Entrepreneur Abertawe yn lansio label ffasiwn cynaliadwy llwyddiannus
Mae dylunydd o Abertawe a lansiodd ei label ffasiwn cynaliadwy llwyddiannus yn ystod y cyfnod clo - sy’n ailgylchu hen siwtiau gwlyb a fyddai’n cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi - eisoes yn torri tir newydd yn y diwydiant.
Roedd Ffion McCormick Edwards, sy’n 23 oed, wedi sefydlu Barefoot Tech gyda chefnogaeth Syniadau Mawr Cymru i geisio mynd i’r afael â nifer yr hen siwtiau gwlyb sydd heb eu defnyddio ac sy’n mynd i safleoedd tirlenwi, gan ychwanegu at yr effaith ar yr amgylchedd.
Mae Ffion, sy’n sgïwr dŵr brwd ac yn dod o deulu sydd wrth eu boddau â chwaraeon dŵr, wedi datblygu busnes sy’n seiliedig ar ei chariad at y môr ac sy’n rhoi cynaliadwyedd wrth galon ethos y busnes, gan adnewyddu siwtiau gwlyb diangen.
Mae Ffion yn defnyddio 80% neu fwy o ddeunyddiau siwtiau gwlyb neopren yn ei chynnyrch, sy’n deillio o ysgolion syrffio, parciau ton fyrddio a chanolfannau gweithgareddau awyr agored ledled Cymru. Yna mae’r deunydd o’r siwtiau gwlyb, rhai ohonynt wedi’u gwneud yn y 1980au yn wreiddiol, yn cael eu troi’n ategolion Barefoot Tech, gan gynnwys bagiau cefn a bagiau ar draws y corff, gyda phrisiau’n amrywio o £30 i £71; llyfrau nodiadau gyda gorchudd gwrth-ddŵr sydd â phapur wedi’i ailgylchu’n llwyr sy’n costio £22, a phyrsiau am gyn lleied ag £8.
Dechreuodd Ffion feddwl am yrfa ym maes ffasiwn yn y chweched dosbarth lle dechreuodd ddylunio a chynhyrchu dillad a gafodd eu harddangos yn Wythnos Ffasiwn Caerdydd. Parhaodd i wneud hyn yn y brifysgol, lle bu’n astudio dylunio ffasiwn ac yn ymgymryd â rôl Cynrychiolydd Undeb y Myfyrwyr ym maes Dylunio Ffasiwn.
Ers ei lansio, mae cynnyrch Barefoot Tech wedi ymddangos yn Wythnos Ffasiwn Llundain 2021 a hefyd ennill y Wobr Cynaliadwyedd Drwy Arloesi yng Ngwobrau Amgylcheddol Cenedlaethol 2022 yn ddiweddar.
Wrth lansio Barefoot Tech, dywedodd Ffion: “Mae wedi bod yn fraint gweld fy musnes yn tyfu yma yng Nghymru ar yr un pryd â chadw’n driw i’m gwerthoedd craidd personol - sef teulu a chynaliadwyedd - a thargedu cymuned o syrffwyr a phobl ym myd chwaraeon sy’n ymwybodol o’u harferion prynu. Mae’r gydnabyddiaeth rydw i wedi’i chael hyd yma drwy ennill gwobrau a bod yn rhan o ddigwyddiadau eiconig y diwydiant, fel Wythnos Ffasiwn Llundain, wedi bod mor galonogol.”
Lansiodd Ffion ei busnes gyda chymorth gan Syniadau Mawr Cymru, sy’n rhan o Busnes Cymru ac sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi entrepreneuriaeth yng Nghymru. Mae’r gwasanaeth yn cael ei anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sy’n dymuno datblygu syniad busnes, gan gynnwys myfyrwyr a graddedigion yn rhan o’r ymrwymiad i’r Gwarant i Bobl Ifanc.
Clywodd Ffion am Syniadau Mawr Cymru drwy ei phartner, ac ar ôl darllen am y cymorth un-i-un am ddim mae’n ei gynnig i entrepreneuriaid ifanc Cymru, manteisiodd ar un o ddigwyddiadau ar-lein rhad ac am ddim y gwasanaethau gyda Overseas Apparel, sef busnes yng Nghymru sydd hefyd wedi gwneud defnydd o’r gwasanaeth ac sydd bellach â siop yng nghanol Caerdydd.
