Falmai Roberts
Llaeth y Llan
Trosolwg:
Llaeth y Llan
Sectorau:
Ffermio a choedwigaeth
Bwyd a diod
Rhanbarth:
Sir Ddinbych

Dechreues i’r busnes 30 mlynedd yn ôl gyda fy ngŵr; cyn hyn roedd hi’n fferm laeth fach ac roeddem ni’n methu gwneud bywoliaeth resymol ohoni. Gwnaethom ni lawer o ymchwil i weld beth allem ni ei wneud gyda’r deunyddiau crai oedd gennym ni’n barod ar y fferm.  Roeddem ni wedi dechrau rownd laeth leol yn barod, a’n cam cyntaf oedd cynnig hufen ffres; Yna gwelsom ni fod marchnad am iogwrt ymhlith cwsmeriaid o bob oedran. Dechreuom ni ei wneud yn y cwpwrdd caledu a mynd oddi yno!

Drwy ddechrau’n fach gallwch chi benderfynu a ydy’r cynnyrch yn gweithio cyn buddsoddi gormod o amser ac arian ynddo

Falmai Roberts - Llaeth y Llan

Tyfodd y busnes a gwnaethom ni gais am grant Ewropeaidd i helpu i adeiladu llaethdy newydd i’r safon uchaf oll. Erbyn hyn rydym ni’n gwerthu i’r mwyafrif o archfarchnadoedd ledled Cymru a’r tu hwnt yn ogystal â siopau fferm a danteithfeydd, ac rydym yn cynnal grwpiau amrywiol ar y fferm i weld y broses.

Gwefan: villagedairy.co.uk