John Enticott photo
John Enticott
Enticott Performance Ltd
Trosolwg:
Yn fusnes sy’n diwallu anghenion cerbydau yn Ne a Gorllewin Cymru.
Sectorau:
Trafnidiaeth
Rhanbarth:
Rhondda Cynon Taf

Boddhad o wneud ei swydd yn dda ynghyd â chefnogaeth ei gydweithwyr a’i ffrindiau ysgogodd John Enticott i ddechrau ei fusnes ei hun. Mae Enticott Performance Ltd yn fusnes sy’n diwallu anghenion cerbydau yn Ne a Gorllewin Cymru.

 

Mae adnabod marchnad yn allweddol y dyddiau yma, ac mae adnabod eich cwsmeriaid/cleientiaid yn bwysig iawn.

John Enticott - Enticott Performance Ltd

 

Mae’r cwmni’n arbenigo mewn dau faes penodol yn ymwneud â cherbydau. Y cyntaf yw Hyfforddiant Cerbydau, sy’n golygu bod y cwmni’n dylunio ac yn darparu hyfforddiant arbenigol i yrrwyr trwy ddysgu rhyngweithiol ac ymarferol. Yna, maent yn cyflwyno eu hyfforddiant i sefydliadau megis RoSPA (Royal Society in Prevention of Accidents) a chynghorau lleol megis yr Uned Diogelwch Ffyrdd (Rhondd Cynon Taf). Eu hail faes arbenigol yw Gweithdai Atgyweirio Cerbydau. Mae’r cwmni’n rhedeg gweithdai atgyweirio cerbydau ym Mhontyclun sy’n arbenigo mewn atgyweirio a chynnal a chadw cerbydau o bob model a gwneuthuriad.

 

Hoff beth John am fod yn fós arno’i hun yw’r ffaith ei fod yn gallu darparu gwasanaeth sy’n cael ei werthfawrogi gan eraill a’i fod yn gallu helpu pobl eraill drwy ei waith. Er gwaetha’r ffaith ei fod wedi gorfod goresgyn rhwystrau megis diddymu cwmnïau oedd yn dal cyfrifon gyda’i fusnes, mae’n parhau i ymfalchïo mewn rhedeg ei fusnes ei hun ac yn annog eraill i wneud yr un peth.

Gwefan: enticottperformance.co.uk/