Jodie Emery
Jodie Emery
Penny Farthing Llantrisant, In The Mix
Trosolwg:
Rwyf wedi bod yn y diwydiant lletygarwch ers dros wyth mlynedd bellach ac wedi bod yn Penny Farthing am chwech ohonynt. Gyda thîm gwych rydym wedi mynd o nerth i nerth ac wedi gweddnewid busnes bach llwm i fod yn fusnes ffyniannus, poblogaidd dros ben sy’
Rhanbarth:
Rhondda Cynon Taf

Helo! Jodie ydw i!

Mi adawais yr ysgol yn 18 gyda sawl lefel A da ond fawr o syniad beth i’w wneud â hwy. Mi rois gynnig ar sawl peth: gweithio mewn ffatri sudd ffrwythau, gweithio yn Zante am yr haf, gwneud blwyddyn gyntaf gradd yn y gyfraith cyn gadael i fynd i weithio fel gweinyddwraig ac yn rhan-amser mewn bar. Dyna pryd y daeth y cyfle imi i redeg tafarn ar delerau hunangyflogedig pan oeddwn yn 22 oed.

Nid oedd gen i brofiad, gwybodaeth na chefndir mewn lletygarwch, dim ond uchelgais a phenderfynoldeb. Yn fy mlwyddyn gyntaf enillais wobr busnes a thafarnwraig newydd orau yng Ngwobrau Rhanbarthol 2016. Yn ystod y seremoni cefais gynnig cyfle mentrus i agor bwyty gan gwmni rheoli blaenllaw arall - a dyna pryd y ganwyd Penny Farthing. Yn 24 oed roeddwn yn rhedeg dau sefydliad gyda thîm o 40 o staff.

Rwyf wedi bod yn y diwydiant lletygarwch ers dros wyth mlynedd bellach ac wedi bod yn Penny Farthing am chwech ohonynt. Gyda thîm gwych rydym wedi mynd o nerth i nerth ac wedi gweddnewid busnes bach llwm i fod yn fusnes ffyniannus, poblogaidd dros ben sy’n dal i dyfu. Rydym yn ymfalchïo ein bod yn cynnig y profiad bwyta gorau i’n holl gwsmeriaid.

Rydym wedi profi dyddiau anodd ac ambell siom ond Covid oedd y gwaethaf ohonynt – ond rydym wedi addasu, wedi derbyn yr her ac wedi dod allan ohoni’n gryfach nag erioed ac wedi ennill ein plwyf yn y farchnad. Gwnaethom hyn drwy werthu llawer o fwyd pryd ar glud a choctels yn ystod y clo a llwyddodd hynny i’n helpu i gryfhau ein henw.

Y llynedd gwelais fwlch yn y farchnad ac ychwanegwyd menter newydd at fy mhortffolio busnes o’r enw ‘In the Mix.’ Rydym yn cynnig dosbarthiadau hwyliog ar baratoi coctels i grwpiau proffesiynol a chymdeithasol yn yr amgylchedd o’u dewis. Rydym yn trefnu’r parti ac yn creu coctels a dysgu sgiliau, triciau, ryseitiau gan ychwanegu tipyn o hwyl at y parti! Eleni rydym un yn dod ag ‘In The Mix’ i’r Penny Farthing ac yn cynnig lleoliad yn ogystal â’n gwasanaethau dosbarthiadau meistr. Bydd hyn yn golygu mwy o gyfleoedd i staff mewnol ac allanol gan ehangu ein cynulleidfa a hybu twf.

“Weithiau does dim rhaid i chi chwilio am eich llwybr mewn bywyd… Weithiau bydd y llwybr yn dod o hyd i chi.”

“Nid dewis y llwybr ‘cywir’ sy’n bwysig. Y peth mawr yw gwybod beth sy’n tanio’ch diddordeb. Ar ôl i chi sylweddoli beth sy’n eich gwneud yn hapus nid oes yn rhaid i chi boeni am ganfod y llwybr cywir. Bydd unrhyw lwybr yn eich arwain yno, ni fydd dim troadau anghywir – na llwybr annisgwyl.”