Kate Strong
Kate Strong
Kate Strong Global
Trosolwg:
Mae Kate Strong yn arwain drwy esiampl pan ddaw’n fater o berfformio ar eich gorau boed hynny drwy ddringo Mount Blanc, datblygu busnes cynaliadwy neu dorri 3 record byd am seiclo.

Mae Kate Strong yn arwain drwy esiampl pan ddaw’n fater o berfformio ar eich gorau boed hynny drwy ddringo Mount Blanc, datblygu busnes cynaliadwy neu dorri 3 record byd am seiclo.

Mae Kate wedi teithio i bob rhan o’r byd, gan ennill dwy radd Meistr mewn Peirianneg pan oedd yn byw rhwng Lloegr, Ffrainc a’r Eidal. Mae wedi sefydlu busnesau micro mewn cymunedau brodorol yng Nghanolbarth America yn ogystal â sefydlu busnes lletygarwch yn Awstralia. Ac yn ystod ei chyfnod yn Awstralia y daeth ar draws y triathlon am y tro cyntaf. O fewn 14 mis ar ôl dechrau cymryd rhan yn y gamp, cafodd ei choroni’n Bencampwr Byd yn ei grŵp oedran ac yn ddiweddarach aeth ymlaen i dorri 3 record byd am seiclo.
Mae wedi profi ei siâr o anawsterau ar y ffordd, o fod yn gaeth mewn perthynas gas i weithio’i hun o ddyled o filiwn o ddoleri ar ôl i’w cynbartner ei gadael. Fodd bynnag, nid yw am adael i’r heriau hyn ei diffinio ac mae’n defnyddio’r dyddiau tywyll hyn i fwydo ei hawydd i fod y fersiwn orau bosibl ohoni’i hun.

Ym Mehefin 2023, bydd Kate yn seiclo 3,000 o filltiroedd o amgylch tir mawr Prydain ar feic bambŵ, gan gysylltu â chymunedau lleol a chyflawni 30 o weithredoedd sy’n bositif i’r hinsawdd. Bydd y CLIMATE CYCLE yn dangos ffyrdd arloesol a defnyddiol a fydd yn ein galluogi i weithio â’n gilydd i achub y blaned.

Cysylltwch â Kate ar Linkedin ac Instagram i gadw mewn cysylltiad â’i holl weithgarwch.