Jack Blundell
Jack Blundell
RouteBuddies
Trosolwg:
Ap diogelwch am ddim sy'n caniatáu i ddefnyddwyr gyfarfod mewn grwpiau o dri neu fwy a cherdded adref gyda'i gilydd
Sectorau:
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
Rhanbarth:
Caerdydd

Nod entrepreneur ifanc o Gaerdydd yw helpu i leihau achosion o aflonyddu ar fenywod ac aelodau o'r gymuned LHDTQ+ ar y stryd trwy lansio ap diogelwch stryd cyntaf o'i fath gyda chymorth gwasanaeth entrepreneuriaeth ieuenctid Llywodraeth Cymru, Syniadau Mawr Cymru.

Yn ystod blwyddyn olaf ei radd mewn peirianneg meddalwedd gymhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd  yn 2021 ac ar ôl darllen straeon annymunol di-rif am aflonyddu ar y stryd yng Nghaerdydd a'r cyffiniau ar y cyfryngau cymdeithasol, aeth Jack Blundell ati i ddatblygu RouteBuddies yn 2021.

Yn ôl ymchwiliad diweddar gan UN Women UK, aflonwyddwyd yn rhywiol ar 97% o fenywod ar draws y DU rhwng 18 a 24 oed, gyda 96% arall ddim yn adrodd ynghylch y digwyddiad gan nad oedden nhw'n credu y byddai'n newid unrhyw beth.

Mae RouteBuddies yn ap diogelwch am ddim sy'n caniatáu i ddefnyddwyr gyfarfod mewn grwpiau o dri neu fwy a cherdded adref gyda'i gilydd ar draws prifddinas Cymru. Gan ddarparu diogelwch corfforol a chysylltedd, mae defnyddwyr yn cofrestru trwy roi eu manylion llawn a llun dilys fel manylion adnabod, y ddau wedi'u cuddio'n llwyr i ddefnyddwyr eraill a'u gwirio gan dîm mewnol sy’n defnyddio gwiriadau cefndir llym.

Yn ystod y broses ddilysu gall defnyddwyr ddewis pwy fyddai'n well ganddynt gwrdd dros yr ap trwy fewnbynnu eu dewisiadau o ran rhyw ac oedran, a gosod yr ap i wahanol fodd, gan gynnwys modd myfyrwyr a LHDTQ+. Drwy chwilio eu cyfeiriad cartref, mae defnyddwyr yn cael eu paru'n awtomatig â phobl mewn lleoliadau cyfagos. Yna mae'r ap yn dangos lle i gyfarfod ac yn dod o hyd i’r llwybr mwyaf diogel adref i bawb.

Meddai Jack: "Tra oeddwn yn y brifysgol gwelais negeseuon di-ri ar Facebook gan gyfoedion a oedd wedi cael profiad o aflonyddu ar y stryd. Ar un adeg roedd tair neges neu fwy y dydd, felly dechreuodd pobl sefydlu grwpiau yn ogystal â rhannu eu lleoliadau yn fyw er mwyn teimlo'n fwy diogel. Allai i ond meddwl ‘bod angen diogelwch corfforol ar bobl nawr yn fwy nag erioed, mae modd gwneud cymaint mwy'.

"Mae'r sgiliau a ddysgais yn ystod fy ngradd mewn peirianneg meddalwedd gymhwysol yn golygu fy mod i'n gallu datblygu ap sy'n cynnwys ymddiriedaeth a diogelwch. Dim ond wrth eu henw y gellir adnabod defnyddwyr RouteBuddies ac mae olrhain eu llwybrau yn helpu i gadw pobl yn ddiogel ar y strydoedd. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd RouteBuddies yn cyfrannu at wneud Caerdydd yn ddinas fwy diogel."

Mae llawer o fenywod wedi troi at y cyfryngau cymdeithasol i gofnodi eu profiad o aflonyddu ar y stryd, gan gynnwys Emma Grayson. Edrychodd 2 filiwn ar ei ffrwd fyw 10 munud ar TikTok a bu o gymorth i sicrhau bod aflonyddu ar y stryd yn dod yn drosedd ac yn anghyfreithlon ym mis Rhagfyr 2022.