Wedi’i hysbrydoli gan stori fusnes Overseas Apparel, gofynnodd Ffion am gymorth a chafodd ei rhoi mewn cysylltiad â’r cynghorydd busnes, Liz Hopkin, sydd wedi bod yn cefnogi Ffion yn ei gwaith o weinyddu Barefoot Tech drwy ei helpu i gael nodau masnach, yswiriant treth a chofrestru fel unig fasnachwr.
Defnyddiodd Ffion ei chyfarfodydd misol gyda Liz fel cyfle perffaith i hybu hunaniaeth ddigidol a chymdeithasol y busnes, gan gynllunio strategaethau cymdeithasol i gynyddu ei chynulleidfa. Wrth i Barefoot Tech ddatblygu, roedd Liz wedi cyflwyno manteision Grant Rhwystrau Rhag Dechrau Busnes Cymru i Ffion, a wnaeth ei helpu i gofrestru fel unig fasnachwr a gwireddu ei breuddwyd o fod yn hunangyflogedig, gan redeg Barefoot Tech o’i gweithdy bach yn Abertawe yn llawn amser.
Wrth drafod manteision Syniadau Mawr Cymru, dywedodd Ffion: “Mae Syniadau Mawr Cymru wedi bod yn system gymorth gwbl allweddol i mi fel entrepreneur annibynnol. Aeth Syniadau Mawr Cymru ati i fy nghefnogi gyda’r gofynion pwysig sydd eu hangen ar gyfer lansio a chynnal busnes, gan gynnwys fy helpu gyda phethau fel treth a chofrestru fel unig fasnachwr.
“Byddwn yn annog unrhyw entrepreneur ifanc yng Nghymru sydd â syniad busnes - mawr neu fach - i gysylltu â Syniadau Mawr Cymru. Rwyf wedi elwa’n aruthrol o’m cyfarfodydd un-i-un misol lle gallaf roi fy holl gynlluniau a’m syniadau ar y bwrdd a’u mowldio’n gynllun busnes cryf wythnos ar ôl wythnos. Byddaf bob amser yn gadael fy nghyfarfodydd wedi fy ysbrydoli ac yn gosod mwy o nodau i mi fy hun. Fyddwn i ddim lle rydw i heddiw, yn gweithio’n llawn amser fel entrepreneur hunangyflogedig, heb eu cefnogaeth nhw.”
Dywedodd Liz Hopkin, cynghorydd busnes gyda Syniadau Mawr Cymru: “Pan ddaeth Ffion atom, roedd ganddi eisoes syniad busnes llwyddiannus a oedd wedi ymddangos mewn digwyddiadau blaenllaw’r diwydiant, fel Wythnos Ffasiwn Llundain, a gwyddai y gallai ymyrryd â'r diwydiant ffasiwn cylchol yma yng Nghymru. Yr hyn nad oedd ganddi oedd rhywun i gynnig cefnogaeth iddi ar yr elfennau sylfaenol o redeg busnes. Dyna ein diben yn Syniadau Mawr Cymru, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i gefnogi Ffion ar hyd ei thaith fel entrepreneur.”
Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Ar ôl cael eu canlyniadau dros yr haf, mae llawer o bobl ifanc nawr yn gwneud penderfyniadau am eu dyfodol. Mae’r Gwarant i Bobl Ifanc yma i’w helpu i wneud y penderfyniad cywir, p’un ai a ydyn nhw’n chwilio am addysg, hyfforddiant, cyflogaeth neu’n cymryd y camau tuag at hunangyflogaeth fel Ffion. Rydyn ni’n falch o gynnig cyfle i entrepreneuriaid ifanc sydd â meddylfryd entrepreneuriaid i gychwyn a datblygu eu busnesau a chyfrannu at y byd busnes yng Nghymru drwy gymorth ariannol a chyngor.”
Ar ôl gwylio ei busnes yn ffynnu gyda dros 200 o archebion wedi dod i law hyd yma, mae Ffion bellach yn breuddwydio am ymestyn ei hamrediad o gynnyrch ac agor stondinau mewn ardaloedd arfordirol lleol yng Nghymru lle gall cwsmeriaid ddod yno gyda’i hen siwtiau gwlyb, dillad nofio ac ategolion i gael eu hatgyweirio, i geisio cynnal y cylchred cynaliadwy.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://www.barefoottech.co.uk/
Ydy hyn wedi’ch ysbrydoli chi i roi eich syniad busnes chi ar waith? Ewch i https://businesswales.gov.wales/bigideas/cy i ddechrau arni.