Entrepreneur o’r Canolbarth yn gwneud ei marc gyda’i chynnyrch lledr
Mae menyw 23 oed o’r Canolbarth yn defnyddio ei thalentau dylunio i sefydlu busnes bagiau ac ategolion lledr, sy’n cael eu gwneud â llaw ganddi yn ei gweithdy ym Machynlleth.
Mae Elin Evans yn gwneud bagiau a gwregysau o ledr, ac mae’n derbyn comisiynau i ddylunio eitemau unigryw ar gyfer cwsmeriaid yn lleol ac o bob cwr o’r DU o dan ei henw busnes Elin Angharad. Mae’n arbenigo mewn ailddefnyddio nwyddau lledr ail-law – o siacedi i esgidiau – sy’n aml â gwerth sentimental i’w chwsmeriaid, ac sydd wedyn yn cael eu hymgorffori yn ei dyluniadau newydd.
Daeth Elin ar draws gwaith lledr ar ddamwain yn ystod profiad gwaith yn ail flwyddyn ei chwrs gradd Arlunydd Dyluniwr a Gwneuthurwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, lle cafodd gyfle i weithio am gyfnod byr â chrydd lleol ym Machynlleth, Ruth Emily Davey. Yma, dechreuodd wirioni ar weithio â lledr a bu’n canolbwyntio ar weithio â nwyddau lledr yn ystod gweddill ei gwaith cwrs yn y brifysgol.
Ar ôl graddio, daeth Elin ar draws gofod yng nghanol tref Machynlleth lle sefydlodd ei gweithdy ac mae wedi gwneud dros 70 o eitemau a gomisiynwyd ers dechrau eleni. Mae ei dyluniadau’n cynnwys popeth o fagiau dwrn bychain a waledi, i fagiau cario mawr, sy’n amrywio yn eu pris o £90 i £270.
Meddai: “Roeddwn yn bryderus braidd wrth feddwl am fentro a mynd ati i wneud busnes llawn amser o fy nyluniadau am nad oeddwn i’n siŵr a oedd gen i’r cwsmeriaid i wneud yn syniad yn un ymarferol, ond mewn amser mor fyr mae’r archebion wedi pentyrru. Rwyf yn dibynnu’n drwm ar gyfryngau cymdeithasol i farchnata fy nghynnyrch ac mae’n ffordd wych o sgwrsio â darpar gleientiaid am yr hyn yr hoffent i mi eu creu.
“Mae llawer o heriau’n dod yn sgil sefydlu busnes mewn cymuned wledig, ond mae’n dod â nifer o fuddiannau hefyd, fel cael cwsmeriaid ffyddlon a pheidio gorfod cystadlu â’r diwylliant ‘ffasiwn cyflym’. Mae fy ngwreiddiau’n ddwfn yn yr ardal, ac rwyf yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Cymru, sy'n rhoi rhyddid i mi gael hwyl tu allan i’r gweithdy, sy’n gallu fod yn amgylchedd dwys i berson busnes ifanc.
"Hoffwn weithio ymhellach i ffwrdd ar ryw adeg, ond mae Machynlleth yn fan cychwyn gwych i mi - rwy'n teimlo'n gyfforddus i arbrofi yma. Roedd yn bwysig imi ddechrau fy siwrnai busnes mewn ardal yr wyf yn ei wybod ac rwyf wrth fy modd i wneud fy hun a fy musnes yn rhan o'r gymuned ".
"Mae fy ngwreiddiau’n ddwfn yn yr ardal, ac rwyf yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Cymru, sy'n rhoi rhyddid i mi gael hwyl tu allan i’r gweithdy, sy’n gallu fod yn amgylchedd dwys i berson busnes ifanc"
Ar ôl ychydig fisoedd yn unig o fasnachu, cysylltodd busnes lleol ag Elin, Siop Mirsi ym Mhwllheli, ac mae’n awyddus i weithio â mwy o werthwyr, yn lleol ac ymhellach i ffwrdd, yn y dyfodol.
