Kevin Mansell – Abell
That Media Group
Trosolwg:
Help gyda dylunio creadigol a marchnata i fusnesau am bris fforddiadwy
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Sir Fynwy

Gwnes i sefydlu That Media Group bron i ddegawd yn ôl wrth astudio Dylunio Graffig ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr. Drwy fanteisio ar gyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth cefais y cyfle i gael lleoliad gwaith 4 diwrnod gyda chleient. Ar ôl creu argraff dda, gwnes i arwyddo cytundeb a gweithio gyda hwy am flwyddyn a hanner tra yr oeddwn yn dal i astudio.

Gallet ti gychwyn busnes o ddim! Cychwynna yn fach, ac os oes gen ti'r penderfyniad a'r cymhelliant, gallet ei dyfu a chael llwyddiant. Mae hunan gred a chymhelliant yn allweddol bwysig.

Kevin Mansell – Abell - That Media Group

Ers 2007 dwi wedi tyfu’r busnes ac yn gweithio ar lefel leol a chenedlaethol, gan ddarparu cefnogaeth marchnata a dyluniadau creadigol a fforddiadwy i gwmnïau. Rydym yn gweithio gyda chleientiaid i yrru eu llwyddiant busnes. O frandiau mawr i fusnesau newydd cyffrous, dwi yn cael pleser mawr o helpu ein holl gleientiaid i lwyddo gyda'u hamcanion busnes. Drwy wneud hynny maent wedi fy helpu i gael llwyddiant drwy gael fy enwi yn Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn 2014.

Y peth gorau am hyn oll ydi nad ydw i yn teimlo fy mod yn mynd i weithio - mae pob diwrnod yn unigryw a gwahanol, erbyn hyn gallwn i ddim dychmygu peidio rhedeg busnes fy hun.

Gwefan: http://www.thatmediagroup.co.uk/