Artist colur ifanc o Gymru yn lansio colur i'r gymuned traws
Mae entrepreneur ifanc o Gaerdydd sy’n darparu gwasanaeth colur i ferched traws yn lansio ei brand colur unrhyw ei hunan ar gyfer y gymuned LGBTQ.
Bu’r artist Jessica Blackler, o Landâf, yn mireinio ei chrefft yn yr Academi Delmar enwog yn Llundain lle bu’n astudio colur, trin gwallt a phrostheteg ar gyfer ffilm, teledu a ffasiwn.
Ar ôl dod yn ôl i Gaerdydd yn 2015, lansiodd Jessica Jecca, pan oedd yn gweithio'n llawrydd gyda'r diwydiant ffilm, teledu a ffasiwn. Ond, yn fuan wedyn, dechreuodd holi pa wasanaethau colur oedd ar gael i’r gymuned drawsrywedd a dechrau gweithio ar waith colur a thiwtorialau gyda nifer o gleientiaid traws.
Meddai Jessica: “Fy ngwasanaeth mwyaf poblogaidd yw sesiwn golur dair awr lle byddaf yn rhannu syniadau ac yn arddangos gwaith colur sy’n gweithio i’m cleientiaid, wedi’u teilwra ar gyfer pob unigolyn. Rwy eisiau creu man diogel lle gall fy nghleientiaid fod yn nhw eu hunain ac ymlacio yn fy nghwmni. Ac mewn 18 mis rwy wedi cael dros 200 o gleientiaid, amryw wedi teithio o Lundain, Southhampton ac o Gymru hefyd".
Er mwyn gallu deall anghenion ei chleientiaid yn well, mae Jessica’n cyfarfod yn aml ag elusennau LGBTQ, yn siarad â darpar gleientiaid ac yn adeiladau ar ei henw da yn y gymuned traws.
Erbyn hyn, mae Jessica'n ymestyn ei hegin ymerodraeth harddwch i lansio ei chynnyrch colur cyntaf erioed, sydd wedi ei ffurfio'n benodol ar gyfer cwsmeriaid trawsrywedd. Mae’r palet cywiro a chuddio lliw yn gynnyrch unrhyw sydd wedi’i baratoi’n benodol i ateb problemau megis cysgod barf sy'n gallu amharu ar lawer o ferched trawsrywedd a chroes wisgwyr. Bydd ar gael i’w brynu yn hwyrach eleni.
Drwy lansio ei chynnyrch cyntaf, mae Jessica’n gwireddu ei huchelgais oes o lansio ei brand coluro ei hunan. Cymerodd flwyddyn gyfan i baratoi’r brand, sy’n cael ei alw’n Jecca Cosmetics. Bu Jessica’n gweithio’n llawn amser ar y cwmni am y naw mis diwethaf, yn cael y cynnyrch yn barod ar gyfer y farchnad ac yn gweithio gyda'r tîm y tu ôl i'r llenni, gan gynnwys cemegwyr colurion, cynllunwyr brandiau a datblygwr gwefannau. Eisoes, mae ganddi uchelgais o lansio cyfres gyfan o golurion yn y dyfodol.
Yn y cyfamser, mae wedi cyflogi ei haelod cyntaf o staff i reoli'r marchnata a'r sianelau cyfryngau cymdeithasol. “Fy nghleientiaid, sydd eisiau sefyll allan a bod yn nhw eu hunain, oedd fy ysbrydoliaeth y tu ôl i Jecca Cosmetics. Mae’n dathlu unigoliaeth a gall unrhyw un eu defnyddio. Bydd y cynnyrch yn wirioneddol fentrus a lliwgar ond y neges yn y pen draw yw cefnogi amrywiaeth ac annog pawb i fod a hyder ynddyn nhw eu hunain.
Cafodd Jessica ei mentora a derbyniodd gefnogaeth fusnes oddi wrth Syniadau Mawr Cymru, rhan o Wasanaeth Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Cysylltodd â Chris Howlett o Syniadau Mawr Cymru yn nyddiau cynnar Jecca Cosmetics i dderbyn cyngor busnes un i un.
