Ibby tarafdar photo
Ibby Tarafdar
Tarafdar Studio
Trosolwg:
Stiwdio ddylunio ryngwladol sy’n arbenigo mewn dylunio hunaniaeth brand a gwasanaethau ymgynghori yn ymwneud â chyfathrebu. Rydym yn gweithio gyda chleientiaid rhyngwladol yn Ninas Efrog Newydd, Los Angeles a’r Deyrnas Unedig.
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol

Mae Tarafdar Studio yn stiwdio ddylunio ryngwladol sy’n arbenigo mewn dylunio hunaniaeth brand a gwasanaethau ymgynghori yn ymwneud â chyfathrebu. Rydym yn gweithio gyda chleientiaid rhyngwladol yn Ninas Efrog Newydd, Los Angeles a’r Deyrnas Unedig.

Sefydlwyd y stiwdio gan Ibby Tarafdar, dylunydd Bangladeshaidd Cymreig, â’i genhadaeth o ysbrydoli creadigrwydd a chodi ymwybyddiaeth o ddylunio da yng Nghymru, yn enwedig yn y gymuned BAME.

Mae ein gwaith yn cwmpasu pob agwedd ar ddylunio gweledol, gan gynnwys logos, dillad, strategaeth cyfryngau cymdeithasol a datblygu brand a gwasanaethau ymgynghori yn ymwneud â chyfathrebu.

Yn ystod fy nghyfnod yn y coleg a’r brifysgol roeddwn i bob amser yn dylunio graffigwaith i ffrindiau a theulu. Wrth i bobl ddechrau siarad amdanaf yng Nghaerdydd dechreuais gael llif cyson o gleientiaid. Ar ôl graddio o Brifysgol De Cymru â gradd mewn Cyfathrebu gweledol yn 2016, penderfynais droi fy niddordeb yn yrfa.

Roedd gen i ddiddordeb gwirioneddol mewn dylunio erioed, ac mae’r rhan fwyaf o’r ysbrydoliaeth ar gyfer fy ngwaith dylunio yn dod o’r Unol Daleithiau. Yn ystod 2017-2020 treuliais lawer o amser yn teithio yn ôl ac ymlaen rhwng Cymru a’r Unol Daleithiau yn gweithio gyda chleientiaid. Ar ôl dod yn ôl i Gaerdydd sylweddolais nad oedd llawer o greadigrwydd, bywyd, ac yn bwysicach na dim amrywiaeth yn y diwydiant dylunio yng Nghymru, ac roeddwn yn teimlo bod yn rhaid i mi arwain y ffordd a newid pethau.

 

Fy nghyngor – CYMERWCH FWY O RISGIAU

 

Meysydd arbenigedd y gallaf eu cynnig:

Dylunio hunaniaeth brand

Ymgynghori ynglŷn â chyfathrebu gweledol

Strategaeth cyfryngau cymdeithasol

Mentora