Ellen Firth
Ellen Firth
Firth Flock Flowers
Trosolwg:
Blodau Cynaliadwy
Sectorau:
Ffermio a choedwigaeth
Manwerthu
Rhanbarth:
Sir Ddinbych

Mae ffermwr 19 oed am dynnu sylw ei chymuned at fanteision tyfu blodau ym Mhrydain wrth iddi droi ei hegin syniad am fusnes blodau yn fenter lwyddiannus.

Lansiodd Ellen Firth, a oedd yn arfer ffermio cyn dechrau tyfu blodau, gwmni Firth Flock Flowers ar ddechrau 2023 gyda chefnogaeth Syniadau Mawr Cymru, ar ôl treulio dwy flynedd yn rhannau’r blodau cynaliadwy a dyfai ymysg ei ffrindiau, ei theulu a'i chymuned leol.

Bellach, dywed Ellen ei bod yn ehangu ei busnes ar ôl cael tir i’w addasu’n ardd flodau ym mis Mai 2023. Mae Ellen yn gobeithio y gall gardd flodau lle defnyddir systemau tyfu moesegol heb unrhyw gemegau, addysgu ei chymuned ynglŷn â manteision blodau a dyfir ym Mhrydain sy'n cyfateb i 10% o'r diwydiant blodau yma yn y DU.

Yn y misoedd yn dilyn agoriad mawreddog Fferm Firth Flock Flowers, mae Ellen, a gafodd ddiagnosis o awtistiaeth yn 2017, yn awyddus i gefnogi pobl ifanc eraill sydd ag awtistiaeth ac anghenion arbennig drwy gynnal gweithdai trefnu blodau a chynaeafu y gall y bobl ifanc ymgolli ynddyn nhw a phrofi manteision therapiwtig blodau drostynt eu hunain.

Dechreuodd Ellen ffermio pan oedd hi'n ddim ond saith oed, gan dreulio nosweithiau a phenwythnosau yn helpu ar ffermydd lleol. Yn 2019, symudodd Ellen a'i theulu i Sir Ddinbych i fferm fach wyth erw. Yma, wrth droed bryniau Clwyd, y dechreuodd Ellen blannu a thyfu blodau.

Wrth drafod o ble y daeth y diddordeb hwn mewn blodau, dywedodd Ellen: "Dw i wastad wedi mwynhau magu anifeiliaid, felly pan symudais i a dechrau tyfu blodau hefyd, roedd yn teimlo'n naturiol iawn i mi. Mae gwylio rhywbeth yn tyfu - boed hynny'n anifail neu'n flodyn - yn eich llenwi ag ymdeimlad arbennig o gyflawni rhywbeth.

"Fe wnaeth hefyd fy helpu i dyfu fel person sy'n byw gydag awtistiaeth. Fe gefais i'r diagnosis pan oeddwn i’n 13 oed ar ôl dwy flynedd o asesiadau a phrofion, a achosodd lawer o drawma parhaol. Dw i'n hynod o lwcus fy mod wedi dod o hyd i fy therapi wrth arddio. Dyna pam dw i mor awyddus i'w rannu ag eraill sy'n byw ag awtistiaeth neu'n dioddef gyda'u hiechyd meddwl."

Pan nad yw Ellen yn gofalu am ei haid neu'n rhoi sylw i’w gwelyau blodau, mae'n gweithio gydag ysbytai a phrifysgolion i godi ymwybyddiaeth am awtistiaeth a chefnogi gwaith ymchwil allweddol. Ar ôl cael diagnosis yn ddiweddarach yn ystod ei phlentyndod, mae Ellen yn credu y gall ei gwybodaeth a'i phrofiad helpu pobl ifanc i gael diagnosis yn gynt a chael mynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.

Meddai Ellen: "Dw i’n hynod falch o allu addysgu pobl fel entrepreneur awtistig, dyna pam dw i eisiau mynd gam ymhellach a rhannu fy ngwybodaeth am y diwydiant blodau ym Mhrydain. Er enghraifft, dydi llawer o bobl ddim yn gwybod, er bod gan flodau sy'n cael eu mewnforio ôl troed carbon sy'n sylweddol uwch na blodau a dyfir ym Mhrydain, maen nhw hefyd yn aml yn cael eu lliwio er mwyn cadw eu lliw a gwneud iddyn nhw bara’n hirach. Dydi blodau sy'n cael eu tyfu yma ym Mhrydain ddim yn cael eu rhoi o dan straen mewnforio neu liwio, sy'n golygu eu bod yn para'n sylweddol hirach ac yn llawer mwy ffres a mwy persawrus.

Yn anad dim, mae blodau a dyfir ym Mhrydain yn annog bioamrywiaeth a bywyd gwyllt i ffynnu. Yn Firth Flock, mae Ellen wedi creu amgylchedd llewyrchus lle mae anifeiliaid yn gweithio mewn cytgord â'r fflora. Mae defaid Mynydd Du Cymreig brodorol Ellen yn darparu gwrtaith naturiol i'w blodau, tra bod ei diadell o hwyaid Harlequin Cymreig, brîd prin a warchodir, yn gweithredu fel dull naturiol i reoli pla. Mae'r rhain oll yn chwarae eu rhan i wneud Firth Flock Flowers yn fusnes blodau cynaliadwy, 100% ecogyfeillgar.

