George Savva
It Takes 7 Seconds
Trosolwg:
Darparu rhaglenni hyfforddiant sy'n galluogi pobl i ddatgloi pŵer llawn eu hymennydd
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Casnewydd

Mae ‘It takes…7 seconds Ltd’ yn darparu rhaglenni hyfforddiant sy'n galluogi pobl i ddatgloi pŵer llawn eu hymennydd. Mae'r cwmni yn defnyddio dull unigryw wrth gyflwyno hyfforddiant gan ei fod yn gosod gwybodaeth newydd ym meddyliau’r rhai sy’n ei derbyn ‘am byth’, ac mae’n eu galluogi i ‘gofio data yn syth ac ar alw'.

‘Entertrainment’ yw’r term sydd ganddyn nhw ar gyfer y math yma o addysg a hyfforddiant, ac ‘Edutainment' ar gyfer yr elfen addysgol.

Rydw i wastad wedi cael trafferth ffrwyno fy nghreadigrwydd. Un o’r pethau anoddaf i mi o ran gweithio mewn cwmni yw dod o hyd i gydweithwyr sy’n rhannu’r un brwdfrydedd ynghylch syniadau pellgyrhaeddol.

Mae gen i gynllun 3, 5 a 10 mlynedd. Yn ystod y 3 blynedd nesaf, rydw i am gael o leiaf 10 hyfforddwr hynod fedrus yn gweithio yn y busnes yn cyflwyno’r hyfforddiant uwchraddol yma yr ydym yn ei ddatblygu a’i gyflwyno ar hyn o bryd sy’n newid bywydau.

Ymhen 5 mlynedd, bydd gan y cwmni o leiaf 6 rhaglen ‘gwelliant personol’ wedi’u datblygu ac yn arwain y farchnad. Bydd y rhain yn cael eu cynnal yng Nghymru yn ogystal â ledled y DU. Mewn 10 mlynedd, bydd 7 Seconds yn gwmni hyfforddiant adnabyddus sy’n arwain y farchnad.