Georgina
Georgina Powell
Velvet Sunflower
Trosolwg:
Roeddem am rannu'r stori wych hon gan Goleg Merthyr Tudful!
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Manwerthu
Rhanbarth:
Merthyr Tudful

Mae Georgina yn ddawnsiwr ac mae'n goresgyn llawer o rwystrau i ddilyn ei hangerdd yn y celfyddydau.

Astudiodd ei Lefel A yng Ngholeg Merthyr ac aeth ymlaen i raddio o Ysgol Ballet a Dawns Gyfoes Rambert ac mae wedi parhau I gynnal ei sgiliau dawns dros y cyfyngiadau symud tra hefyd yn datblygu ei chariad arallat ddillad a genres cerddoriaeth o'r 1950aua'r 1960au. Mae Georgina bob amser wedi cael ei hysbrydoli gan ddillad ‘vintage’a'r gerddoriaeth sy'n rhan o hynny. Gyda chymorth a chefnogaeth Christine Bissex o Goleg Merthyr, enillodd Georgina wobr Tafflab i ddarparu rhywfaint ogymorth ariannol a mentora ynghyd â chefnogaeth barhaus Christine i ddechrauei busnes 'Velvet Sunflower'. Agorodd Georgina siop ym Marchnad Dan Do Merthyr Tudful yn gwerthu dillad achofnodion o'r 1950au, y 60au a'r 70au.Roedd hi'n gwneud yn dda iawn a chafodd ymateb gwych gan ymwelwyr i’w siop ac ar-lein.

 

Mae'r cyfyngiadau symud wedi ei gorfodi i gau'r siop am y tro. Serch hynny, mae Georgina wedi dal ati gyda’i hyfforddiant dawns ac wedi parhau i werthu ar y cyfryngau cymdeithasol, eBay ac Etsy ac mae Velvet Sunflower wedi mwynhau llwyddiant mawr. Meddai Georgina, 'Mae Velvet Sunflower wedi cyflwyno rhywfainto'r 1950au/60au/ 70au i'r genhedlaeth iau acwedi dod ag atgofion yn ôl i genedlaethau hŷn. Mae llawer o bobl hefyd yn dechrau siopa'n gynaliadwy ar hyn o bryd ac mae prynu ‘vintage’ yn ffordd wych o wneud hynny. Mae'r teilwra a'r deunydd yn gwneud pob darn o ddillad vintage gymaint yn fwy unigryw acarbennig na'r hyn y mae'r brandiau ffasiwn cyflym yn ei gynhyrchu.'

All Georgina ddim aros nes bod cwmnïau dawns ar waith eto. Yn y cyfamser, mae hi wedi gallu datblygu ei hangerdd arall dros gerddoriaeth a ffasiwn wrth ddatblygu 'Velvet Sunflower'. Dywedodd Georgina, 'Er fy mod wedify siomi nad wyf yn gallu perfformio ers graddio, rwyf wedi sylweddoli dros y misoedd diwethaf ei bod yn dda croesawu gwahanol gyfleoedd. Rwyf wedi mwynhau sefydlu Velvet Sunflower a dysgu am yr hyn y mae pobl yn ei hoffi am ddillad vintage a pham eu bod yn euprynu. Mae gen i lawer o bobl yn anfon lluniau ohono nhw ataf yn gwisgo'r dillad redden nhw'n eu prynu gen i. Mae'n hyfryd gweld cwsmeriaid mor hapus ac mewn cariad â'u darnau newydd o ddillad vintage sydd eisoes â hanes y tu ôl iddynt.’