Gwobr Try It
Gwobr Try It
Trosolwg:

Mae Syniadau Mawr Cymru, mewn partneriaeth ag Unltd, sef y prif ddarparwr cymorth i entrepreneuriaid cymdeithasol yn y DU, wedi lansio cystadleuaeth ar y cyd i roi cyfle i bedwar entrepreneur cymdeithasol ifanc uchelgeisiol roi cynnig ar eu syniadau gyda chronfa sbarduno o £500 yr un.

Rhoddodd y pedwar enillydd gyflwyniad gerbron panel yng nghamau olaf y gystadleuaeth ac roedd pob un ohonynt yn frwdfrydig iawn dros eu syniad busnes, a daeth pwrpas eu syniad i’r amlwg yn gryf iawn.

Rhwng UnLtd a Syniadau Mawr Cymru, mae’r enillwyr wedi cael cynnig cymorth busnes un-i-un a chyngor arbenigol ynghyd â’r cyfle i ymuno â nifer o weithdai a gweithgareddau ar-lein i’w cefnogi i ddatblygu eu busnesau.

Fel entrepreneuriaid cymdeithasol ifanc newydd, mae’r pedair entrepreneur cymdeithasol wedi canfod bod y cymorth a roddant i'w gilydd wedi bod yn amhrisiadwy wrth iddynt sefydlu a dechrau datblygu eu busnesau, yn enwedig yn ystod y pandemig. Er bod eu busnesau wedi’u lleoli mewn gwahanol rannau o’r sector menter gymdeithasol, mae eu profiadau o gychwyn a rhedeg menter gymdeithasol wedi bod yn debyg iawn.

Mae’r grŵp wedi cadw mewn cysylltiad drwy WhatsApp ac wedi cael cefnogaeth fentora barhaus gan UnLtd a Syniadau Mawr Cymru. Gall dechrau menter gymdeithasol fod yn brofiad unig ac mae hyn wedi bod yn waeth yn sgil sefyllfa barhaus y cyfnodau clo lleol yn ogystal â’r cyfnod clo dros-dro cenedlaethol i reoli’r feirws yng Nghymru.

Mae Hannah, Shaunnah, Gabrielle a Tajkea yn teimlo ei bod yn bwysig iawn cael cefnogaeth gan fentoriaid y gallwch fod yn agored ac yn onest â nhw a heb orfod profi eich hun o hyd. Mae cael mentor yn golygu eu bod wedi gallu datblygu nifer o sgiliau busnes, fel cynllunio busnes, creu effaith a sgiliau negodi. Teimlent efallai nad oes ganddynt yr holl atebion ar hyn o bryd, ond gwyddant fod mwy o gefnogaeth ar gael yn y dyfodol. Mae’r pedair yn gobeithio parhau i gyfarfod yn y dyfodol agos er mwyn rhannu eu taith fel entrepreneuriaid cymdeithasol gyda’i gilydd.

 

Dyma grynodeb o’r pedair menter gymdeithasol:-

 

Shaunnah Crosbie yw sylfaenydd Shaunnah’s Sew Crafty, lle mae’n dylunio ac yn gwneud dillad y mae’n eu gwerthu mewn digwyddiadau ac ar-lein. Ar hyn o bryd mae hi’n datblygu gwefan ac mae hi wedi agor ei stiwdio ei hun.

Dechreuodd Shaunnah ddysgu dosbarthiadau gwnïo pan oedd ei chrydcymalau a syndrom twnnel y carpel yn ei hatal rhag gwnïo cymaint ei hun. Er syndod iddi, fe’i mwynhaodd yn fawr, cymaint fel ei bod wedi sefydlu ysgol wnïo breifat ar gyfer plant ar benwythnosau, gan ganolbwyntio ar wneud dewisiadau amgen o blastig. Mae hi’n dysgu plant rhwng 7 ac 16 oed. Cafodd y gwahanol grwpiau oedran eu dysgu mewn dosbarthiadau ar wahân, mewn lle roedd Shaunnah yn ei rentu mewn llyfrgell leol i gynnal y sesiynau hyn.

Yn sgil llwyddiant y dosbarthiadau, roedd Shaunnah am allu darparu’r gwasanaeth hwn am ddim i blant o ardaloedd difreintiedig/pobl oedd yn byw mewn tlodi. Y rheswm am hyn oedd ei bod yn ymwybodol na fyddai ei mam erioed wedi bod mewn sefyllfa i dalu iddi fynychu dosbarthiadau preifat pan oedd hi’n blentyn. Mae tecstilau hefyd wedi cael eu tynnu oddi ar y cwricwlwm cenedlaethol, ac mae llawer o ysgolion nad ydyn nhw mewn sefyllfa ariannol i ddarparu’r dosbarthiadau a’r profiadau hyn.

