychwyn ei fusnes ei hunan. Yma, ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant, rydym yn gwreiddio menter ym mhob un o’n cyrsiau. Nid yn unig mae hynny’n cyfoethogi profiadau’r myfyrwyr, mae hefyd yn ei gwneud yn haws iddyn nhw gael gwaith ar ôl graddio. Mae Daniel yn un o’n llwyddiannau ac eisoes mae’n fodel rôl i'w gyd-fyfyrwyr. Rydym ni’n hynod falch o weld ei fusnes yn datblygu a thyfu".
Meddai Daniel: “Roeddwn i wedi clywed am Syniadau Mawr Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol ond Kath a ddangosodd i mi hyd a lled yr hyn y maen nhw'n ei wneud. Fel Kath, maen nhw wedi bod yn hynod gefnogol ac yn fy helpu i lansio fy mrand".
Yn ddiweddar, cymerodd ran yn nigwyddiad Dathlu Syniadau Mawr yn Stadiwm Dinas Caerdydd lle’r enillodd y wobr gyntaf am y Gweithgaredd Busnes Gorau, daeth yn ail orau yn y Wobr Unigolyn Neilltuol ac yn ail orau hefyd yn Busnes Gorau’n Gyffredinol mewn Addysg Uwch.
Roedd yn ddiwrnod rhyfeddol, meddai, ac mae’n bwriadu mynychu rhagor o ddigwyddiadau Syniadau Mawr Cymru eleni, gan gynnwys yr Her Bŵtcamp i Fusnes yn yr hydref.