Georgina James photo
Georgina James
GEEJ
Trosolwg:
Busnes ffordd o fyw sy’n cyfuno hyfforddiant ffitrwydd a brand gwisg actif, wedi’i ysbrydoli gan ei chariad at ddawns.
Sectorau:
Gofal iechyd a gofal cyflenwol
Deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch
Rhanbarth:
Torfaen

Mae menyw 25 oed o Flaenafon yn Nhorfaen wedi lansio busnes ffordd o fyw sy’n cyfuno hyfforddiant ffitrwydd a brand gwisg actif, wedi’i ysbrydoli gan ei chariad at ddawns.

Mae Georgina James, sy’n gweithio’n llawn amser i gymdeithas dai yng Nghymru, wedi defnyddio ei hamser rhydd i sefydlu GEEJ, llwyfan hyfforddi sy’n cynnig dosbarthiadau ffitrwydd dawns i fenywod ifanc ledled Cymru gyda’r nod o’u grymuso. Mae’r dosbarthiadau wedi’u targedu at fenywod 16 oed a hŷn, ac mae gan Georgina eisoes oddeutu 80 o bobl yn dod yn rheolaidd bob wythnos. 

Dechreuodd Georgina ei busnes gyda chymorth gan Syniadau Mawr Cymru, rhan o Fusnes Cymru, sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae’r gwasanaeth yn cael ei anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sy’n dymuno datblygu syniad busnes, gan gynnwys myfyrwyr a graddedigion.

Yn dilyn llwyddiant ei dosbarthiadau ffitrwydd ar-lein, mae Georgina hefyd wedi lansio brand gwisg actif GEEJ. Mae’r casgliad cyntaf, Candy, ar gael i’w brynu ar ei gwefan gyda chynnyrch sy’n amrywio o gapiau a hwdis i fras chwaraeon a photeli dŵr.

Wrth sôn am sefydlu GEEJ, dywedodd Georgina: “Yn ystod fy nghyfnod yn gweithio yn y gymdeithas dai, rwyf wedi gweithio’n agos gyda phobl ifanc, gan eu helpu i fagu hyder a meddwl am eu dyfodol. Rwyf hefyd wedi bod wrth fy modd yn dawnsio ers pan oeddwn yn ifanc ac rwy’n hyfforddwr cymwysedig. O’m profiad personol, sylweddolais y gallwn gyfuno’r ddau a defnyddio dawns i rymuso a chodi hwyliau eraill, ac felly roedd creu GEEJ yn gwneud synnwyr.”

Mae Georgina yn ymuno â nifer cynyddol o entrepreneuriaid ifanc o Gymru sydd wedi defnyddio’u hamser rhydd yn ystod y cyfnod clo i gychwyn busnes bach ar yr ochr sy’n cyd-fynd â gwaith neu addysg. Mae yna botensial ar gyfer incwm ychwanegol ond hefyd mae entrepreneuriaid fel Georgina yn gallu gweithio ar brosiect sy’n bwysig iddyn nhw wrth uwchsgilio eu hunain.

Cafodd y busnes ei lansio’n wreiddiol ym mis Ionawr 2020 fel dosbarthiadau wyneb yn wyneb, ond yn sgil cyfyngiadau symud Covid fe wnaeth Georgina arallgyfeirio ei busnes yn gyflym i gynnig sesiynau ar-lein. Serch hynny, cafodd GEEJ lwyddiant parhaus gyda mwy na 200 o ddosbarthiadau’n cael eu cynnal ar-lein yn ogystal â sicrhau enwebiad i Georgina ar gyfer Entrepreneur Iechyd a Llesiant y Flwyddyn yng Ngwobrau Entrepreneuriaid Prydain Fawr. Hefyd, cyrhaeddodd y rownd derfynol ar gyfer Clwb Ffitrwydd Grŵp Gorau yng Ngwobrau Ffitrwydd Cymru a Busnes Iechyd a Llesiant Gorau yng Ngwobrau Busnes Cymru.

Wrth siarad am redeg busnes yn ystod pandemig, dywedodd Georgina: “Pan ddechreuodd y cyfnod clo a llawer o bobl yn gaeth yn y tŷ, roeddwn i’n gwybod y gallai dosbarthiadau dawns a hyfforddiant ffordd o fyw GEEJ helpu i roi hwb i’r galon, rhoi gwên ar wynebau pobl a gwneud y corff deimlo’n dda. Dechreuais greu heriau iechyd a llesiant yn ogystal â her ‘Caru eich Hun’, gan osod tasgau gwahanol i’r aelodau bob wythnos a chael gwobrau i’r enillwyr. Mae GEEJ yn fwy na dosbarthiadau dawns yn unig, mae’n llwyfan i bobl sydd eisiau symud yn eu bywyd; symud eu cyrff a symud tuag at eu nodau.”

Wrth i’r cyfyngiadau symud lacio, mae Georgina wedi dychwelyd i ddosbarthiadau a hyfforddiant wyneb yn wyneb, gan ddechrau o £5 ar gyfer dosbarthiadau unigol neu £17 am docyn misol. Gyda bron pob dosbarth yn llawn, mae Georgina wedi dechrau hyfforddi rhai o’i haelodau er mwyn iddyn nhw allu cynnal dosbarthiadau GEEJ yn y dyfodol, gan ganiatáu iddi gynnal mwy o sesiynau. Mae hi hefyd wedi cydweithio ag un o’i haelodau sy’n artist i greu llyfr lliwio ymwybyddiaeth ofalgar a fydd yn cael ei gyhoeddi yn 2022.

Gydag uchelgais o ehangu’r brand ffordd o fyw ymhellach fyth yn y dyfodol, dywedodd Georgina: “Mae pob eiliad o’r amser rhydd sydd gen i’n cael ei dreulio’n gweithio ar GEEJ. Byddwn wrth fy modd yn bod yn berchen ar fy stiwdio yn y pen draw, a allai fod yn ganolfan llesiant ar gyfer dosbarthiadau dawns, hyfforddiant ffitrwydd, cwnsela a mwy, i helpu menywod i fyw eu bywydau gorau.”

Ar ôl dod ar draws Syniadau Mawr Cymru mewn ffair gyrfaoedd, aeth Georgina i’r digwyddiad ‘Bootcamp i Fusnes’ rhad ac am ddim a oedd ar gael i unrhyw un rhwng 16 a 25 oed yng Nghymru gyda syniad busnes. Wrth siarad am y profiad, dywedodd Georgina: “Roedd clywed straeon llwyddiant entrepreneuriaid ifanc eraill sydd wedi ymgysylltu â Syniadau Mawr Cymru ac wedi mynd ymlaen i ddechrau busnes yn ysbrydoledig iawn ac wedi rhoi cipolwg gwerthfawr i mi ar fyd busnes. Roeddwn i hefyd yn gallu cysylltu ag eraill yn yr un swydd â fi, a oedd yn ffordd wych o dyfu fy rhwydwaith.” 

Dywedodd Mark Adams, cynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru: “Mae Georgina wedi cyfuno ei sgiliau hyfforddi’n glyfar â’i brwdfrydedd dros ddawnsio ac wedi datblygu busnes cadarn sydd â’r nod o fod o fudd i bobl eraill. Mae ei chydnerthedd a’i phenderfyniad wedi bod yn amlwg iawn yn ystod y pandemig, gan addasu i ddosbarthiadau ar-lein i sicrhau llwyddiant GEEJ. Mae hi eisoes wedi cyflawni cymaint yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac rwy’n edrych ymlaen at ei gweld yn parhau i lwyddo.”