Danielle Anderton ydw i, sef Lensation.
Rwy’n ffotograffydd creadigol a chorfforaethol ym Mochdre, Gogledd Cymru, tafliad carreg o Landudno a Chonwy.
Rwyf wrth fy modd â ffotograffiaeth, os ydy hynny’n golygu lluniau twll pin o Ogledd Cymru yn fy amser hamdden, neu gofnodi atgofion i gleientiaid eu trysori am byth.
Ar ôl graddio o’r Brifysgol gyda BA Dosbarth Cyntaf (Anrhydedd) mewn Cyfryngau Creadigol, gan arbenigo mewn Ffotograffiaeth, fe wnes i benderfynu gwneud gyrfa o’r hyn roeddwn i’n ei fwynhau, ac felly fe wnes i ddechrau fy musnes hyfryd.
Mae gen i’r swydd orau yn y byd, adrodd straeon unigryw drwy fy ffotograffiaeth, mae’n anhygoel.
Mae fy mhortffolio’n cynnwys lluniau o eiddo, teuluoedd ac anifeiliaid anwes, digwyddiadau corfforaethol a phriodasau o bob cwr o Ogledd Cymru, Caer, Wrecsam a Gogledd Orllewin Lloegr. Rwy’n hoffi dangos pobl yn ymlacio mewn digwyddiad, gan gofnodi’r lluniau hamddenol hynny yn ogystal â’r ffotograffau mwy ffurfiol. Rwy’n mwynhau bod yn greadigol yn y byd corfforaethol!
Rwy’n falch o’r ffaith nad ydw i’n torri ar draws digwyddiadau a bod fy ngwasanaeth yn un cyfeillgar a phroffesiynol o’r cyfarfod cyntaf un. Mae fy nghleientiaid yn bwysig i mi ac mae hyn yn amlwg yn fy ngwaith. Rwy’n dod i’w hadnabod nhw ac rwyf mor hapus eu bod nhw wedi fy newis i ac wedi fy ngwahodd i’w byd.
Fy nghyngor i unrhyw un sy’n meddwl am gychwyn eu busnes eu hunain fyddai – ewch amdani! Mae’n wych gallu gwneud rhywbeth rwy’n ei garu fel gwaith, rwy’n gwybod am ormod o bobl sy’n methu gwneud hynny; peidiwch â bod fel nhw – dilynwch eich breuddwydion.