Kathryn Howells
Kathryn Howells
Ells & Hers
Trosolwg:
Online women’s retailer for aspiring fashionistas
Sectorau:
Manwerthu
Rhanbarth:
Caerdydd

Kathryn Howells ydw i, rwy’n 23 oed ac yn byw erbyn hyn yng Nghaerdydd! Symudais o Fryste bron i bum mlynedd yn ôl pan es i Brifysgol Metropolitan Caerdydd i astudio cwrs Rheoli Digwyddiadau! Ar ôl gorffen yn y Brifysgol doeddwn i ddim yn siŵr  beth i’w wneud nesaf a dyna pryd y clywodd Emily (fy mhartner busnes) a minnau am Syniadau Mawr Cymru! Roeddem yn ddigon ffodus i ymgeisio a chael cyfle i fynd i sesiwn hyfforddi dwys i benwythnos busnes yn Ionawr 2014!

Datblygwyd y syniad a’i droi’n Ells & Hers.  Mae Ells & Hers yn siop ar-lein i ferched, a’r nod yw bod yn siop ‘arbennig’ y gall merched ffasiynol fynd iddi i ddewis dilledyn unigryw o’r gorffennol a’r presennol. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn dewis y dilladau mwyaf unigryw o’r dinasoedd mwyaf blaengar o ran ffasiwn ar hyd a lled y wlad. Mae’r holl ddillad ddoe sy’n cael eu dewis yn unigol o’r ansawdd uchaf ac yn cyd-fynd â’r tueddiadau presennol yn y diwydiant ffasiwn (ond ychydig yn fwy fforddiadwy!).

Dysgais fwy yn y penwythnos sesiwn hyfforddi dwys, nid yn unig am fusnes ond amdanaf fy hun ac ers hynny rydym wedi cyflawni cymaint mwy nag yr oeddem wedi’i ddychmygu! Ers Rhagfyr yn 2014, rydym nid yn unig wedi lansio ein gwefan lwyddiannus ein hunain, rydym hefyd wedi agor ein siop ein hunain ar ASOS Marketplace! Mae erthygl amdanom wedi ymddangos hefyd yn rhifyn Mai o gylchgrawn Cosmopolitan ac mae llawer mwy ar y gweill eleni.

Rwyf yn hoff iawn o fod yn rhan o Syniadau Mawr Cymru a byddwn wrth fy modd yn gallu helpu eraill i ddatblygu eu syniadau eu hunain yn fusnes a dweud wrthynt nad yw mor frawychus ag y mae’n ymddangos!