Ethan Quinn photo
Ethan Quinn
EQMedia
Trosolwg:
Busnes Cyfryngau Creadigol wedi'i leoli yn Llandudno, Gogledd Cymru.
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Conwy

Fy enw i yw Ethan Quinn ac rwyf wedi bod yn rhedeg busnes cyfryngau llwyddiannus yng Ngogledd Cymru o'r enw EQMedia ers y ddwy flynedd ddiwethaf.  Dechreuais y busnes gan i fy niddordeb angerddol mewn ffotograffiaeth ddechrau pan gefais gamera bach cryno pan oeddwn yn tua 8 oed.  Ers yr eiliad honno, cwympais mewn cariad â ffotograffiaeth a fideograffeg.  Dros y blynyddoedd, ychwanegais at fy offer nes fy mod yn teimlo y gallwn fod yn fusnes proffesiynol.  Dechreuais EQMedia fel busnes ffotograffiaeth a fideograffeg syml yn gwneud ychydig o bethau bach i bobl roeddwn i'n eu hadnabod.  Ddigwyddodd dim byd mawr ar y pryd hynny i ddweud y gwir.  Roeddwn gennyf bresenoldeb amlwg yn y cyfryngau cymdeithasol a rhoddodd hynny’r cyfle i mi ddod i gysylltiad â phobl o amgylch Gogledd Cymru a oedd yn y diwydiant cyfryngau.  Fe wnaeth hyn fy helpu i ddod i gysylltiad â chleientiaid.  Byth ers hynny, rwyf wedi bod yn datblygu EQMedia i’r busnes sy’n bodoli heddiw.  Dros y blynyddoedd, rwyf wedi dysgu sgiliau mewn llawer o feysydd gwahanol gan gynnwys rheoli cyfryngau cymdeithasol, fideograffeg a  dylunio graffeg.  Sefydlais EQMedia trwy fanteisio i'r eithaf ar y cyfryngau cymdeithasol a marchnata'r busnes yn effeithiol a  chreu cysylltiadau â llawer o wahanol gleientiaid a phobl yn y diwydiant.  Fe wnes i hefyd adeiladu gwefan yr wyf yn ei defnyddio i hysbysebu fy ngwasanaethau, pecynnau, portffolio a phopeth sy'n ymwneud ag EQMedia sydd wir yn caniatáu i gleientiaid weld beth yw diben EQMedia.

P'un ai ydw i’n prynu a gwerthu o gist car, gwerthu losin yn yr ysgol neu'n cynnig gwasanaeth glanhau ceir trwy guro ar ddrysau tai pobl, ers yn grwt, rwyf bob amser wedi ceisio dod o hyd i ffyrdd o wneud arian.  Rwyf wedi siarad â pherchnogion busnesau lleol ac wedi gwylio oriau ar oriau o fideos ar-lein gan wahanol bobl busnes fel Gary Vaynerchuk, Stephen Bartlett, Elon Musk ac Eddie Hearn.  Mae'r holl bobl fusnes gwahanol hyn yn fy ysbrydoli ac maent wedi dangos i mi beth sy'n bosibl os ydych yn benderfynol, yn ddisgybledig ac yn gweithio'n galed.

Y frwydr anoddaf yw dechrau busnes.  Fel y gŵyr llawer o bobl, nid yw'n hawdd dechrau busnes ac nid oedd EQMedia yn eithriad.  Doedd gennyf ddim profiad mewn busnes, doedd gen i ddim swydd a ddim profiad na chyllid i ddechrau'r busnes.  Dysgais sut mae'r diwydiant cyfryngau a busnes yn gweithio trwy ddysgu o'm camgymeriadau ac ymchwilio i'r diwydiant.  Cysylltais hefyd ag amrywiaeth o bobl busnes llwyddiannus yr ardal - pobl fel Stephen Bartlett, Prif Swyddog Gweithredol Social Chain, cwmni sy'n werth miliynau o bunnoedd.  Brwydr arall yw ariannu'r busnes.  Roeddwn i yn ffodus.  Roeddwn wedi ychwanegu at fy offer dros flynyddoedd lawer felly nid oedd rhaid i mi wario llawer o arian yn y lle cyntaf.  Doeddwn i ddim yn gallu fforddio gwefan, felly fe wnaethon ni lwyddo i gael ychydig o fusnes trwy ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol gan ei fod yn rhad ac am ddim.  O'r diwedd, dechreuais gael gwaith yn sgil y cyfryngau cymdeithasol a chan bobl yr oeddwn wedi gwneud cysylltiad â hwy.  Er mwyn hybu'r busnes ymhellach, roeddwn yn ail-fuddsoddi unrhyw arian yr oeddwn yn ei ennill yn y busnes. 

Nid wyf erioed wedi hoffi'r syniad o gael bos felly roeddwn bob amser yn sicrhau fy mod yn gweithio'n galed fel y gallwn fod yn fos ar fy hun.  Er ei bod hi’n anodd weithiau bod yn reolwr arnoch eich fod, rwy'n falch iawn o fod yn hunangyflogedig a heb os, rhai o uchafbwyntiau'r gwaith yw gorffen prosiect, cael adborth gan gleientiaid a chyfarfod/siarad â phobl fusnes eraill.  Allwch chi byth ddysgu digon mewn busnes felly, os bydd unrhyw gyfle yn codi i ddysgu gan rywun profiadol, bachwch ar y cyfle!

Ar y cyfan, y peth gorau i'w wneud yw dysgu cymaint â phosib.  Rhowch flaenoriaeth i'r hirdymor cyn y tymor byr bob amser ac wrth gwrs, ewch amdani!  Yr un peth rwy'n glywed pobl fusnes yn ei ddweud dro ar ôl tro yw “Hen dro na wnes i ddim sefydlu’r busnes yn gynt”, a hyd yn oed os nad yw'ch syniad yn gweithio, o leiaf gallwch chi bob amser ddweud eich bod wedi rhoi cynnig arni.  Os oes gennych angerdd, rydych yn benderfynol ac yn ddisgybledig, mae unrhyw beth yn bosibl.  Byddwn hefyd yn eich cynghori i gwrdd â chymaint o bobl â phosibl, mynnwch gael eich gweld a chyfathrebu!  Yn olaf, rhowch flaenoriaeth i'r tymor byr.  Mae'n hollbwysig bod eich busnes y para am flynyddoedd - nid misoedd!  Yn fy maes penodol i, sicrhewch eich bod yn cael eich gweld ar-lein.  Mae'r byd yn fwyfwy digidol bob dydd.  Sicrhewch bod gennych bresenoldeb amlwg ar y llwyfan digidol!