Jemima Letts
Jemima Letts
Tree Sparks
Trosolwg:
Menter gymdeithasol sy’n bwriadu cychwyn trafodaeth ymhlith pobl ifanc 15-19 oed am ymwybyddiaeth amgylcheddol

Menter newydd yn annog pobl ifanc i droi eu pryd at y coed

Mae gan fyfyrwraig o Brifysgol Bangor, a fu’n gorfod gwrthod ei lleoliad gwaith delfrydol oherwydd problemau iechyd parhaus, reswm i ddathlu yn dilyn lansiad ei busnes eco-ymwybyddiaeth ei hun, sy’n bwriadu goleuo arddegwyr am faterion amgylcheddol.

Roedd Jemima Letts, 21, sy’n astudio Coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor, dim ond pedwar diwrnod i ffwrdd o ddechrau blwyddyn o leoliad gwaith fel parcmon yng Nghyngor Dosbarth Coedwigaeth Wyre fel rhan o’i gradd pan fu’n rhaid i chi dynnu’n ôl o ganlyniad i drawiadau ailadroddus. Drwy gytundeb â’i phrifysgol, mae Jemima yn cymryd seibiant o’i hastudiaethau, ond yn defnyddio’r amser hwn i weithredu ar ei doniau entrepreneuraidd ei hun, ac mae wedi sefydlu ei busnes ei hun, Tree Sparks, gan ddilyn ei hangerdd dros goedwigaeth ac ecoleg.

Menter gymdeithasol yw Tree Sparks sy’n bwriadu cychwyn trafodaeth ymhlith pobl ifanc 15-19 oed am ymwybyddiaeth amgylcheddol, yn ogystal ag amlygu bod swyddi o fewn y sector amgylcheddol yn ddichonadwy i bobl ifanc. Er y bu’r fenter ar waith am ychydig o fisoedd yn unig, mae gan Jemima gynlluniau uchelgeisiol am Tree Sparks gan gynnwys gweithdai rhyngweithiol mewn ysgolion gan ddefnyddio technoleg rithwir yn ogystal â gweithgareddau addysgol ar-lein.

Wrth lansio Tree Sparks, nododd Jemima: “I oresgyn siom gorfod rhoi’r gorau i leoliad gwaith fy mreuddwyd, roeddwn i’n benderfynol o droi sefyllfa negyddol yn rhywbeth positif er gwaethaf problemau iechyd sy’n parhau. O syniad bach, erbyn hyn rwy wedi datblygu Tree Sparks yn yr hyn a fydd, gobeithio, yn fusnes llwyddiannus ac effeithiol. Rwy’n angerddol am godi ymwybyddiaeth o’r llawer o faterion sy’n wynebu’n hamgylchedd a mannau gwyrdd a rhoi’r wybodaeth i genedlaethau’r dyfodol wneud newidiadau positif i’n planed.” 

Sefydlwyd Tree Sparks gyda chymorth Syniadau Mawr Cymru, rhan o wasanaeth Busnes Cymru i annog entrepreneuriaeth ieuenctid yng Nghymru. Caiff Syniadau Mawr Cymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a’i hanelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sy’n dymuno datblygu syniad busnes.

Cafodd Jemima ei hannog i ymuno â Dathlu Syniadau Mawr gan dîm Menter y brifysgol, digwyddiad cenedlaethol sy’n cael ei gynnal ym Mangor i entrepreneuriaid ifanc arddangos eu busnesau. Gwnaeth cysyniad busnes Jemima effaith ar y beirniaid ac o ganlyniad enillodd y Wobr Effaith Gymdeithasol a’r Wobr Entrepreneuriaeth y Dyfodol, ynghyd â grant am £1000. Mae Jemima yn bwriadu defnyddio’r arian i ddatblygu gwefan a dechrau creu cynnwys rhithwir. O ran uchelgeisiau am y dyfodol, nod yr entrepreneur addawol yw parhau i redeg y busnes ochr yn ochr â’i hastudiaethau y bydd hi’n dychwelyd iddynt ym Medi pan fydd yn ymgymryd â’i blwyddyn derfynol.

Aeth Jemima yn ei blaen: “Fel person busnes ifanc ar ddechrau fy ngyrfa, roeddwn i’n methu credu faint o gefnogaeth roedd Syniadau Mawr Cymru yn gallu ei chynnig i bobl fel fi a hynny’n rhad ac am ddim. Yn ogystal â Dathlu Syniadau Mawr, es i i’w digwyddiad Bŵtcamp i Fusnes hefyd yn y Bala ychydig o wythnosau’n ôl a chefais gymaint o gyngor defnyddiol ar sut i ddatblygu fy musnes ymhellach. Mae wedi bod yn wasanaeth gwerthfawr iawn i ymwneud ag ef a byddwn yn cynghori’n gryf i bobl fusnes ifanc eraill fanteisio ar wasanaethau Syniadau Mawr Cymru.”

O ganlyniad i’w llwyddiant yn Dathlu Syniadau Mawr, mae Jemima erbyn hyn wedi creu cysylltiadau â’r Gymdeithas Ryngwladol Myfyrwyr Coedwigaeth ac wedi cael ei gwahodd ar raglen Drivers for Change, taith wyth diwrnod o amgylch y Deyrnas Unedig pan fydd 100 o entrepreneuriaid ifanc o fentrau cymdeithasol, busnesau preifat a’r celfyddydau yn dod ynghyd i greu newid yng nghymunedau’r wlad.

Dywedodd Lowri Owen, Rheolwr Menter ym Mhrifysgol Bangor: “Mae Jemima yn ysbrydoliaeth i fyfyrwyr ym mhob man, gan greu rhywbeth positif allan o sefyllfa ofnadwy a oedd yn ei hwynebu. Mae ei dawn entrepreneuraidd yn amlwg yn ei huchelgais ar gyfer Tree Sparks a dymunwn bob llwyddiant iddi am y dyfodol.”  

 


Cewch sesiynau 1-2-1 gyda Chynghorydd Busnes, canllaw ar gychwyn busnes a Simply Do Ideas - ffordd wych o ddatblygu eich syniadau busnes chi!

 

Ewch i wefan Busnesau Cymdeithasol Cymru os ydych chi eisiau gwybod mwy