Lemoned
Katie, Megan, Zoe & Seren
Cyhoeddiadau Lemonêd
Trosolwg:
Pobl ifanc yn eu harddegau yn y Cymoedd yn lansio eu menter cyhoeddi eu hunain

Diolch Coleg y Cymoedd am rannu'r stori ysbrydoledig hon.

Mae grŵp o bobl ifanc mentrus o’r Rhondda, a lansiodd eu busnes cyhoeddi llyfrau plant eu hunain y llynedd, ar fin cyhoeddi eu hail lyfr yn dilyn llwyddiant a thwf parhaus yr un cyntaf.

Katie Burgess, 16 oed; Seren Collier, 16 oed; Zoe Gable, 17 oed, a Megan Thomas, 18 oed,  yw syflaenwyr y cwmni Lemonêd Publishing (Cyhoeddiadau Lemonêd) - cyhoeddwr llyfrau plant addysgiadol sy'n ceisio annog pobl ifanc i agor a siarad am iechyd meddwl a lles.

Penderfynodd y bobl ifanc sefydlu'r cwmni yn 2019 ar ôl cael eu hysbrydoli gan eu profiadau eu hunain gydag iechyd meddwl a bwlio. Roedd y grŵp am godi ymwybyddiaeth o'r materion hyn ac addysgu plant am yr heriau personol y gallant eu hwynebu wrth iddynt dyfu.

Mae'r cwmni'n canolbwyntio ar greu llyfrau lluniau hygyrch i blant sy'n cynnwys rhediad stori darluniadol a syml ond effeithiol sy'n archwilio ystod o bynciau lles personol gan gynnwys bwlio, hyder a hunanofal.

Gan ddechrau fel prosiect bach rhwng y pedwar dysgwr, tyfodd y syniad yn gyflym i fod yn fusnes cyhoeddi sefydledig gyda chymorth Partneriaeth Adfywio Ynysybwl; ymddiriedolaeth sy'n ymroddedig i gefnogi a datblygu prosiectau adfywio yn yr ardal leol. Cynorthwyodd yr ymddiriedolaeth y tîm i ddod o hyd i argraffwyr ar gyfer eu cynnyrch yn ogystal a’u mentora a helpu i greu platfform e-fasnach i Lemonêd gael gwerthu yn y gymuned leol a thu hwnt.

Cyhoeddodd Lemonêd ei lyfr dwyieithog cyntaf, ‘The Story of Lemmy the Lemon (Stori Lemmy Lemwn)’ y llynedd. Mae’r llyfr, a ddyluniwyd, a ysgrifennwyd, ac a gyhoeddwyd gan y tîm ifanc talentog, yn adrodd hanes y cymeriad Lemmy, sy’n ei chael hi’n anodd gwneud ffrindiau yn yr ysgol oherwydd ei natur ‘sur’. Mae’r llyfr yn archwilio bwlio ac yn addysgu pwysigrwydd caredigrwydd a derbyn.

Ers ei ryddhau, croesawyd y llyfr gan y gymuned leol, ac fe’i gwerthir mewn nifer o siopau yn yr ardal gan gynnwys Siop Y Bwl ym Mhontypridd, ARTtic yn Nhrefforest, a Marchnad Pontypridd. Hefyd, mae’r llyfr ar gael ar wefannau manwerthu gan gynnwys eSpace Wales; platfform ar-lein ar gyfer busnesau a gwasanaethau lleol.

Yn dilyn llwyddiant y llyfr cyntaf, mae'r cyd-sylfaenwyr ifanc nawr yn awyddus i dyfu'r busnes ymhellach, gan gael cymorth coleg yn ne Cymru, Coleg y Cymoedd, i gyflawni hyn. Mae'r cwmni'n derbyn arweiniad a chefnogaeth wedi'i theilwra gan Hwb Menter a Chyflogadwyedd y coleg.

Fel rhan o’u cefnogaeth, mae Katie a’i thîm yn derbyn mentoriaeth un i un gan Peter Wright - Cadeirydd yr elusen entrepreneuriaeth Tafflab - sydd wedi ymgymryd â swydd Entrepreneur Preswyl yng Ngholeg y Cymoedd i gefnogi busnesau newydd gyda’u datblygiad a’u twf.

Dywedodd un o sylfaenwyr Cyhoeddiadau Lemonêd a dysgwr cyfredol Coleg y Cymoedd, Katie Burgess, o Bontypridd: “Mae gan y tîm a minnau ein profiadau ein hunain gyda bwlio ac iechyd meddwl. Wrth dyfu, roeddem yn teimlo y dylid cael rhagor o ymwybyddiaeth o'r materion hyn, a dyna sut aethpwyd ati i greu Cyhoeddiadau Lemonêd.

“Rydym ni am greu llyfrau sydd wedi’u hanelu at bobl ifanc sydd â rhediad stori syml ond effeithiol a all agor sgyrsiau am iechyd meddwl a lles.”

Ar hyn o bryd mae'r cwmni'n gweithio ar ei ail lyfr, ‘Witch's Socks’, sy'n archwilio hunanhyder, ac yn cael cyngor gan Goleg y Cymoedd ar y ffordd orau o hyrwyddo'r llyfr, cynyddu gwerthiant a chreu cynllun busnes er mwyn helpu i gefnogi cynlluniau ehangach y cwmni.

Ychwanegodd Katie: “Mae'r ymateb cadarnhaol gan y gymuned leol wedi rhoi hwb mor fawr i’n hyder ac rydym yn edrych ymlaen at ddod â rhagor o'n syniadau yn fyw. Gyda’r gefnogaeth a’r mentora a gynigiwyd inni gan Goleg y Cymoedd, yn enwedig yr Hwb Menter a Chyflogadwyedd, rydym bellach ar y llwybr i ddatblygu ein model busnes a thyfu Cyhoeddiadau Lemonêd hyd yn oed yn fwy. ”

Crëwyd Hwb Menter a Chyflogadwyedd Coleg y Cymoedd mewn ymateb i’r pandemig fel ‘siop un stop’ i ddysgwyr gael gafael ar arweiniad, digwyddiadau, mentora a hyfforddiant i’w helpu i ddatblygu’n broffesiynol a chychwyn eu busnesau eu hunain.

Dywedodd Lesley Cottrell, Rheolwr Menter, Sgiliau a Chyflogadwyedd yng Ngholeg y Cymoedd: “Fy rôl i yw cefnogi dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau personol a’r hyder sydd eu hangen arnynt ar gyfer dyfodol llwyddiannus, yn bersonol ac yn broffesiynol. Rwyf am sicrhau bod gan ddysgwyr fel Katie a'r tîm y tu ôl i Cyhoeddiadau Lemonêd fynediad at adnoddau allweddol a fydd yn eu galluogi i lwyddo gyda'u mentrau busnes.

“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Lemonêd hyd yn hyn ac i fod yn dyst i’r daith y mae’r cwmni wedi bod arni. Rydym ni mor falch o weld talent mor anhygoel yn y coleg ac rydym ni'n edrych ymlaen at weld Katie a thîm Cyhoeddiadau Lemonêd yn parhau i dyfu a ffynnu. ”