Jonathan Fagan
Jonathan Fagan
Ten Percent Legal Recruitment Consultants, TP Transcription Ltd., and Jonathan Fagan Business Brokers.
Trosolwg:
helpu cyfreithwyr i ddod o hyd i swyddi newydd ledled y DU ac mewn gwledydd tramor. Mae hefyd yn rhedeg gwasanaeth busnes a thrawsgrifio academaidd arbenigol, a Jonathan Fagan Business Brokers
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol

 

Mae Jonathan Fagan yn rhedeg ac yn berchen ar Ten Percent Legal Recruitment Consultants, sydd wedi helpu cyfreithwyr i ddod o hyd i swyddi newydd ers Ebrill 2000. Mae mwy na 11,000 o gyfreithwyr a gweithredwyr cyfreithiol wedi cofrestru gyda’r busnes hwn ac maent yn gweithio ledled y DU ac mewn gwledydd tramor gyda ffyrmiau cyfreithwyr ac i adrannau cyfreithiol mewnol. Byddant yn rhoi 10% o’u helw i elusennau, a hynny sy’n egluro’r enw. Mae Jonathan yn berchen hefyd ar TP Transcription Cyfyngedig, gwasanaeth busnes a thrawsgrifio academaidd arbenigol, a Jonathan Fagan Business Brokers.

Dechreuodd Jonathan ei fusnes cyntaf ar ôl cael gwybod bod ymgynghorydd recriwtio i gael tâl o £4,500 ynghyd â TAW am ddod o hyd i swydd iddo â chyflog o £20,000. Gwrthododd Jonathan y swydd a sefydlodd ei ymgynghoriaeth recriwtio ei hun a fyddai’n codi tâl llai o lawer. Roedd hynny 20 mlynedd yn ôl!

Roedd ewythr Jonathan wedi’i ysbrydoli drwy ddweud wrtho ‘na ddylai byth wneud mwy nag un peth ar y tro ac y dylai ganolbwyntio ar beth mae’n ei wneud orau’. Roedd Jonathan wedi anwybyddu’r cyngor hwn a mynd yn ei flaen wedyn i sefydlu nifer o fusnesau gwahanol mewn meysydd nad oedd yn gwybod dim amdanynt, am ei fod wrth ei fodd yn gwneud pethau newydd drwy’r amser! Yn ei flaen yr aeth Jonathan byth ers hynny.

Gwyliwch am gyfleoedd newydd mewn busnes drwy’r amser a cheisiwch feddwl yn wahanol. 

Yr her fwyaf roeddwn i’n gorfod delio â hi dros y blynyddoedd oedd dysgu sut i oroesi yn ystod dirwasgiad. Roeddwn i’n gorfod bod yn barod i weithio oriau mawr ar adegau anodd, er mwyn gorffen rhywbeth neu ennill digon o incwm i barhau. Rhaid i chi fod yn barod i weithio hefyd os bydd problem yn codi – e.e. cawson ni ymosodiad seiber yn 2010 ac roeddwn i’n gorfod gweithio drwy’r nos i gael gwared â hwnnw a diogelu ein systemau.

Y peth gorau wrth fod yn fòs arnoch chi’ch hun yw Rhyddid! Rhyddid i ddewis â phwy fyddwch chi’n cydweithio, pryd fyddwch chi’n gweithio, beth i’w wneud yn y gwaith, sut bydd eich busnes yn tyfu, gwneud pethau newydd, newid eich ffordd o weithio a pheidio byth â chlywed neb yn dweud wrthych chi beth i’w wneud.

Fy nghyngor pennaf i entrepreneuriaid ifanc yw nad oes rhaid i chi gael syniad gwreiddiol er mwyn dechrau busnes. Yn aml iawn y syniadau gorau yw’r pethau y mae pobl eraill wedi’u gwneud yn barod ond eu bod nhw wedi llwyddo i gynnig ffordd newydd o weithio. Mae copïo’n beth da! Ceisiwch gymryd cyn lleied â phosibl o arian ar fenthyg, gwariwch cyn lleied â phosibl o arian a daliwch afael yn eich elw mor hir â phosibl. Gofynnwch am help os oes rhywbeth na allwch chi ei wneud eich hun a pheidiwch ag ofni gofyn cwestiynau ‘gwirion’.

Fy meysydd arbenigol yw Optimeiddio Peiriannau Chwilio, marchnata digidol, tyfu busnesau, datblygu busnesau, recriwtio, cyfarwyddyd a llwybrau gyrfa, gwerthiant busnesau, ac unrhyw beth sy’n gysylltiedig â’r proffesiwn cyfreithiol.