Mae myfyriwr 21 oed o Brifysgol Aberystwyth wedi lansio busnes o’i ystafell wely sy’n cysylltu gweithwyr llawrydd medrus â busnesau newydd mewn ymgais i helpu cyd-entrepreneuriaid i roi hwb i’w gyrfa.
Mae Karl Swanepoel, sydd yn ei flwyddyn olaf yn astudio gradd Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi cael sêl bendith ar gyfer ei fusnes Topwork drwy sicrhau buddsoddiad o £13,000 drwy gystadleuaeth InvEnterPrize y Brifysgol. Mewn cystadleuaeth debyg i Dragon’s Den ar gyfer entrepreneuriaid ifanc, gwnaeth Karl argraff ar y beirniaid gyda’i fusnes Topwork sy’n caniatáu i fusnesau bach brynu gwasanaethau digidol gan weithwyr llawrydd, fel dylunio graffeg a rhaglennu, i farchnata a chymorth busnes.
Dechreuodd Karl ei fusnes gyda chymorth Syniadau Mawr Cymru, sy’n rhan o wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru ac sy’n cael ei ariannu gan gronfeydd yr UE. Mae’r gwasanaeth yn cael ei anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sy’n dymuno datblygu syniad busnes, gan gynnwys myfyrwyr a graddedigion.
Wrth sôn am sefydlu Topwork, dywedodd Karl: “Pan oeddwn yn 14 oed, dysgais fy hun beth oedd hanfodion dylunio graffeg a chreu gwefannau gan obeithio gwneud elw, ond roedd yn anodd cael sylw ac roedd y rhan fwyaf o’r llwyfannau yr edrychais arnyn nhw’n cymryd canran uchel o gomisiwn a oedd yn fy ngadael heb ddim byd bron.
“Roeddwn i’n sylwi bod busnesau bach newydd hefyd dan anfantais. Mae’n amhosibl i ddarpar entrepreneuriaid roi cychwyn i’w busnes os na allan nhw fforddio gwario ar hanfodion fel marchnata neu greu gwefan.”
Er y bydd rhai o’r gweithwyr llawrydd yn Topwork yn cynnwys gweithwyr proffesiynol profiadol, nod y llwyfan yw annog myfyrwyr i roi sylw i’w gwasanaethau ac mae eisoes wedi ffurfio partneriaeth ag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i gynnig ffioedd gwerthwr gostyngedig i fyfyrwyr.
Wrth egluro hyn, dywedodd Karl: “Nod y llwyfan yw chwalu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag dechrau gweithio ar eu liwt eu hunain. Yn enwedig yn ystod y pandemig, nawr yn fwy nag erioed mae’n bwysig cael llwyfan lle mae pobl ifanc yn cael cyfleoedd i ennill incwm o bell.”
Wrth i’w gynllun busnes ddatblygu, penderfynodd Karl gymryd rhan yn y gystadleuaeth InvEnterPrize flynyddol, a drefnir gan Wasanaeth Gyrfaoedd y brifysgol ac a gefnogir gan Syniadau Mawr Cymru.
Er mwyn helpu Karl i ddatblygu ei feddylfryd entrepreneuraidd, dyfarnwyd ymgynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru iddo, sef Samantha Allen, a roddodd gyngor iddo ar ysgrifennu cynllun busnes, llunio rhagolygon ariannol, marchnata a datblygu busnes.
Wrth siarad am y gystadleuaeth, dywedodd Karl: “Cyn ennill InvEnterPrize, dim ond syniad oedd Topwork a gefais wrth eistedd wrth y ddesg yn fy ystafell wely. Ond roedd y gefnogaeth a gefais yn ystod y gystadleuaeth yn sicr yn allweddol yn y gwaith o droi Topwork yn realiti. Roedd mor ddefnyddiol cael Sam Allen gyda mi drwy gydol y daith, gan gynnig cyngor un-i-un yn rhad ac am ddim.”
Drwy ennill y gystadleuaeth, llwyddodd Karl i ariannu’r gwaith o ddatblygu gwefan Topwork a chyflogi aelodau newydd i’r tîm, Kinga Mijal a Skye Brady, sy’n helpu gydag ochr farchnata a datblygu technoleg y busnes.
Dywedodd Sam Allen, cynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru: “Mae’n wych gweld sut mae Karl wedi llwyddo i droi ei syniad yn fusnes mewn ychydig fisoedd. Mae’n enghraifft wych o entrepreneur ifanc gydag uchelgais a phenderfyniad, ac erbyn hyn mae wedi creu busnes clodwiw sy’n helpu unigolion eraill o’r un anian i ymuno â’r byd proffesiynol. Mae gen i obeithion mawr am Karl ac alla i ddim aros i weld beth fydd ei hanes dros y misoedd nesaf.”
Dywedodd Tony Orme, ymgynghorydd gyrfaoedd ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae Karl yn fyfyriwr brwdfrydig sydd wedi mynd o nerth i nerth ers cystadlu yng nghystadleuaeth InvEnterPrize. Mae’n wych ei weld yn defnyddio popeth mae wedi’i ddysgu, ynghyd â’i ddawn entrepreneuraidd naturiol, i ddod â busnes cadarn yn fyw sy’n ceisio helpu eraill.”