Geraint Robson and Caitlyn Corless
Geraint Robson and Caitlyn Corless
Ddraig Valley Farm
Trosolwg:
A fresh business idea that allows the public to see and learn more about traditional animals alongside exotic animals
Sectorau:
Ffermio a choedwigaeth
Rhanbarth:
Pen-y-bont ar Ogwr

 

Cariad at anifeiliaid yn ysbrydoli entrepreneuriaid ifanc i agor parc fferm deuluol

 

Mae cwpl sydd wrth eu bodd ag anifeiliaid newydd agor giatiau parc fferm addysgol newydd ger Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Sefydlodd Geraint Robson a Caitlyn Corless, y ddau o Gaerdydd, Ddraig Valley Park Farm ym Mhencoed fel canolfan anifeiliaid lle gall y cyhoedd gymysgu, a dysgu ynghylch mathau traddodiadol ac egsotig o anifeiliaid.  

 

Ar ôl gorffen eu cwrs mewn Rheolaeth Amgylcheddol ac Astudiaethau Anifeiliaid ar Gampws Pencoed o Goleg Pen-y-bont ar Ogwr, defnyddiodd y pâr eu talentau entrepreneuraidd i sefydlu Ddraig Valley Farm ar dir campws y coleg, yn eu hen filltir sgwâr.

 

Mae Ddraig Valley Farm yn gartref i anifeiliaid fferm traddodiadol megis geifr, defaid, ieir, hwyaid, mulod a gwyddau yn ogystal ag i rai mwy anghyffredin megis crwbanod, iguaniaid, terapiniaid, grugieir ac alpacod.  Mae yno hefyd dŷ adar lle mae rhai megis colomennod diamwnt, adar y to java a chaneris yn byw yn ogystal â rhai anifeiliaid llai megis cwningod a moch cwta.   

 

Cafodd Caitlyn a Geraint arweiniad a chefnogaeth ar daith ei busnes gan Syniadau Mawr Cymru, rhan o Wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.  

 

Drwy eu cysylltiad â’r gwasanaeth cymorth, llwyddodd y cwpl hyd yn oed i ennill gwobr i’w busnes, "Y Busnes Gorau'n Gyffredinol" yn Dathlu Syniadau Mawr - digwyddiad i anrhydeddu llwyddiannau entrepreneuriaid ifanc.  

 

Mae Geraint a Caitlyn yn awyddus i wneud addysg yn elfen allweddol o bob ymweliad â’r fferm.  

Eglura Caitlyn:  “Roedden ni eisiau sefydlu Ddraig Valley Farm Park oherwydd ein bod ni’n ysu i greu rhywle lle gallai teuluoedd yn ne Cymru a thu hwnt gael profiad o fod yn agos at anifeiliaid mewn lle diogel, cyfeillgar a gwybodus".  

 

 Mae Caitlyn yn tueddu at yr ochr ffermio o'r busnes, ac yn manteisio i’r eithaf ar ei diploma mewn Astudiaethau Anifeiliaid, a Geraint, a fu’n astudio Rheolaeth Amgylcheddol, yn rhedeg ymweliadau â pharc y fferm ac yn dangos i ymwelwyr bopeth sydd gan Ddraig Valley i’w gynnig. 

 

Mae Geraint a Caitlyn yn dweud fod llawer o'r diolch am eu llwyddiant yn ddyledus i’r cyngor a’r gefnogaeth oedd ar gael i'r ddau ar eu ffordd, gan Syniadau Mawr Cymru a hefyd gan Dîm Menter Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, yn enwedig gan yr Hyrwyddwr Menter, Ruth Rowe, a fu'n gweithio gyda'r cwpl i wireddu eu huchelgais.  

 

Meddai Geraint: “Allen ni ddim bod wedi cyrraedd lle rydyn ni heb yr holl arweiniad gawsom ni yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf.  Roedd ein Bŵtcamp cyntaf Syniadau Mawr Cymru yn 2014.  Fe gawsom ni gefnogaeth ddwys am benwythnos cyfan ac roedden ni'n gallu cyfarfod entrepreneuriaid ifanc o'r un feddylfryd.  Ar ôl hynny, roedden ni’n ddigon lwcus i gael cefnogaeth ac anogaeth gyson gan unigolion fel Ruth, sydd wedi bod gyda ni bob cam o’r ffordd ar ôl hynny.”

 

 Roedd Geraint a Caitlyn wedi creu argraff ar Ruth mewn digwyddiad Prawf Tref Ymddiriedolaeth Carnegie ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle'r oedd entrepreneuriaid ifanc yn rhoi eu sgiliau masnach drwy'r felin.  Ar ôl ennill y gystadleuaeth Prawf Tref, llofnododd Geraint a Caitlyn brydles ar dir y fferm, sydd ym mherchnogaeth Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, a gweld eu breuddwydion o redeg parc fferm yn cael eu gwireddu.  

 

Meddai Ruth Rowe, Pencampwr Menter Coleg Pen-y-bont ar Ogwr: “Mae Geriant a Caitlyn wedi manteisio ar bob cyfle sydd ar gael iddyn nhw.  Erbyn hyn, mae eu gwaith caled wedi talu ar ei ganfed ac mae giatiau Ddraig Valley Farm ar agor i'r cyhoedd.  Maen nhw wedi dangos cryn benderfyniad a dycnwch ar hyd y daith ac rwy’n gobeithio y bydd eu busnes yn dal i dyfu yn y dyfodol".  

Ac er mai ers dim ond mis mae'r giatiau'r fferm ar agor, mae gan y pâr eisoes gynlluniau i ymestyn ac yn gobeithio nid yn unig gynyddu amrywiaeth yr anifeiliaid sydd ganddyn nhw ond maint y fferm hefyd.  

 

Ymwelwch â gwefan Ddraig Valley: www.ddraigvalley.co.uk