Tyra Oseng-Rees photo
Dr Tyra Oseng-Rees
Oseng-Rees Reflection
Trosolwg:
Mae Oseng-Rees Reflection yn defnyddio poteli gwydr wedi’u hailgylchu i greu paneli gwydr cynaliadwy ac artisan sydd yna’n cael eu hasio er mwyn creu gosodweithiau mewnol a phensaernïol. Rwy’n frwd ac yn angerddol dros uwch-seiclo, cynaliadwyedd, y celfy
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Amrywiol
Rhanbarth:
Abertawe

Rwy'n hanu o Norwy a deuthum i Gymru i astudio dylunio diwydiannol yn 2003 a pharhau i wneud PhD mewn gwydr wedi'i ailgylchu.  Heddiw, mae gennyf fusnes fy hun, Oseng-Rees Reflection, yn gwneud paneli gwydr cynaliadwy sydd yna’n cael eu hasio er mwyn creu gosodweithiau mewnol a phensaernïol.  Rwy'n berchen ar fy stiwdio fach fy hun yn Abertawe ac rwy’n defnyddio poteli gwydr o ffynonellau lleol yn unig i wneud y deunydd gwydr wedi’i ailgylchu sydd yna’n cael ei asio. Mae gan y busnes Strategaeth Twf Gwyrdd ac mae ganddo Adduned Gymdeithasol Gyfrifol. 

Rwyf bob amser wedi bod yn artistig, yn mwynhau datrys problemau creadigol a'r broses o dros syniad yn gynnyrch ac yn credu mewn creu cynhyrchion sy'n gynhwysol, yn hyfyw ac yn gyfeillgar i'r amgylchedd.  Gyda'r gwerthoedd hyn ynghyd â meddwl agored, chwilfrydedd, a brwdfrydedd dros ddysgu pethau newydd, credaf y gellir defnyddio poteli gwydr gwastraff i greu arteffact hardd.  Fy mhwrpas yw ysbrydoli pobl ynghylch tarddiad y cynhyrchion, y gwastraff y maen nhw’n ei greu, ac atal ras i’r gwaelod o ran cynhyrchion rhad a phrynwriaeth. 

Fel budd ychwanegol i'm busnes, rwyf hefyd yn cynnig gweithdai addysgol, darlithoedd a sgyrsiau ysbrydoledig gyda ffocws ar gelf, gwyddoniaeth, cynaliadwyedd, entrepreneuriaeth a'r economi gylchol.

Roedd fy nhad yn entrepreneur ac roeddwn bob amser yn breuddwydio am ddechrau fy musnes fy hun.  Roedd yn freuddwyd gydol oes, ond wrth imi dyfu'n hŷn, roedd mwy o heriau na chyfleoedd, a chyda diffyg cyllid ar gyfer Dechrau Busnes, roeddwn i'n meddwl bod dechrau busnes yn rhywbeth i'r cyfoethog ac nid i mi.  Ar y foment dyngedfennol hon, sylweddolais, os byddaf byth yn mynd i lwyddo, mai dyma'r amser.  Rhoddais y gorau i'm swydd, llwyddais i gael fy nghomisiwn cyntaf ac o'r diwedd, dechreuodd fy nhaith entrepreneuraidd. 

Yr her fwyaf ohonynt i gyd oedd goresgyn yr ofn o fethu, ymddiried yn fy sgiliau greddfol a gwneud penderfyniadau fy hun.  Rwyf wedi goresgyn yr holl heriau eraill gam wrth gam a byddant yn parhau i gael eu goresgyn trwy ymdrin â hwy un ar y tro.

Dywedodd un entrepreneur wrtha i yn gynnar ar fy nhaith entrepreneuraidd bod ei lwyddiant mwyaf ef wedi cael ei greu yn sgil gweithgareddau nad oeddent yn rhai busnes.  Yn y dyddiau cynnar, roedd o’r farn bod y mynd â dod dechreuol yn wastraff amser ond, fel mae’n digwydd, dyma barodd iddo gwrdd â'r buddsoddwyr cywir a rhoi'r gwerthiant mwyaf iddo.  Felly, ei gyngor ef oedd peidio â phwysleisio’n ormodol ar wneud elw a chymryd rhan mewn gweithgareddau nad ydynt yn creu elw i chi.  Nid yn unig mae hyn yn rhoi persbectif ehangach i chi ar fywyd, ond hefyd mae’n caniatáu i'ch busnes dyfu'n organig.  Gallaf i gadarnhau hyn a fy awgrym gorau i entrepreneuriaid ifanc yw rhwydweithio, gwneud ffrindiau a chysylltu â phobl.