photo of Gabriella Di Salvo
Gabriella Di Salvo
Grow Up Gaby
Trosolwg:
Siop anrhegion sy'n arbenigo mewn cynhyrchion â thema lles fel mygiau, matiau diodydd a chardiau cyfarch
Sectorau:
Manwerthu
Rhanbarth:
Castell Nedd Port Talbot

Mae un o raddedigion Prifysgol De Cymru (PDC) wedi cael y cyfle i redeg ei busnes yn llawn amser ar ôl derbyn cymorth gan gynllun cychwyn busnes y Brifysgol.

Graddiodd Gabriella Di Salvo o Gastell-nedd gyda BA (Anrh) yn y Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig yn 2019. Mae hi bellach yn gyfrifol am Grow Up Gaby, siop anrhegion sy'n arbenigo mewn cynhyrchion â thema lles fel mygiau, matiau diodydd a chardiau cyfarch.

Pandemig y coronafeirws a'i hysbrydolodd i ddechrau ei busnes ym mis Mawrth 2020.

"Roedd fy iechyd meddwl yn dioddef yn ystod y cyfnodau cloi, ac roeddwn i'n teimlo y gallai eraill fod yn teimlo’r un fath. Roeddwn i wir eisiau rhoi rhywbeth cadarnhaol i'r byd yn ystod cyfnod mor anodd," meddai.

Ym mis Mehefin 2021 gwnaeth gais am gyllid yn Den Syniadau Disglair PDC (BID), cynllun a sefydlwyd yn 2009 i gynnig cymorth i fentrau busnes myfyrwyr a graddedigion PDC.  Mae'r cynllun, sydd ar waith deirgwaith y flwyddyn, yn caniatáu i unigolion gyflwyno eu syniadau busnes i banel o arbenigwyr, gan gynnwys entrepreneuriaid lleol.

"Fe ymunais â BID am fy mod i’n dymuno ehangu ystod fy nghynnyrch ac felly roedd angen cyllid arna i ar gyfer peiriannau ac offer sylfaenol," meddai Gaby.

"Roedd yr holl broses yn rhwydd.  Roedd y cam cyntaf yn cynnwys ateb cwestiynau ynghylch y busnes, y cynnydd yr oeddwn i wedi'i wneud hyd yn hyn a'r hyn roeddwn i am ei gyflwyno. Fe gyflwynais i fy syniadau i bedwar beirniad ac esbonio sut y gallwn i ddefnyddio'r cyllid i dyfu’r busnes."

Ers hynny, mae Gaby wedi gadael ei swydd lawn amser i ganolbwyntio ar Grow Up Gaby ac wedi gwerthu dros 3,000 o eitemau drwy ei siop ar-lein.

"Rwyf wrth fy modd yn bod yn greadigol bob dydd ac yn derbyn adolygiadau anhygoel ar y cynnyrch.  Bob tro rwy'n clywed bod y cynnyrch wedi gwneud gwahaniaeth i iechyd meddwl rhywun, rwy'n teimlo mor hapus fy mod i wedi cyfrannu at hynny," meddai.

Mae Gaby bellach yn gobeithio ehangu amrediad ei chynnyrch ac mae hefyd wedi ysgrifennu a darlunio cyfres o lyfrau iechyd meddwl i blant y mae'n gobeithio ei chyhoeddi.

Dywed Gaby fod y gefnogaeth y mae wedi'i chael gan BID wedi bod yn help mawr gyda'i busnes.

"Mae'r cyllid a'r adborth wedi helpu'n aruthrol, a byddaf yn bendant yn defnyddio cyngor y beirniaid wrth lywio fy musnes yn y dyfodol. Rwyf hefyd yn cael cefnogaeth un-wrth-un gan un o'r beirniaid, sy'n amhrisiadwy. Byddwn yn bendant yn argymell gwneud cais i BID os oes gennych syniad busnes neu os ydych newydd ddechrau arni," meddai.

Dywedodd Emma Forouzan, Rheolwr Menter Myfyrwyr PDC: "Daeth Gabriella i Academi Gweithwyr Llawrydd PDC yn 2019 i ddatblygu ei gwybodaeth a'i hyder i ddechrau busnes. Mae’n bleser gweithio gyda Gaby, ac mae'n wych gweld ei bod hi wedi dilyn ei breuddwyd i helpu iechyd meddwl pobl eraill. Drwy ein rhwydwaith cynfyfyrwyr mae Gaby wedi cadw mewn cysylltiad ac wedi parhau i elwa ar y cymorth a'r cyllid sydd ar gael i'n graddedigion."