Wedi gweithio ym maes darlledu ers dros 20 mlynedd, ymunodd Glenda Jones â’r BBC, gan ddechrau fel ymchwilydd teledu a gweithio ei ffordd i fyny at gynhyrchydd gweithredol, gyda chyfrifoldeb dros brif raglen ddrama ddyddiol y sianel, ‘Pobol y Cwm’.
Yn y flwyddyn 2000, mentrodd i’r farchnad cyfryngau a chyfathrebu llawrydd a gweithiodd ar amrywiaeth o brosiectau cynhyrchu o fewn y sector annibynnol yn darparu deunydd ar gyfer S4C.
Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae Glenda wedi treulio mwy a mwy o’i hamser yn gweithio ym maes hyfforddiant a hwyluso ar gyfer cleientiaid sector cyhoeddus a phreifat gan gynnwys nifer o ysgolion. Mae’r gwaith sector preifat yn cynnwys rhaglenni hyfforddiant gan gynnwys hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith, datblygu busnes a staff, yn ogystal â hyfforddiant sgiliau cyflwyno.