Julie Collins photo
Julie Collins
Collins Consulting Ltd
Trosolwg:
Gweithdai hyfforddiant datblygu busnes
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Powys

Yn wreiddiol, bues i'n gweithio i'r cwmnïau corfforaethol gorau cyn dechrau fy musnes fy hun - drwy wneud hynny, ro'n i'n gallu dysgu gan arbenigwyr yn y maes. 

Roedd fy nhad a fy ngŵr yn rhedeg eu busnesau eu hunain, felly ganddyn nhw y cefais fy ysbrydoli.

"Gwnewch eich ymchwil i weld a oes dyfodol i'ch syniad ai peidio! Peidiwch â rhoi'r gorau i'ch gwaith bob dydd nes byddwch yn gallu fforddio gwneud hynny."

Julie Collins - Collins Consulting Ltd

Rydw i'n rhedeg gweithdai hyfforddiant datblygu busnes.

Maen nhw'n arbenigo mewn sgiliau cyflwyno, arddangosiadau yn ogystal â sgiliau gwerthu a marchnata. 

Rydw i wrth fy modd gyda'r hyblygrwydd o weithio i mi fy hun - rydw i'n gallu cydbwyso ymrwymiadau teuluol ac ennill incwm. 

Dros y blynyddoedd, rydw i wedi gorfod addasu a newid gan fod y farchnad wedi addasu a newid.


Cysylltu gyda Julie