Meddai: “Rwyf wedi fy synnu gan y galw am fy nghynnyrch sydd wedi fy nghadw’n eithriadol o brysur yn ystod y misoedd diwethaf, ond rwyf yn gobeithio cael amser cyn hir i greu stoc a fydd yn fy ngalluogi i fentro i ffeiriau cynnyrch ledled Cymru. Rwyf wedi gosod y nod i mi fy hun o gael stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst y flwyddyn nesaf, felly erbyn hynny rwyf yn gobeithio y bydd gennyf ddigon o gynnyrch i’w werthu.”
Mae Elin wedi datblygu ei busnes gyda help Syniadau Mawr Cymru, y gwasanaeth entrepreneuriaeth i bobl ifanc yng Nghymru. Mae Syniadau Mawr Cymru yn rhan o Fusnes Cymru ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae’r gwasanaeth wedi’i anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed a hoffai ddatblygu syniad am fusnes.
Yn gynharach eleni, ymunodd Elin â chriw o 50 o bobl fusnes ifanc eraill yn nigwyddiad preswyl y Bŵtcamp i Fusnes yng Nghanolfan yr Urdd yn y Bala, gweithdy di-dâl tridiau o hyd sy’n yn cael ei drefnu gan Syniadau Mawr Cymru. Mae’r Bŵtcamp yn gyfle i entrepreneuriaid ifanc i ddysgu a mireinio eu sgiliau busnes gyda chyngor a mentora gan bobl fusnes llwyddiannus o Gymru.
Wrth sôn am ei phrofiad, dywedodd Elin: “Mi ddysgais lawer yn y Bŵtcamp ac nid oeddwn wedi llawn sylweddoli tan i mi roi’r hyn a ddysgais i ar waith pa mor werthfawr oedd y cyfan. Mae’n fan cychwyn da iawn o bobl ifanc yng Nghymru sydd â syniad am fusnes ac sydd angen arweiniad a sicrwydd i gychwyn ar eu taith ym myd busnes.”
Yn y dyfodol mae Elin yn gobeithio dechrau defnyddio lledr o ffynonellau lleol. Meddai: “"Yn dod o gefndir amaethyddol, mae olrhain yn agwedd bwysig o'r hyn rwy'n ei wneud. Er bod olrhain lledr yn anodd os nad yn amhosib penderfynu mewn rhai achosion.
"Rwy'n ymwybodol o rai tanerdai yn y DU y hoffwn ymweld yn y dyfodol, unwaith bod fy musnes yn fwy sefydledig. Bu'n angerdd ers talwm i edrych ar y broses o droi croen i guddfan lledr, a gobeithiaf gyflawni hyn yn y dyfodol. "
Mae David Bannister, un o gynghorwyr busnes Syniadau Mawr Cymru wedi bod yn gweithio’n agos ag Elin gan gynnig cyngor i’w helpu i ddatblygu ei busnes ymhellach. Meddai: “Nid yw’n syndod o gwbl i mi bod Elin wedi gweld cymaint o alw am ei chynnyrch gan ei bod yn ddylunydd galluog iawn. Mae wedi ymroi’n llwyr i’r cyfrifoldeb o fod yn berchen ar fusnes ac mae wedi dysgu llawer yn gyflym. Rwyf yn hyderus y bydd ei brwdfrydedd a’i thalent yn gwneud ei busnes yn llwyddiant mawr.”
Mae David Bannister, un o gynghorwyr busnes Syniadau Mawr Cymru wedi bod yn gweithio’n agos ag Elin gan gynnig cyngor i’w helpu i ddatblygu ei busnes ymhellach. Meddai: “Nid yw’n syndod o gwbl i mi bod Elin wedi gweld cymaint o alw am ei chynnyrch gan ei bod yn ddylunydd galluog iawn. Mae wedi ymroi’n llwyr i’r cyfrifoldeb o fod yn berchen ar fusnes ac mae wedi dysgu llawer yn gyflym. Rwyf yn hyderus y bydd ei brwdfrydedd a’i thalent yn gwneud ei busnes yn llwyddiant mawr.”