Dyma oedd gan Jessica i’w ddweud ynghylch cefnogaeth Syniadau Mawr Cymru: “Roedd y gwasanaeth yn help mawr i mi. Roedd Chris yn gwybod yn union pa lwybr y dylwn i ei gymryd a rhoddodd gyngor gwych ar fy nghamau nesaf gan fy nghyfeirio, yn y pen draw, at Busnes Cymru a oedd yr un mor gefnogol.”
Erbyn hyn, a hithau ymhellach ymlaen ar ei thaith fusnes, mae Jessica’n gweithio o ganolfan Entrepreneurial Spark banc y Natwest. Mae’r ganolfan yn sbarduno busnes a mentrau sydd ar eu cyfnod cynnar ac yn tyfu ac yn rhoi cefnogaeth, mentora, rhwydweithio a swyddfa am ddim.
Meddai Chris: “Mae’n wych gweld pa mor bell mae Jessica wedi cyrraedd ers ein sgwrs gyntaf ynghylch ei chynllun busnes a’i gweld yn paratoi i lansio ei chynnyrch cyntaf ddiwedd y flwyddyn eleni. Mae'n enghraifft wych o berson ifanc yn defnyddio’i sgiliau meddwl yn entrepreneuraidd yr oedd eisoes wedi’u datblygu i wireddu ei huchelgais. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut y bydd ei busnes yn datblygu yn y dyfodol.”
Yn y cyfnodau cynnar o ddatblygu Jecca Cosmetics, cysylltodd Jessica â merch drawsrywedd, Jamie Eagle, 25, i fod yn fodel ar gyfer y brand. Mae'r ddwy wedi gweithio gyda'i gilydd yn rheolaidd ers hynny, gyda Jamie'n helpu Jessica i ddod i ddeall anghenion ei chleientiaid yn well yn ogystal â bod yn fodel i Jessica yn y sesiynau tiwtora coluro.
Meddai Jamie sydd o Ben-y-bont ar Ogwr: “Mae gwasanaethau Jessica mor bwysig i ferched traws sy’n ceisio canfod eu harddull a’u hyder eu hunain. Mae’n helpu merched traws i ddeall sut i ddefnyddio colur yn iawn ac i wneud y gorau o’u nodweddion.
“Mae Jessica nid yn unig yn artist coluro ardderchog ond hefyd yn berson agored a derbyngar sy’n gwneud i bobl deimlo’n wirioneddol gyfforddus yn ei chwmni.”
Yn ogystal â’i gwasanaethau coluro a datblygu Jecca Cosmetics, mae Jessica hefyd wedi sefydlu safle rwydweithio gymdeithasol 'The Tran Space', sy’n lle diogel i aelodau’r gymuned LGBTQ gysylltu â’i gilydd. Wrth ddatblygu’r syniad, bu Jessica’n gweithio gydag entrepreneuriaid ifanc eraill o Gymru a fu’n ei chefnogi i ddylunio a chreu gwefan i gael y rhwydwaith cymdeithasol ar y gweill.
Mae Jamie’n defnyddio The Tran Space yn rheolaidd ac meddai: “Mae pobl trawsrywedd yn aml yn cael eu hanwybyddu mewn cymdeithas ac mae'r rhwydwaith cymdeithasol yn lle diogel i bobl traws gysylltu. Yn aml, dyw hi ddim yn hawdd i bobl traws gael y gefnogaeth briodol ac felly mae’r wefan hon yn agor rhwydwaith o bobl o’r un feddylfryd i rannu hanesion ac i gefnogi ei gilydd.”
Unwaith y bydd wedi’i lansio yn ddiweddarach eleni, bydd y palet cywirydd a chuddiwr lliw yn gwerthu am £20 (ar lein yn unig i ddechrau). I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.jeccacosmetics.com/ ac https://thetranspace.com/. Ar Instagram, Facebook a Twitter, dilynwch @jeccacosmetics