Lansiodd Jack RouteBuddies gyda chefnogaeth Syniadau Mawr Cymru, gwasanaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'i nod, fel rhan o Fusnes Cymru, yw cefnogi unrhyw un rhwng 5 a 25 oed i ddatblygu syniad busnes, gan gynnwys myfyrwyr a graddedigion, fel rhan o'i ymrwymiad i Warant y Person Ifanc.

Clywodd Jack am Syniadau Mawr Cymru pan aeth at gynllun Menter Prifysgol Caerdydd gyda chynllun busnes sylfaenol. Cyfeiriodd y brifysgol Jack at Syniadau Mawr Cymru yn syth, lle cafodd ei roi mewn cysylltiad â'r Cynghorydd Busnes Amanda Ataou.

Mae Jack ac Amanda yn cwrdd yn wythnosol i drafod datblygiad parhaus RouteBuddies ac yn cryfhau’r cynllun busnes sy'n tyfu'n barhaus. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ochr yn ochr â chynnig cymorth gyda gwaith papur busnes a datblygu syniadau, mae Amanda wedi cefnogi Jack i wneud cais am y Grant Cychwyn Busnes i Bobl Ifanc a'i annog i fynychu'r digwyddiad Bŵtcamp i Fusnes blynyddol.

Yn ystod y digwyddiad Bŵtcamp i Fusnes, bu Jack mewn nifer o ddosbarthiadau meistr gan gynnwys hunan-hyrwyddo, hyrwyddo a marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol dan arweiniad gweithwyr proffesiynol y diwydiant a Modelau Rôl Syniadau Mawr Cymru. Roedd Jack yn un o saith enillydd gwobr yn y digwyddiad pwysig, gan ennill y wobr aur am y gwaith hyrwyddo busnes gorau.

Wrth drafod llwyddiant Jack, meddai Amanda: "Entrepreneuriaid fel Jack sy'n fy ysbrydoli i fod yn Ymgynghorydd Busnes. Mae RouteBuddies yn fusnes cynhwysol ac angerddol wedi’i anelu’n benodol at wneud y strydoedd yn lle mwy diogel i bawb.

"Mae Jack wedi manteisio ar yr holl gyngor a’r gefnogaeth o'n cyfarfodydd ac wedi bachu ar bob cyfle. Mae RouteBuddies yn ffynnu oherwydd ei ymroddiad, a does gen i ddim amheuaeth y bydd y busnes yma yn newid bywydau cymaint o bobl ifanc drwy’r wlad."

Wrth drafod y gefnogaeth a roddwyd iddo, meddai Jack: "Cerddais i mewn i fy nghyfarfod cyntaf gydag Amanda gyda chlamp o gynllun busnes anhrefnus ond heb unrhyw syniad beth ddylai fy nghamau nesaf fod. Bu o gymorth i mi i egluro fy nodau ar gyfer RouteBuddies, symleiddio fy nghynllun busnes a dechrau rhoi fy nodau ar waith.

"Dros y flwyddyn ddiwethaf, dw i wedi dysgu cymaint am fod yn entrepreneuraidd, wedi derbyn cyfleoedd di-ri i gysylltu â'r gwasanaeth ac entrepreneuriaid tebyg, ac wedi bod yn ddigon ffodus i dderbyn cefnogaeth ariannol gan Syniadau Mawr Cymru. Allwn i ddim bod wedi gofyn am fwy a dw i’n ddiolchgar dros ben."

Yn ystod y misoedd nesaf mae Jack yn gobeithio cryfhau mesurau diogelwch RouteBuddies trwy gyflwyno sbardunau olrhain a fydd nid yn unig yn hysbysu defnyddwyr os yw aelodau'r grŵp yn loetran ond bydd hefyd yn dweud wrth aelodau eraill i symud ymlaen cyn i'r awdurdodau gael eu hysbysu a chyn cael effaith ar eu hymddiriedaeth.

Bydd rhestrau cyswllt hefyd ar gael, gan ganiatáu i'r ap anfon diweddariadau awtomatig gan gynnwys pan fyddwch ar eich ffordd adref, pan fyddwch wedi cyrraedd eich tŷ neu pan fydd eich ffôn wedi’i ddiffodd yn annisgwyl, i bersonau cyswllt o ddewis.