Jessica Peck
Jessica Peck
The Green Scoop
Trosolwg:
Mae merch ifanc 24 oed o Gaerfyrddin wedi agor y siop ddiwastraff gyntaf erioed yn Sir Gaerfyrddin

Busnes diwastraff entrepreneur ifanc yn helpu’r amgylchedd

 

Mae merch ifanc 24 oed o Gaerfyrddin wedi agor y siop ddiwastraff gyntaf erioed yn Sir Gaerfyrddin, ar ôl cael cefnogaeth gan Syniadau Mawr Cymru.

Bydd The Green Scoop, busnes cyntaf Jessica Peck, yn agor y dydd Sadwrn hwn (4 Mai) a bydd yn hyrwyddo bod yn ddiwastraff. Mae’r siop yng nghanol tref Caerfyrddin yn cynnwys cynwysyddion cyflenwi, a bydd gofyn i gwsmeriaid ddod â jariau y mae modd eu hailddefnyddio gyda nhw i’w llenwi. Mae hyn yn golygu nad oes angen defnyddio pecynnau pacio plastig.

Arferai Jessica fod yn glerc yn Ysbyty Glangwili, ond rhoddodd y gorau i’w gwaith i ddilyn ei nod personol o leihau faint o blastig yr oedd hi’n ei ddefnyddio. Pan ddechreuodd chwilio am gynhyrchion a oedd yn cael eu gwerthu heb becynnau pacio plastig, sylweddolodd nad oedd fawr o ddewisiadau amgen ar gael yn yr ardal.

Mae siopau diwastraff yn defnyddio llai o becynnau sy’n cael eu defnyddio un tro yn unig a gallant helpu i drechu gwastraff bwyd gan mai dim ond yr hyn sydd ei angen arnyn nhw y bydd cwsmeriaid yn ei brynu. Bydd y siop yn gwerthu amrywiaeth o eitemau, o reis i sbeisys a’r hanfodion wythnosol fel grawnfwydydd, ffrwythau a llysiau.

Mae’r offer yn siop Jessica wedi cael eu creu gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau yr oedd modd eu hadfer â phosibl. Mae’r bwrdd a’r silffoedd wedi cael eu creu allan o baledi, mae’r cwpwrdd llyfrau wedi cael ei greu allan o hen estyll ac mae’r adran ffrwythau a llysiau wedi cael ei chreu allan o fyrddau sgaffaldiau a chratiau afalau. Mae’r cownter hyd yn oed yn cynnwys paneli pinwydd pyg sydd wedi dod o eglwys.

Dywedodd Jessica: “Penderfynais fy mod am ddefnyddio llai o blastig ar ôl gwylio rhaglenni dogfen yn dangos effaith deunyddiau plastig sy’n cael eu defnyddio un tro ar yr amgylchedd. Dechreuais wneud newidiadau i’m ffordd fy hun o fyw, er enghraifft prynu bar o siampŵ, sy’n edrych fel sebon, ac sydd ddim yn dod mewn potel blastig. Ar ôl cymryd y cam bychan hwn, dechreuais roi’r gorau i ddefnyddio pob math o blastigau defnydd untro.”

Ym mis Hydref y llynedd, aeth Jessica i siop ddiwastraff yn Arberth am y tro cyntaf, a chafodd ei hysbrydoli i agor ei siop ei hun.

Dywedodd Jess: “Roedd yn anodd iawn ceisio defnyddio llai o blastig, ac yn aml roedd yn rhwystredig. Doedd dim modd hwyluso’r broses yng Nghaerfyrddin. Wedyn, fe wnes i ddarganfod siopau diwastraff mewn ardaloedd eraill, ac roeddwn yn teimlo awyddus iawn i agor fy musnes fy hun a fyddai’n lleihau’r effaith rwy’n ei chael ar yr amgylchedd ac yn helpu pobl eraill yn y gymuned i wneud hynny hefyd.

“Mae The Green Shop yn golygu bod yn ddiwastraff, a defnyddio’r hyn sydd gennym ni gymaint â phosib. Ailddefnyddio, defnyddio pethau i bwrpas arall a chreu pethau bendigedig. Fyddem ni fyth yn taflu rhywbeth y gellid ei ddefnyddio at ddiben arall.”

Dechreuodd Jessica ei busnes gyda chymorth Syniadau Mawr Cymru, y gwasanaeth entrepreneuriaeth i ieuenctid yng Nghymru. Mae Syniadau Mawr Cymru yn rhan o Busnes Cymru, ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae’r gwasanaeth yn cael ei anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sy’n dymuno datblygu syniad busnes.

Clywodd Jessica am Syniadau Mawr Cymru drwy Busnes Cymru ar ôl iddi gysylltu â’r gwasanaeth i gael cyngor ynghylch ei chynllun busnes.

Wrth sôn am y gwasanaeth, dywedodd Jessica: “Roedd Syniadau Mawr Cymru yn help mawr, yn arbennig fy nghynghorydd busnes, David Bannister, a oedd yn llawn gwybodaeth. Helpodd David fi gyda fy nghynllun busnes a gydag ochr ariannol dechrau busnes, gan fy mod yn cael hynny’n anodd i ddechrau. Hefyd, roedd yn help mawr i mi gael fy menthyciad i ddechrau busnes, a oedd yn golygu y gallwn i agor fy siop”.

Mae Jessica hefyd wedi manteisio ar rai o’r digwyddiadau y mae Syniadau Mawr Cymru wedi bod yn eu cynnal ledled Cymru ar gyfer pobl fusnes newydd.

Ychwanegodd: “Rwyf wedi mynd i nifer o ddigwyddiadau y mae Syniadau Mawr Cymru wedi’u cynnal, gan gynnwys digwyddiad rhwydweithio a Bwtcamp i Fusnes a oedd yn ddigwyddiad preswyl tri diwrnod, yn gynharach eleni. Cefais gwrdd â phobl ifanc o'r un anian yn ogystal â Modelau Rôl Syniadau Mawr Cymru sydd wedi llwyddo i redeg eu busnesau eu hunain. Dysgais gymaint, ac roeddwn yn teimlo’n llawn ysbrydoliaeth ac yn barod i gychwyn ar fy nhaith fusnes fy hun ar ôl gadael.”

Mae Jessica wedi bod yn meddwl am ehangu The Green Scoop yn barod, ac ar hyn o bryd mae’n casglu cyllid torfol i sefydlu caffi a lle cymunedol yn y siop. Dywedodd: “Rwyf am iddo fod yn lle i'r gymuned i ddod draw a dysgu am sut gall pawb wneud newidiadau er mwyn defnyddio llai o blastig a dod i ddosbarthiadau creadigol eraill. Hefyd, rwyf am gael cynllun ‘talu ymlaen llaw’ yn y caffi, lle gall pobl dalu am ddiod neu ginio dros rywun yn y gymuned na fyddai’n gallu ei fforddio.”

Dywedodd David Bannister, cynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru: “Sefydlodd Jessica ei busnes oherwydd ei bod hi’n dymuno newid a helpu pobl eraill i wneud yr un peth. Mae hi’n llawn brwdfrydedd dros redeg busnes a fydd yn arwain at newid yn ei chymuned. Rwy’n dymuno pob llwyddiant iddi wrth iddi lansio ei busnes ac i'r dyfodol.”