Llun Darren Powell
Darren Powell
First 4 Numbers Ltd
Trosolwg:
Cyflenwi rhifau rasio i ddigwyddiadau ym mhob cwr o’r Deyrnas Unedig ac Ewrop.
Sectorau:
Amrywiol
Rhanbarth:
Pen-y-bont ar Ogwr

Cychwynnodd ein stori yn 2007 pan ehangodd First 4 Numbers drwy gaffael ar T&J Printers, cwmni lleol a oedd eisoes yn cynhyrchu rhifau rasio ar gyfer digwyddiadau ledled y Deyrnas Unedig. Ers hynny, mae’r busnes wedi tyfu, a gyda chymorth technoleg newydd a chyfradd gynyddol yn y niferoedd sy’n cymryd rhan mewn digwyddiadau rasio, bu modd i First 4 Numbers daflu ei hun i’r diwydiant argraffu. Erbyn hyn rydym yn darparu rhifau rasio ar gyfer digwyddiadau ym mhob cwr o’r Deyrnas Unedig ac Ewrop.