Emma-Jane Williams
Emma-Jane Williams
Beegreenpals.com
Trosolwg:
Mae Beegreenpals.com yn cynnig gweithdai sydd wedi’u cynllunio i roi profiadau dysgu ymarferol i blant. Mae’r gweithdai hyn yn ymdrin ag amryw o bynciau amgylcheddol, o ailgylchu a lleihau gwastraff i arbed ynni a gwarchod bywyd gwyllt.
Rhanbarth:
Sir Y Fflint

Mae Emma-Jane Williams yn entrepreneur brwd ac yn Esiampl i’w Dilyn ymroddgar i Syniadau Mawr Cymru sy’n credu ym mhŵer arloesi, gwaith caled a phenderfyniad. Gyda chefndir cryf mewn addysg amgylcheddol ac arferion eco-gyfeillgar, mae Emma-Jane wedi llwyddo i sefydlu Beegreenplas.com, busnes sy’n rhoi pwyslais ar hyrwyddo cynaliadwyedd ac ymwybyddiaeth amgylcheddol drwy lyfrau a gweithdai i blant.

Ers cael ei hysbrydoli wedi i’w thad gael diagnosis o IPF, clefyd yr ysgyfaint sy’n gysylltiedig â llygredd aer, cenhadaeth Emma-Jane yw addysgu plant am bwysigrwydd gwarchod ein planed a chreu amgylchedd glanach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae Emma-Jane, a gafodd ei geni a’i magu yng Nghymru, wastad wedi bod yn frwd dros yr amgylchedd a’r angen i warchod ein planed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Ei chenhadaeth yw ysbrydoli ac addysgu plant am bwysigrwydd byw’n wyrdd, ac mae hi’n gwneud hynny drwy ei chyfres newydd o lyfrau “Evie and Steve Eco Adventures” a’i gweithdai rhyngweithiol difyr.

Nod y gyfres “Evie a Steve Eco Adventures” yw helpu plant ac oedolion i ddeall effaith eu dewisiadau ar yr amgylchedd, gan roi’r grym iddynt i wneud penderfyniadau eco-gyfeillgar yn eu bywydau bob dydd. Mae pob llyfr wedi’i ysgrifennu’n feddylgar a’n cynnwys darluniau hyfryd, gan hudo darllenwyr ifanc a rhannu gwersi gwerthfawr am gynaliadwyedd a phwysigrwydd gofalu am ein planed.

Yn ogystal â’r gyfres o lyfrau, mae Beegreenpals.com yn cynnig gweithdai sydd wedi’u cynllunio i roi profiadau dysgu ymarferol i blant. Mae’r gweithdai hyn yn ymdrin ag amryw o bynciau amgylcheddol, o ailgylchu a lleihau gwastraff i arbed ynni a gwarchod bywyd gwyllt. Mae gweithdai Emma-Jane yn ennyn diddordeb pobl ifanc, ac yn eu hysbrydoli hefyd i fod yn ddinasyddion sy’n ymwybodol o ecoleg ac yn mynd ati i warchod yr amgylchedd.

Fel Esiampl i’w Dilyn Syniadau Mawr Cymru, mae Emma-Jane wedi ymrwymo i rannu ei thaith a’i phrofiadau â darpar entrepreneuriaid a meddyliau ifanc. Mae hi’n awyddus i gefnogi ac annog y genhedlaeth nesaf i sbarduno newid, gan eu helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i wireddu eu syniadau mawr.

Drwy ei gwaith gyda Beegreenpals.com ac fel esiampl i’w dilyn, mae Emma-Jane Williams yn cael effaith sylweddol ar fywydau plant a’u dealltwriaeth o’r amgylchedd. Mae ei hymroddiad a’i hangerdd dros greu dyfodol mwy gwyrdd yn parhau i ysbrydoli ac ysgogi’r rheini o’i chwmpas.