Mae Shaunnah’s Sew Crafty wedi cael cyllid gan asiantaethau fel UnLtd a Syniadau Mawr Cymru ac yn y dyfodol hoffai wneud cais am grantiau mwy, fel y rhai o’r loteri genedlaethol, sydd wedi galluogi’r fenter gymdeithasol i gynnal dosbarthiadau gwnïo am ddim mewn ysgolion a chlybiau ieuenctid mewn ardaloedd difreintiedig. Mae prosiectau wedi canolbwyntio ar wneud dewisiadau plastig amgen y gellir eu hailddefnyddio, megis gwneud bagiau siopa, bagiau cinio, bagiau brechdan, a llawer mwy. Hyd yn oed dysgu sut i wneud clytiau a chynnyrch mislif amldro i fynd i’r afael â llygredd plastig a thlodi mislif ar yr un pryd.

Mae Covid yn amlwg wedi atal y fenter gymdeithasol, ond mae Shaunnah yn defnyddio’r amser i ddatblygu syniadau a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae hi hefyd wedi bod yn dilyn cyrsiau ar-lein ac yn dysgu am addysgu ac amddiffyn plant yn ddiogel.

Yn ogystal â rhedeg y fenter gymdeithasol, mae Shaunnah yn dal i weithio fel steilydd. Mae hi wedi bod yn gweithio ar Sex Education 3 i Netflix, ond unwaith eto mae’r pandemig wedi effeithio’n sylweddol ar y gwaith hwn. Mae’r gwaith ychwanegol yn ei galluogi i ennill arian, ymarfer ei sgiliau a datblygu fel steilydd sy’n helpu ei brand ei hun.

Yn ddiweddar, mae wedi adeiladu stiwdio yn ei gardd ac wedi bod yn gweithio ar gasgliad o ddillad newydd y bydd yn ei lansio eleni.

 

 

Hannah Corns; HUMANOS

Mae menter gymdeithasol Hannah, sef HUMANOS yn frand ffasiwn sy’n ceisio cryfhau ein cymunedau a’u gwneud yn llefydd mwy caredig drwy hyrwyddo a symboleiddio pwysigrwydd cynhwysiant a dynoliaeth. Mae’r brand ffasiwn yn profi bod y gwerthoedd hyn yn ‘cŵl’ ac yn ‘ffasiynol’ a’u nod yw helpu i leihau troseddau casineb.

Cafodd Hannah y syniad ar gyfer HUMANOS yn 2017 pan oedd hi’n fyfyriwr ffasiwn ym Mhrifysgol Caerdydd ac roedd ganddi ffrindiau a oedd yn teimlo eu bod yn cael eu beirniadu a’u gwrthod oherwydd digwyddiadau fel BREXIT a therfysgaeth, a oedd yn cael effaith ar farn y gymuned.

Cenhadaeth y fenter yw arwain mudiad i greu cymunedau mwy cyfeillgar a chroesawgar a lleihau troseddau casineb. Mae troseddau casineb wedi cynyddu’n sylweddol dros y 5 mlynedd diwethaf, gyda 103,370 o droseddau wedi’u cofnodi yn 2018/19 o’i gymharu â 42,255 o droseddau yn 2012/13 (gov.uk). Mae’r brand yn symbol o’r symudiad hwn a’r gwerthoedd rydyn ni’n eu rhannu, felly drwy wisgo’r brand bydd pobl yn y gymuned yn deall credoau a gwerthoedd yr unigolyn ac yn teimlo’n fwy cysylltiedig â’i gilydd yn y gymuned.

Mae gan HUMANOS ddau gasgliad o ddillad sydd ar gael i’w gweld ar y wefan ac i’w prynu drwy Etsy. Mae HUMANOS hefyd yn defnyddio Llysgenhadon Brand i hyrwyddo’r cynnyrch, a dros gyfnod y Nadolig gwerthwyd y cynnyrch mewn marchnadoedd Nadolig a siopau annibynnol.

Yn ystod y cyfyngiadau symud, mae Hannah wedi bod yn cydnabod ac yn hyrwyddo’r gweithredoedd da y mae eraill wedi bod yn eu gwneud yn eu cymunedau lleol, gan felly ledaenu agwedd gadarnhaol a negeseuon y brand.

Gwefan: www.humanos-fashion.com  Cyfryngau Cymdeithasol: www.instagram.com/humanos

 

Gabrielle Szary; Rose and Dragon

Cwmni te yw Rose & Dragon, a sefydlwyd gan Gabrielle Szary, sy’n credu ein bod i gyd yn haeddu cyfnod o dawelwch. I lawer o bobl, gall fod yn anodd dod o hyd i amser yn y dydd ar gyfer ymlacio’n llwyr, a dyna pam y penderfynodd Gabrielle gysylltu’r eiliad hon o fyfyrio â rhywbeth y mae llawer o bobl yn ei wneud bob dydd – sef yfed cwpanaid o de.

