George Dugard
George Dugard
Dugard Property Ltd
Trosolwg:
Entrepreneuriaid ifanc yn profi yn atyniadol gyda busnes buddsoddi newydd
Rhanbarth:
Caerffili

Mae dau ddarpar entrepreneur ifanc ar fin procio’r farchnad eiddo yng Nghymru, gyda’u cwmni eu hunain sy’n ymdrin â rhai o’r heriau a wynebir gan fuddsoddwyr a gwerthwyr.

Mae George Dugard, sy’n 25 oed, ynghyd â’i bartner busnes, Hannah Robson sy’n 27 oed, wedi sefydlu Dugard Property Ltd, sydd yn selio bargeinion buddsoddi mewn eiddo ar gyfer cleientiaid tra’n helpu pobl yn ogystal sy’n ceisio gwerthu ‘eiddo problemus’.

Dechreuodd y pâr eu busnes gyda help Syniadau Mawr Cymru, sy’n rhan o Busnes Cymru ac wedi’i gyllido yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.  Gall y gwasanaeth gefnogi unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sy’n dymuno datblygu syniad busnes.

Mae’r cwmni a leolir yng Nghaerffili, sydd wedi bod yn gweithredu ers ychydig dros chwe mis, yn cynnig ffordd amgen i’r dull traddodiadol o werthu tŷ drwy werthwyr tai.  Mae George a Hannah yn gweithio yn uniongyrchol gyda’r perchnogion tai, sy’n golygu bod y gwerthwyr yn cael gwerthiant cyflym heb fynd i gostau gyda ffioedd asiantaeth a’u ffioedd cyfreithiol wedi’u talu, beth bynnag yw cyflwr yr eiddo.

Mewn amser byr yn unig ers ei lansio, mae Dugard Property Ltd wedi datblygu rhwydwaith o gysylltiadau ac mae’n gweithio gyda’i gleientiaid ar sail un i un neu drwy restr bost er mwyn cynnig amrediad o eiddo sydd ar y farchnad neu oddi ar y farchnad.

Dechreuodd gyrfa George yn y diwydiant eiddo pan oedd ond yn 16 oed, pan oedd yn gwneud buddsoddiadau bychain mewn eiddo gyda’i dad.  Yna, bu’n gweithio fel Rheolwr Prosiect ar safle adeiladu yn Awstralia ar ôl cwblhau ei radd yn y Gyfraith.

Wrth siarad am ei fenter busnes newydd, dywedodd George: “Meddyliwch amdanom ni fel eich gwasanaeth siopa personol am eiddo.  Gyda’r farchnad dai yn symud ar y cyflymder y mae’n ei wneud, a bywyd modern yn golygu bod gennym ni lai o amser ar ein dwylo, rydym yn dymuno hwyluso’r broses i bobl drwy wneud y gwaith caled drostyn nhw.

“Gall buddsoddi mewn eiddo gynnig cymaint mwy o enillion na chyfrifon cynilo, yn arbennig felly gydag ansicrwydd gwleidyddol sy’n golygu nad yw cyfraddau llog yn dda iawn.  O ganlyniad, rydym ni yma i arwain cleientiaid ar hyd y ffordd i wneud buddsoddiad gwych mewn eiddo.”

Aeth Hannah ymlaen i ddweud na fu eu siwrnai fusnes hyd yma heb ei heriau, “Mae’r rhan fwyaf o fuddsoddwyr wedi bod yn barod i dderbyn ein dull arloesol, ond yr her oedd datblygu cysylltiadau cryf gydag asiantwyr.  Gall fod yn anodd egluro i asiantwyr ein bod yn gallu gweithio ar y cyd yn hytrach nag yn erbyn ein gilydd.”

 

Aeth Hannah ymlaen i ddweud na fu eu siwrnai fusnes hyd yma heb ei heriau, “Mae’r rhan fwyaf o fuddsoddwyr wedi bod yn barod i dderbyn ein dull arloesol, ond yr her oedd datblygu cysylltiadau cryf gydag asiantwyr.  Gall fod yn anodd egluro i asiantwyr ein bod yn gallu gweithio ar y cyd yn hytrach nag yn erbyn ein gilydd.”

Gyda George yn dod yn wreiddiol o Ynys Wyth a Hannah yn dod o Gaerffili, treuliodd y cwpl rhywfaint o amser yn ymchwilio lle oedd y lle gorau i sefydlu eu busnes.  Gwnaethon nhw benderfynu sefydlu yng Nghaerffili, yn rhannol oherwydd eu bod eisoes yn adnabod yr ardal, ond hefyd oherwydd y gefnogaeth y gallen nhw ei chael gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cyfarfodydd rheolaidd gyda’u cynghorydd busnes eu hunain, Mark Adams.

Yn fwyaf diweddar, mynychodd George ddigwyddiad preswyl Syniadau Mawr Cymru yng Nghanolfan yr Urdd ym Mae Caerdydd.  Mae Bwtcamp i Fusnes yn rhoi cyfle i entrepreneuriaid ifanc ddysgu a hogi eu sgiliau busnes drwy gyfrwng gweithdai, cyngor a mentora gan bobl fusnes llwyddiannus o Gymru.

Dywedodd George: “Mae cael ein cynghorydd busnes ein hunain wedi golygu bod gennym ni gefnogaeth, pa rwystr bynnag yr ydym yn ei wynebu.  Y peth fwyaf defnyddiol y mae Mark yn ei ddarparu yw gweithredu fel dadleuydd y diafol.  Mae’n dewis y problemau posibl o sefyllfa cyn yr ydym ni hyd yn oed wedi meddwl amdanyn nhw ac mae’n rhoi cyngor adeiladol inni ynglŷn â sut i symud ymlaen.  Yn ogystal, rydym wedi cael ein cyfeirio at Fodelau Rôl dirifedi gan Syniadau Mawr Cymru drwy gydol ein hamser wrth weithio gyda Mark ac mae hyn wedi bod yn anhygoel o ddefnyddiol ar gyfer ein twf parhaus.”

Eleni, mae gan George a Hannah uchelgeisiau i ddatblygu eu portffolio rhentu i rentu, sy’n golygu y byddai Dugard Property Ltd yn rhentu gan landlordiaid sy’n chwilio am gytundebau rhentu hirdymor yng Nghaerdydd a Chasnewydd.  Bydd hyn yn cael ei wneud ochr yn ochr â chynhyrchu cyllid preifat ychwanegol gan fuddsoddwyr er mwyn adeiladu eu portffolio eu hunain.

Dywedodd Mark Adams eu cynghorydd busnes: “Mae George a Hannah yn ddau o unigolion uchel eu cymhelliad gyda gwir angerdd am y farchnad hon.  Rydw i’n hyderus y bydd eu hymglymiad a’u craffter busnes yn gweld eu busnes yn datblygu yn gyflym ac edrychaf ymlaen at weld beth a fydd gan y dyfodol i’w gynnig iddyn nhw.”