Jordan Bishop -Stridez
Jordan Bishop
Stridez
Trosolwg:
Mae dyn busnes ifanc o Gaerdydd wedi lansio casgliad o siorts nofio yn benodol i ddynion sydd â morddwydydd mawr a chanol o faint rheolaidd.
Rhanbarth:
Caerdydd

 

Gwisgoedd nofio sy’n ffitio i’r dim diolch i entrepreneur ifanc o Gaerdydd

Mae dyn busnes ifanc o Gaerdydd wedi lansio casgliad o siorts nofio yn benodol i ddynion sydd â morddwydydd mawr a chanol o faint rheolaidd.

Datblygodd Jordan Bishop, 23, hyfforddwr rygbi a chwaraeon plant, y syniad tu ôl i Stridez wrth nofio am wisg nofio ar gyfer gwyliau. Ond o ganlyniad i’r dewis cyfyngedig a oedd ar gael mewn siopau ac ar-lein i ddynion ei siâp a’i faint ef, bu’n rhaid i Jordan brynu siorts mawr, nad oeddent yn ffitio’n dda, a fyddai’n ffitio dros ei goesau ond a oedd yn llawer rhy fawr o gwmpas ei ganol.

Ar ôl dod i’r casgliad nad ef allai fod yr unig berson a oedd yn ei chael yn anodd dod o hyd i bâr o siorts i ffitio eu maint, cynhaliodd Jordan arolwg a rannodd ar gyfryngau cymdeithasol, ledled ei gampfa ac ymhlith ei gyd-chwaraewyr rygbi. Cadarnhaodd y canlyniadau ei brofiadau personol ef yn llwyr.

Wedi blwyddyn yn cael ei ddatblygu, cafodd Stridez ei lansio fel siop ar-lein y mis diwethaf yn ogystal â chael eu stocio mewn tri man yn ne Cymru gan gynnwys 7 Clothing ar Wellfield Road a champfeydd Ion yng Nghaerdydd a Chastell-nedd.

“Heb arweiniad Chris a’r tîm yn Syniadau Mawr Cymru, ni fuasai llawer o syniad gen i am sut i wireddu fy syniad busnes. Mae gen i bron dim profiad busnes felly rwy’n dysgu’n gyson. Ond rwyf wrth fy modd gyda’r broses hyd yma, o weithio gyda dylunwyr i negodi â dosbarthwyr.”

Ers dechrau masnachu, mae Jordan wedi derbyn adborth rhagorol o chwaraewyr Gleision Caerdydd Seb Davies, Josh Navidi a Lloyd Williams y cafodd pob un ohonynt bâr o siorts Stridez yn rhodd.

Mae Stridez yn stocio siorts nofio mewn tri maint - bach, canolig a mawr – ac maent ar gael mewn tri lliw ar hyn o bryd sef glas golau, pinc a du.

Meddai Jordan: “Ces i anawsterau am flynyddoedd i ddod o hyd i siorts sy’n fy ffitio i’n gywir ac yn y diwedd penderfynes i greu’r ateb fy hunan. Fel cenedl o chwaraewyr rygbi, mae llawer iawn o ddynion allan yno fel fi sydd â morddwydydd mawr ond canol teneuach a ‘dyw’r diwydiant ffasiwn cyffredinol ddim yn darparu ar ein cyfer ni.

“Rwy’n credu fy mod wedi darganfod bwlch gwirioneddol yn y farchnad a gobeithio y bydd Stridez o fudd i ddynion eraill sy’n dioddef yr un broblem. Mae’r ymateb positif hyd yma wedi bod yn anhygoel.”

Lansiodd Jordan Stridez gyda chefnogaeth Syniadau Mawr Cymru, rhan o wasanaeth Busnes Cymru i annog entrepreneuriaeth ieuenctid yng Nghymru. Caiff Syniadau Mawr Cymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a’i hanelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sy’n dymuno datblygu syniad busnes.

Heb unrhyw brofiad busnes tu ôl iddo, cysylltodd Jordan â Chris Howlett, cynghorydd busnes yn Syniadau Mawr Cymru, sydd wedi ei gefnogi drwy gydol cyfnod datblygu ei fusnes, gan gynnig cyngor ar bopeth o gynllunio’r busnes, gweithio gyda dylunwyr a marchnata Stridez.

Ar ben hynny, cymerodd Jordan ran mewn Bŵtcamp i Fusnes Syniadau Mawr Cymru sy’n fŵtcamp preswyl ysgogol tri diwrnod, a gynhelir dwywaith y flwyddyn. Mae ar gyfer pobl ifanc sy’n gobeithio dechrau busnes, ac yn rhoi arweiniad ar holl hanfodion busnes ynghyd â’r cyfle i greu cysylltiadau â phobl eraill o’r un anian.

Yn dilyn cyngor Chris, cyfarfu Jordan â dylunydd ffasiwn sy’n gweithio ar ei liwt ei hun, Alexandra Wall, a weithiodd gydag ef i greu patrwm a’r cymysgedd lliwiau i’r siorts, sy’n cael eu cynhyrchu dramor i Jordan.

Aeth Jordan yn ei flaen: “Heb arweiniad Chris a’r tîm yn Syniadau Mawr Cymru, ni fuasai llawer o syniad gen i am sut i wireddu fy syniad busnes. Mae gen i bron dim profiad busnes felly rwy’n dysgu’n gyson. Ond rwyf wrth fy modd gyda’r broses hyd yma, o weithio gyda dylunwyr i negodi â dosbarthwyr.”

Mae gan Jordan uchelgeisiau mawr am Stridez a’i obaith yw ehangu ei gynhyrchion i gynnwys jîns, chinos, chinos byrion a thrwsus loncian, yn ogystal â datblygu dewisiadau lliw eraill am y cynnyrch sy’n bodoli’n barod.

Ochr yn ochr â dilyn ei freuddwydion busnes, mae gan Jordan dair swydd arall sy’n ei gadw’n brysur iawn, gan gynnwys gweithio’n cynorthwyydd dysgu a hyfforddwr rygbi yn Ysgol Uwchradd Glantaf, hyfforddwr chwaraeon plant yn David Lloyd a stiward maes yn Stadiwm Principality yn ystod y tymor rygbi.

Meddai: “Pan ddechreues i ym Mhrifysgol Met Caerdydd yn astudio Chwaraeon, roedd gen i bob bwriad o fynd yn athro Addysg Gorfforol yn y pen draw. Ond ers meddwl am y syniad tu ôl i Stridez, faswn i wrth fy modd petai’r fenter yma’n dod fy swydd amser llawn gan ei fod yn angerdd go iawn gen i. Dwy flynedd yn ôl, faswn i erioed wedi disgwyl bod yn rhedeg fy musnes fy hun, ond nawr dyna beth rwy’n gwneud ac rwy’n mwynhau pob eiliad.”

Meddai Chris Howlett o Syniadau Mawr Cymru, a gefnogodd Jordan drwy ei daith i lansio Stridez, am y dyn busnes: “Mae Jordan yn enghraifft berffaith o rywun ifanc diwyd, cryf ei gymhelliant sydd â phob siawns o lwyddo yn ei syniad busnes. Bu’n bleser gweithio gydag ef hyd yma ac rydym yn hyderus y bydd dyfalbarhad Jordan yn dwyn ffrwyth.”

 


Cewch sesiynau 1-2-1 gyda Chynghorydd Busnes, canllaw ar gychwyn busnes a Simply Do Ideas - ffordd wych o ddatblygu eich syniadau busnes chi!

 

Dysgwch fwy am ddilyn busnes ar yr ochr yma