John Bell
The Pink Shop
Trosolwg:
Perchennog eiddo preswyl a masnachol
Sectorau:
Gwasanaethau Rheoli Preswyl
Rhanbarth:
Caerdydd

Ro'n i'n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Hawthorn cyn mynd i Goleg Technegol Pontypridd. Fe adewais ym 1984 gydag ychydig iawn o gymwysterau a dim ond swyddi dros dro oedd ar gael, felly fe es i ati i gwblhau cynllun hyfforddiant gan y llywodraeth ym maes electroneg.

"Rhaid ichi gael yr agwedd gywir. Gallwch gyflawni unrhyw beth! Bydd pob math o bobl, gan gynnwys eich teulu, yn dweud 'allwch chi ddim gwneud hyn neu'r llall'. Mae eich perthynas gyda'ch staff yn bwysig."

John Bell - The Pink Shop

Fe nechreuais fy nhaith ym 1994, pan gymerais drosodd y Siop Binc.

Fodd bynnag, mae fy musnes wedi ehangu, arallgyfeirio a datblygu'n aruthrol dros y blynyddoedd.

Erbyn hyn, rydw i fwy neu lai yn gwneud popeth ar fy mhen fy hun, ac rydw i'n berchen ar nifer fawr o eiddo masnachol a phreswyl.

Prynais yr adeilad y drws nesaf i'r Siop Binc ychydig o flynyddoedd wwedi hynny ac ehangu'r siop. Ar ôl cael fy magu mewn cartref un rhiant, dydw i ddim yn hoffi gwastraffu arian, felly rydw i bob amser wedi buddsoddi unrhyw arian dros ben oedd gen i. Erbyn hyn, mae gen i wyth eiddo, a rhai masnachol yw 3 ohonynt.