Ar ôl dod yn fegan, gwelodd James fwlch yn y farchnad ar gyfer nwyddau fegan moethus yng Nghaerdydd. Sefydlodd Caws a Siocled, busnes bwyd stryd figan, sydd yn gwerthu bwyd cysur do-greulon.
Daeth James yn fegan i wella ei iechyd ond sylweddolodd ei fod yn colli rhai bwydydd. Gweithiodd i ddod o hyd i rysáit a fyddai'n caniatáu iddo i gynhyrchu caws a siocled fegan.
Dangosodd ei ymchwil marchnad fod y rhain yn y cynnyrch mae bobl eraill a ddaeth yn fegan yn eu 20au neu'n hwyrach yn colli.
Sicrhaodd lleoliad lle mae'n gwerthu tri diwrnod yr wythnos a hefyd yn mynychu amryw o ffeiriau / digwyddiadau lle y gall ef hefyd werthu a hyrwyddo ei fusnes.