Mae’r cwmni’n anfon tri the gwahanol bob mis gyda thema ymwybyddiaeth ofalgar. Mae pob te yn cael ei baru â cherdyn ymwybyddiaeth ofalgar ac mae’n cynnwys myfyrdod dilynol gyda phaned o de yn y cartref. Mae hyn yn rhoi cyfle i gwsmeriaid gymryd ychydig funudau o’u hamserlen i ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar, gan helpu i leihau straen a phryder.

Mae cynaliadwyedd yn rhan allweddol o hunaniaeth y brand – mae’r deunydd pacio i gyd yn fioddiraddiadwy neu’n gompostadwy, lle mae’r pecyn te wedi’i wneud o gellwlos a bod y deunydd allanol wedi’i wneud o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu. Daw’r holl gynhwysion o ffynonellau moesegol gyda chadwyn gyflenwi dryloyw. Nid oes ynddynt gynhwysion sy’n deillio o gynhyrchion anifeiliaid ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw flasau artiffisial.

Mae te Rose and Dragon wedi’i ddylunio i fod yn brofiad synhwyraidd llawn o olygfeydd gwych, arogleuon hyfryd a blasau bendigedig, gan ganiatáu i gwsmeriaid ddefnyddio’r amser hwnnw i ymlacio a mwynhau ennyd o dawelwch. Mae’r bocs o 3 the, ymarferion ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrio yn cael ei anfon yn uniongyrchol at gwsmeriaid bob mis, fel gwasanaeth tanysgrifio.

Mae Rose & Dragon wedi codi arian drwy gyllid torfol ac yn y dyfodol hoffai Gabrielle greu dewisiadau organig a darparu ar gyfer pobl sydd ag alergeddau neu gyflyrau megis pwysedd gwaed uchel.

Gwefan: www.roseanddragon.com Cyfryngau Cymdeithasol: www.instagram.com/roseanddragontea

 

 

 

Tajkea Chowdhury; Asha

Cymhwysodd Tajkea fel meddyg yn ddiweddar, ond mae’n cymryd ychydig o seibiant i ddatblygu ei syniad busnes cymdeithasol. Ar hyn o bryd, mae wrthi’n creu ap, yn benodol ar gyfer goroeswyr ymosodiad/cam-drin rhywiol sydd â symptomau Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD). Mae ystod eang o symptomau PTSD ond un o’r prif bethau y bydd yr ap yn canolbwyntio arno yw helpu goroeswyr i ddelio ag unrhyw ôl-fflachiau – lle mae pethau syml fel synau ac aroglau penodol yn tanio atgofion gan olygu eu bod yn ail-fyw eu trawma. Gall wneud i rywun anghofio lle maen nhw ar y pryd neu hyd yn oed ym mha gyfnod o amser maen nhw. Bydd yr ap yn gofyn i ddefnyddwyr ddewis eu lluniau/ cerddoriaeth eu hunain a gwneud sioe sleidiau/rhestr chwarae bersonol i’w helpu i ddygymod â’r byd o’u cwmpas.

Bydd yr ap yn cael ei alw’n Asha. Mae Asha yn air o’i mamiaith – Bangla – sy’n golygu gobaith, golau ym mhen draw’r twnnel. Penderfynodd ddefnyddio gair gan Bangla gan ei bod am bwysleisio y bydd cynwysoldeb wrth galon yr ap. Mae gan Bangladesh hanes trasig hefyd gyda throseddau rhywiol yn hanes ffurfio’r wlad ac mae’r cysylltiad a’r atgof hwn wedi atseinio â hi.

Mae Tajkea hefyd yn edrych ar greu cynnwys arall fel erthyglau ac allfeydd ar yr ap lle gall y defnyddiwr fynegi ei hun drwy greadigrwydd, fel edrych i mewn i swyddogaeth beintio. Yn ddiweddar, mae hi newydd lansio’r cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar gyfer Asha er mwyn iddi allu cysylltu ag entrepreneuriaid eraill a fyddai â diddordeb mewn cefnogi’r prosiect yn ogystal â chysylltu â’r goroeswyr eu hunain sy’n fodlon cymryd rhan mewn ymchwil ynghylch sut beth fyddai eu cymorth perffaith.

Gwefan: www.asha-app.co.uk  Instagram: https://www.instagram.com/app.of.asha  Facebook:https://www.facebook.com/App.of.Asha