Bydd yr holl flodau a dyfir yn foesegol yn Firth Flock Flowers yn cael eu defnyddio ar gyfer trefniannu comisiwn Ellen ar gyfer priodasau a threfniannu i fusnesau lleol. Mae trefniannau Ellen yn amrywio o £6 ar gyfer tusw bach mewn jar i £40 ar gyfer trefniant mwy, gwylltach, gyda phrisiau ar gyfer digwyddiadau mwy yn cael eu cytuno’n rhan o’r comisiwn.

I lansio ei busnes, gofynnodd Ellen am gefnogaeth Syniadau Mawr Cymru, sy'n rhan o Fusnes Cymru ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi entrepreneuriaeth yng Nghymru. Mae gwasanaeth Syniadau Mawr Cymru wedi'i anelu at unrhyw un rhwng pump a 25 oed sydd am ddatblygu syniad busnes, gan gynnwys myfyrwyr a graddedigion, fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r Warant i Bobl Ifanc.

Clywodd Ellen am Syniadau Mawr Cymru drwy Gyrfa Cymru, ar ôl penderfynu troi ei hobi'n fusnes ffyniannus. Yn fuan iawn ar ôl estyn allan am gefnogaeth, cafodd Ellen ei rhoi mewn cysylltiad â'r cynghorydd busnes Niamh Ferron sydd wedi cynorthwyo Ellen i baratoi cynllun busnes a chofrestru fel busnes.

Meddai Ellen: "Er bod gen i ddwy flynedd o brofiad o dyfu a chynhyrchu blodau, doedd gen i ddim syniad sut i redeg busnes. Roedd gen i gymaint o gwestiynau, doeddwn i ddim yn gwybod lle i ddechrau. Roedd fy nghyfarfodydd wythnosol, ar-lein gyda Niamh yn hanfodol wrth fy helpu i droi Firth Flock Flowers o fod yn hobi therapiwtig i fod yn fusnes go iawn."

Cyfeiriwyd Ellen at weminarau Syniadau Mawr Cymru, lle mae wedi dysgu am bopeth o ymchwil marchnata a chyfrifeg i weminarau ar y cyfryngau cymdeithasol a fu’n gymorth i Ellen adeiladu ei Chymuned ar-lein ffyniannus.

Meddai Ellen: "Gall gweithredu busnes llwyddiannus o ardal wledig fod yn anodd, ond agorodd y gweminar cyfryngau cymdeithasol fy llygaid i bwysigrwydd tryloywder a dangos eich wyneb ar-lein. Cyfathrebu â'ch cynulleidfa – boed hynny drwy rannu gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni bob dydd drwy fideos byr neu rannu cyngor arbennig i bobl trwy negeseuon cymdeithasol – yw’r allwedd i lwyddiant. Mae wedi helpu pobl i gysylltu â'm busnes gan fy helpu i ddysgu cyfathrebu mewn ffordd newydd sbon."

Gyda chymorth Syniadau Mawr Cymru, ymgeisiodd Ellen hefyd am Grant Cychwyn Busnes i Bobl  Ifanc ac ers hynny mae wedi'i defnyddio i fuddsoddi mewn tanysgrifio i letya’r wefan a chardiau busnes a deunydd pecynnu ecogyfeillgar, compostiadwy. Hefyd prynodd Ellen gyfrifiadur newydd hefyd er mwyn cynnal ei busnes ar-lein a'i nod yw gwario gweddill ei grant ar arallgyfeirio ei gardd drwy fuddsoddi mewn cnydau drutach fel dahlias, rhosod a phlanhigion lluosflwydd.

Wrth drafod twf Ellen, meddai’r Cynghorydd Busnes, Niamh Ferron: "Mae Ellen yn hynod ysbrydoledig ac mae’n enghraifft wych o sut mae derbyn cefnogaeth Syniadau Mawr Cymru yn gallu  helpu i ddatblygu eich busnes. Mae Ellen wedi gwneud y gorau o bob cefnogaeth sydd ar gael, o'n cyfarfodydd wythnosol i weminarau niferus y gwasanaeth a’r Grant Cychwyn Busnes i Bobl Ifanc. Dw i'n edrych ymlaen at wylio Ellen yn ffynnu fel entrepreneur ifanc."

Unwaith y bydd y tymor wyna wedi dod i ben y gwanwyn hwn, mae Ellen yn gobeithio y bydd blodau Firth Flock yn ffynnu ac yn blaguro fel y gall wahodd ei chymuned i'r hafan ddiogel y mae wedi’i chreu i ddysgu am fanteision therapiwtig diddiwedd tyfu blodau a pham y dylem i gyd brynu'n lleol.