Jonny Blades Barbershop
Jonny Hanford
Jonny Blades
Trosolwg:
Mae Jonny Blades yn siop Barber llwyddiannus yn Nhreforys ac yn cynnig amrywiaeth o driniaethau gwrywaidd, yn cynnwys thorri gwallt a triniaethau wyneb.
Sectorau:
Gofal iechyd a gofal cyflenwol
Rhanbarth:
Abertawe

Mae barbwr 21ain oed o Abertawe a agorodd ei salon ei hun dri mis yn unig yn ôl wedi cael lansiad mor llwyddiannus fel ei fod eisoes yn cynllunio agor cangen arall yn fuan.

Agorodd Jonny Hanford ei siop Jonny Blades yn Nhreforys ar ôl sawl blwyddyn o drin gwallt a hyfforddiant fel barbwr ac eisoes mae’n denu cleientiaid uchel eu proffil i’r salon, yn cynnwys pêl-droedwyr Dinas Abertawe Kees de Boer a Brandon Cooper.

Cymaint yw llwyddiant Jonny Blades ers iddo agor, mae’r entrepreneur ifanc yn awr am gyflogi dau brentis er mwyn ymdrin â’r galw ac ychwanegu at ei dîm presennol o dri barbwr.

"Roeddwn i eisiau arallgyfeirio’r busnes o’r cychwyn er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig amrediad o wasanaethau i gydweddu â gwahanol gwsmeriaid."

Yn ogystal â thorri gwallt, mae Jonny Blades hefyd yn cynnig gwasanaethau sy’n cynnwys eillio gyda thyweli poeth, cwyro ac edafu dynion, triniaethau wyneb a gwelyau haul, ac mae hyn yn ôl Jonny wedi cyfrannu at lwyddiant y busnes mewn ychydig fisoedd ar ôl agor.

 

Dywedodd: “Rydym ni wedi bod yn anhygoel o brysur o’r diwrnod cyntaf yr agorwyd y drysau, sydd wedi bod yn wirioneddol anghredadwy.  Roeddwn i eisiau arallgyfeirio’r busnes o’r cychwyn er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig amrediad o wasanaethau i gydweddu â gwahanol gwsmeriaid.

“Rydw i wedi gallu troi fy angerdd o drin gwallt yn fusnes i mi fy hun, sydd wedi bod yn uchelgais i mi ers peth amser.  Rydw i wedi gweithio yn galed i hyfforddi mewn torri gwallt dynion a merched, ond roeddwn yn teimlo y byddai agor fy siop barbwr fy hun yn her wych ac yn un yr ydw i’n wirioneddol hapus i’w gwneud.

Dechreuodd Jonny ei fusnes gyda chymorth gan Syniadau Mawr Cymru, y gwasanaeth entrepreneuriaeth ieuenctid yng Nghymru.  Mae Syniadau Mawr Cymru yn rhan o Busnes Cymru ac mae’n cael ei gyllido yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.  Mae’r gwasanaeth yn cael ei anelu at unrhyw un sydd rhwng 5 oed a 25 oed sy’n dymuno datblygu syniad busnes.

Clywodd Jonny ynglŷn â Syniadau Mawr Cymru am y tro cyntaf drwy Instagram a chysylltodd â’r gwasanaeth er mwyn cael cyngor ynglŷn â sefydlu’r busnes a gweld faint o gefnogaeth a allai ef ei derbyn.

Bu Syniadau Mawr Cymru yn help mawr, yn arbennig felly fy nghynghorwr busnes, Miranda Thomas, a roddodd gefnogaeth i mi drwy’r broses o sefydlu’r siop barbwr.  Mae’n brofiad dychrynllyd i agor eich busnes eich hun, ond roedd yn haws o wybod bod gen i gefnogaeth Syniadau Mawr Cymru.

Wrth siarad am y gwasanaeth, dywedodd Jonny: “Bu Syniadau Mawr Cymru yn help mawr, yn arbennig felly fy nghynghorwr busnes, Miranda Thomas, a roddodd gefnogaeth i mi drwy’r broses o sefydlu’r siop barbwr.  Mae’n brofiad dychrynllyd i agor eich busnes eich hun, ond roedd yn haws o wybod bod gen i gefnogaeth Syniadau Mawr Cymru.  Rhwng hyn a nifer o gyrsiau busnes rydw i wedi’u mynychu, rydw i wedi datblygu gwell dealltwriaeth o fod yn berchen ar fusnes ac mae wedi fy ngwneud yn fwy hyderus gyda’r holl broses.”

Yn ddiweddar, mae Jonny wedi cael ei roi ar restr fer am Wobr Busnesau Newydd Cymru yng nghategori Gwasanaethau Defnyddwyr Busnesau Newydd y Flwyddyn, a chynhelir y seremoni hon ym mis Medi.  Yn ogystal, gofynnwyd i Jonny ddychwelyd i’r AHSW (Asiantaeth Hyfforddiant Seiliedig ar Waith) lle y bu’n hyfforddi, er mwyn iddo drosglwyddo ei sgiliau a’i brofiad i’w gymheiriaid sy’n gobeithio dilyn yn ôl ei droed a hyfforddi mewn trin gwallt neu waith barbwr.

Mae Jonny yn rhoi ei fryd yn gadarn ar ymestyn Jonny Blades mewn lleoliadau amrywiol ac mae eisoes wedi dechrau edrych ar agor ail gangen yn Abertawe cyn bo hir.

Dywedodd: “Fy mreuddwyd yn y pen draw fyddai rhyddfreinio Jonny Blades drwy’r DU, ond ar hyn o bryd, mae fy sylw yn canolbwyntio ar ddatblygu’r busnes yn lleol a rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.  Hefyd, rydw i wedi noddi Clwb Pêl-droed Ieuenctid Treforys, ac yn ystod cyfnod y Nadolig, rydw i’n cynllunio i dorri gwalltiau yn rhad ac am ddim i’r rhai hynny sydd angen cael torri eu gwallt, ond ni allan nhw fforddio i dalu i wneud hynny.”

Dywedodd Miranda Thomas, cynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru: “Mae Jonny yn unigolyn ifanc gweithgar, sydd wedi llwyddo yn wych gyda’i fusnes yn ystod cyfnod byr iawn.  Rydw i’n hyderus y bydd ei uchelgais a’i graffter busnes yn gweld Jonny Blades yn parhau i fod yn llwyddiant am flynyddoedd i ddod ac edrychaf ymlaen at weld beth a fydd yn digwydd iddo yn y dyfodol.”