Busnes efelychu meysydd awyr myfyriwr o Abertawe yn hedfan
Mae gan fyfyriwr busnes ag awydd i lwyddo yn y wybren sylfaen gwsmeriaid enfawr yn barod
Mae myfyriwr busnes 20 mlwydd oed o Brifysgol Abertawe wedi adeiladu ar ei angerdd am fyd hedfan i ddatblygu busnes meddalwedd meysydd awyr a hedfan sydd bellach yn ymffrostio bod ganddo fwy na 3000 o gwsmeriaid ledled y byd.
Lansiodd Joe Charman Pilot Plus yn 16 oed ac erbyn hyn mae’n rheoli tîm o dri chyflogai. Mae Joe a’i dîm yn atgynhyrchu meysydd awyr go iawn ledled y byd ar ffurf ddigidol 3D, gan ddefnyddio delweddau maent yn eu cipio o olygfeydd meysydd awyr. Mae’r replicâu 3D digidol o amgylcheddau tu allan i feysydd awyr, gan gynnwys Gatwick, Bryste a Geneva yn creu atgynhyrchiad o amgylchedd ar gyfer defnyddwyr, fel petaent yn llywio awyren drwy’r maes awyr penodol hwnnw yn y byd go iawn.
Mae’r feddalwedd wedi cael ei gwerthu i ysgolion hedfan at ddibenion hyfforddi peilotiaid, peilotiaid masnachol yn ogystal â’r sawl sy’n frwdfrydig am awyrennau, a hynny ym mron pedwar ban y byd.
Ar hyn o bryd mae saith cynnyrch yng nghyfres Pilot Plus, ac mae’r tîm wrthi’n gweithio ar eu cynnyrch nesaf ar gyfer Maes Awyr Dinas Llundain.
Wrth drafod creu’r cwmni, meddai Joe: “Pan oeddwn i’n tyfu i fyny roeddwn i am fod yn beilot awyrennau ac roedd gwir angerdd arnaf i archwilio’r diwydiant. Cyn hir sylweddolais nad oedd efelychiadau o feysydd awyr yn bodoli fel cynnyrch am y farchnad dorfol, felly gyda rhyw £200 yn fy mhoced dechreuais ddatblygu fy nhynnrych cyntaf ar gyfer Maes Awyr Southampton. Roedd gen i fy ychydig gwsmeriaid cyntaf, a drodd yn fwy wedyn ac mae’r sylfaen gwsmeriaid wedi parhau i dyfu ers hynny.”
Mae Joe yn rheoli ei fusnes ochr yn ochr â’i astudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe lle mae’n mynd i mewn i’w drydedd flwyddyn o Reoli Busnes. Gyda’i uchelgeisiau entrepreneuraidd mewn cof, cafodd Joe ei gyflwyno i Syniadau Mawr Cymru, rhan o wasanaeth Busnes Cymru i annog entrepreneuriaeth ieuenctid yng Nghymru. Caiff Syniadau Mawr Cymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a’i hanelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sy’n dymuno datblygu syniad busnes.
Gan weld ei gyfle i ehangu ei gysylltiadau ymhellach, sefydlodd Joe Rwydwaith Entrepreneuriaid cyntaf Prifysgol Abertawe gydag un o’i gyd-fyfyrwyr, grŵp sy’n annog myfyrwyr i ddilyn eu huchelgeisiau busnes.
Aeth yn ei flaen: “Mae fy mryd ar fusnes erioed, ond mae Syniadau Mawr Cymru wedi helpu fy sgiliau datblygu personol ac wedi fy nghysylltu â llawer o entrepreneuriaid dylanwadol, gan danio fy awydd entrepreneuraidd ymhellach.”
Yn ei drydedd flwyddyn mae Joe yn bwriadu ysgwyddo gofod swyddfa yn Abertawe.
Meddai: “Rwyf bob amser wedi ei chael yn ddigon hawdd rheoli fy ngwaith yn y brifysgol a’m bywyd busnes, gan wybod pryd i roi mwy o sylw i’r naill na’r llall pan fydd dyddiadau terfyn ar y gweill. Yn fy mlwyddyn olaf, rwy’n bwriadu cymryd rhagor o bobl ymlaen i helpu i ehangu ystod ein cynhyrchion a pharhau i ymdrechu i arwain y farchnad, gan gystadlu ag eraill sydd wedi lansio yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
“Rwy’n credu bod dyfodol Pilot Plus yn ddisglair. Rydym yn creu cynhyrchion sy’n arwain arloesi yn y maes. Wrth i ni ganolbwyntio ar ein prosiect presennol, Maes Awyr Dinas Llundain, y bwriad wedyn yw dod â holl gynhyrchion y gorffennol i fyny i’r un safon. Hefyd mae’n fwriad gennym fuddsoddi mewn gwahanol farchnadoedd lle gall ein sgiliau a’n technoleg gael eu cymhwyso, fel dylunio mewnol rhithwir yn ogystal â delweddu pensaernïaeth.”
Dywedodd Julie Walters, rheolwr datblygu Syniadau Mawr Cymru: “Mae Joe yn enghraifft ddisglair o rywun ifanc cryf iawn ei gymhelliant ac mae Syniadau Mawr Cymru yn falch i’w gefnogi. Mae ei ddawn entrepreneuraidd ers oedran mor ifanc mor drawiadol a dymunwn lwyddiant parhaus iddo gyda Pilot Plus yn y dyfodol.”
Meddi Rhodri Evans, Swyddog Cefnogi Menter a Pencampwr Menter ym Mhrifysgol Abertawe: “Yn Abertawe rydym yn annog ein holl fyfyrwyr i weithredu ar eu dawn entrepreneuraidd er mwyn gwella eu profiad eu hun yn y brifysgol a chynyddu eu cyflogadwyedd ar ôl graddio. Diolch i’w ddawn naturiol dros fusnes, gwyddom fod gan Joe ddyfodol disglair o’i flaen.”