Mae dau o raddedigion o Brifysgol Caerdydd a lansiodd eu cwmni realiti rhithwir ar gyfer y sector addysg, eiddo ac adwerthu yn defnyddio eu menter i helpu pobl i fynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu busnesau yn sgil pandemig y coronafeirws, ac maent wedi camu i farchnadoedd newydd o’r herwydd.
Fe wnaeth George Bellwood, 25, ynghyd â’i gyd-sefydlydd Robin David, 24, greu Virtus Tech, sy’n gwmni busnes-i-fusnes sy’n defnyddio realiti rhithwir ac estynedig i deithio o amgylch prifysgolion, adwerthwyr, ac i weld cartrefi sydd ar y farchnad, gan gyfuno profiadau go iawn a phrofiadau digidol i gwsmeriaid a phrynwyr tai.
Mae George a Robin wedi datblygu eu syniad am fusnes gyda help Syniadau Mawr Cymru, sy’n rhan o Busnes Cymru ac a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Bwriedir y gwasanaeth ar gyfer unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sydd eisiau datblygu syniad am fusnes, gan gynnwys myfyrwyr a graddedigion. Ers ei lansio yn 2018, mae Virtus Tech wedi mynd o nerth i nerth, gan ehangu i farchnadoedd newydd ac ychwanegu cleientiaid i’w bortffolio megis Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Caerdydd, a’r lleoliad cydweithio Tramshed Tech.
Mae Virtus Tech yn un o filoedd o fusnesau yng Nghymru y mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio arno mewn rhyw ffordd. Yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf, nid oedd George a Robin yn gallu ymweld â safleoedd eu cleientiaid i gael y delweddau yr oeddent eu hangen i greu teithiau VR, ac fe wnaeth hynny eu hysbrydoli i ddylunio eu platfform teilwra teithiau eu hunain sy’n galluogi i gleientiaid greu eu teithiau eu hunain.
Fodd bynnag, ar ôl yr effaith gychwynnol, mae gwasanaethau’r cwmni wedi profi eu bod yn amserol ac yn berthnasol, gan ganiatáu i brifysgolion a busnesau y bu’n rhaid iddynt gau yn ystod y pandemig gamu i’r byd digidol, gan gyrraedd cwsmeriaid newydd ar-lein.
Yn ystod y pandemig, fe wnaeth Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gysylltu â Virtus Tech er mwyn creu taith ddigidol helaeth o’i thair prif gampws yng Nghaerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan ac Abertawe, gydag oddeutu 100 o ystafelloedd neu fwy ym mhob adeilad.
Meddai George: “Gan fod y dyddiau agored wedi’u canslo, taith rithwir oedd y ffordd fwyaf effeithiol nid yn unig o ddangos y campysau a’r cyfleusterau y mae’r brifysgol yn ei chynnig ond hefyd o ddangos i’r myfyrwyr presennol a’r darpar fyfyrwyr yr hyn y mae’r brifysgol yn ei wneud i sicrhau amgylchedd diogel ac i ddilyn canllawiau’r llywodraeth.
“Gan weithio’n agos â rheolwyr prosiect y Brifysgol, cymerodd dros wythnos i ffilmio’r brifysgol gyfan, ond yn awr gallwn ddweud, hyd yma, fod y daith rithwir at y pwrpas, fwyaf ar gyfer sefydliad addysg wedi cael ei chreu gan Virtus Tech”.
Aeth ymlaen: “Yn y diwydiant eiddo, mae Virtus Tech yn caniatáu ichi fynd o amgylch tai cyn mynd i’w gweld, gan nid yn unig arbed amser i’r asiant tai a’r prynwyr ond mae hefyd yn lleihau’r cyswllt wyneb yn wyneb. Yn y sector lletygarwch, caiff VR ei ddefnyddio i hysbysebu gwestai, canolfannau digwyddiadau neu brofiadau ar gyfer cwsmeriaid ein cleientiaid.”
Wrth siarad am Syniadau Mawr Cymru sydd wedi rhoi cymorth iddo ar ei siwrnai fusnes, dywedodd George: “Clywais am Syniadau Mawr Cymru drwy Hyrwyddwr Menter Prifysgol Caerdydd, Claire Parry-Witchell, ac fe wnaeth hi fy nghyfeirio at un o’r cynghorwyr busnes yn Syniadau Mawr Cymru. Pan oeddwn yn y brifysgol ac ers graddio, mae’r gwasanaeth wedi cynnig cefnogaeth werthfawr imi bob cam o’r ffordd. Mae’n braf gwybod y gallaf godi’r ffon a gofyn am gyngor pryd bynnag y byddaf angen.”
Mae Virtus Tech eisoes wedi cyflwyno gwasanaeth newydd, sy’n defnyddio dysgu peirianyddol ac adnabod delweddau sy’n caniatáu i gleientiaid gael cipolwg gwell gyda’u teithiau. Mae’r platfform newydd wedi bod yn ychwanegiad gwerth chweil i’w gwasanaethau, gan ei fod yn monitro pa mor effeithiol yw’r teithiau gyda chwsmeriaid.
Eglurodd George: “Drwy roi i gleientiaid fynediad i’n dangosfwrdd Digi Data amser real mae’n galluogi iddyn nhw, fel defnyddwyr, gael mwy o ymgysylltiad â’r teithiau. Drwy ddysgu peirianyddol rydyn ni’n gallu helpu cleientiaid i wneud penderfyniadau mwy gwybodus gan ddefnyddio modelau trawsnewid cyflwr a rhagfynegi cyfresi amser.”
Meddai Claire Parry-Witchell, Swyddog Menter ym Mhrifysgol Caerdydd, a gyfeiriodd George at Syniadau Mawr Cymru: “Mewn dwy flynedd yn unig, mae George wedi cymryd camau breision ymlaen i ddatblygu ei fusnes. Fel dyn busnes craff, mae George wedi llwyddo i droi’r flwyddyn hon, a fu’n heriol i gynifer o fusnesau, yn llwyddiant i’w gwmni ei hun, gan gamu i farchnadoedd newydd o’r herwydd. Mae’r ffaith iddo ennill cleientiaid newydd yn gyson a chyflogi aelod newydd o’r tîm yn destament i’r gwaith caled y mae George wedi’i wneud yn Virtus Tech.”
I gael rhagor o wybodaeth ewch i: https://virtustech.co.uk/