Helen Corsi-Cadmore
Helen Corsi-Cadmore
Trosolwg:
Hyfforddwr, Ymgynghorydd ac Ymarferydd Meistr mewn Busnes, Ffrwythlondeb a Meddylfryd
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol

Helen ydw i, Hyfforddwr, Ymgynghorydd ac Ymarferydd Meistr mewn Busnes, Ffrwythlondeb a Meddylfryd ardystiedig, sydd wedi ennill sawl gwobr ac sy'n angerddol am helpu eraill i lwyddo. Roeddwn yn entrepreneur o oedran ifanc, llwyddais i dyfu brand manwerthu ac eiddo mawr ar draws De Cymru a Bryste. Rwyf wedi cael fy nghydnabod fel un o’r prif weithiwyr proffesiynol ifanc ym myd busnes yng Nghymru.

Yn 2013 ar ddiwedd dirwasgiad ynghyd â phartner busnes, llwyddais i ddod â phartneriaeth Cyd-fenter Tiger Stores (Flying Tiger Copenhagen bellach) i Gymru a Bryste. Gan ennill dros £6miliwn, creu dros 150 o swyddi yn yr economi leol ac agor 9 siop ar draws y rhanbarth, fe wnes i adael y busnes yn 2018.

Yn 2016 newidiodd fy mywyd pan fu bron i mi golli fy mywyd yn ceisio dechrau teulu, yn sgil hynny dechreuais edrych yn ddyfnach ar fy meddylfryd a ffordd bositif o feddwl.

Rwyf bellach yn cynnig fy ngwasanaethau hyfforddi ac ymgynghori ac rwy'n gynghorydd busnes arbenigol sy'n cynnig pob lefel o gymorth. Credaf mewn meddwl yn bositif a chreu partneriaethau gyda phwrpas ac sy’n gydnaws â’i gilydd. Rwy'n helpu pobl i gefnu ar eu harferion, datblygu eu hunanwerth a'u helpu i symud ymlaen yn rhwydd yn eu bywydau.