Jacob McCarthy portrait
Jacob McCarthy
Jacob McCarthy Photogaphy
Trosolwg:
Photography services
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Casnewydd

Dechreuais astudio ffotograffiaeth ar gyfer TGAU a Lefel A ac yn y pen draw symudais ymlaen i brifysgol, lle arhosais am 1 flwyddyn yn unig oherwydd daeth fy mhartner yn feichiog a chawsom ni fachgen bach. Dyma le mae cryn dipyn o'm hegni yn deillio ohono, ac mae fy ngallu i lwyddo wedi cael ei wella trwy'r digwyddiadau hyn sydd wedi newid fy mywyd. Mae cael rhywbeth i weithio amdano, a gwybodaeth fewnol am nod terfynol, yn rhywbeth dwi bob amser yn ei argymell i unrhyw un sy'n dechrau busnes. 

Ar ôl gadael y brifysgol, rhoddais y naid i agor stiwdio ar y stryd fawr a datblygais fy musnes ymhellach trwy adeiladu perthnasau a rhwydweithio yn y gymuned leol, gan gynnig sesiynau portread a mentora gan ddefnyddio dulliau menter gymdeithasol. Ar ôl gadael y stiwdio ar ôl y tymor 6 mis, gwnes i ail-asesu fy nodau a disgyn mewn cariad ag addysgu ffotograffiaeth. Bellach dwi'n addysgu gweithdai yn bennaf ac yn mentora cyd-ffotograffwyr, yn ogystal â gweithio fel ffotograffydd priodas llwyddiannus yn ardal Cymru a De Orllewin Lloegr. 

Ar hyd fy siwrnai o fod yn ffotograffydd a cheisio creu'r golwg cywir ar gyfer fy mrandio gwnes i sefydlu busnes newydd ar gyfer brandio a phrint i'r byd creadigol. Cefais drafferth i ddod o hyd i rywbeth a oedd yn addas i'm chwaeth, ac mewn gwirionedd, dyna oedd dechrau'r syniad.

Bellach dwi'n rheoli'r ddau fusnes a 2 arall o stiwdio yn nhref hanesyddol Caerllion.