Laura in the workshop
Laura Harding
Laura Shannon
Trosolwg:
Entrepreneur ifanc ar y ffordd i lwyddo ym myd ffasiwn

Mae myfyriwr graddedig ffasiwn 21 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, a arddangosodd ei chasgliad yn Wythnos Ffasiwn Llundain, yn lansio label dillad gyda'r nod o wneud ffasiwn rhedfa yn hygyrch.

Mae Laura-Shannon Harding wedi treulio'r ychydig fisoedd diwethaf yn dangos ei chasgliad dillad mewn sioeau ffasiwn ledled y wlad ac mae bellach yn lansio ei label ffasiwn ei hun, Laura-Shannon. Dechreuodd y busnes gyda chefnogaeth gan Syniadau Mawr Cymru, y gwasanaeth entrepreneuriaeth ieuenctid yng Nghymru.

Mae casgliad Laura wedi’i ysbrydoli gan ffasiwn yr ŵyl gan ddefnyddio printiau, addurniadau a gweadau chwareus a lliwgar.

Meddai Laura: “Mae gwyliau yn lle y gall pobl fod yn rhydd gyda’r hyn maen nhw'n ei wisgo, ac roeddwn i eisiau creu casgliad yn dangos pa mor bell y gellir gwthio'r ffiniau o fewn diwylliant yr ŵyl; dangos pa mor rhydd a dderbynol y mae’r awyrgylch.

Ar ôl ychydig fisoedd prysur, mae Laura yn lansio siop ar-lein yn masnacheiddio ei chasgliad lle bydd yn gwerthu dillad, gemwaith acrylig ac ategolion. Bydd yr eitemau sy'n cael eu stocio yn amrywio rhwng £ 20 a £ 600.

Dechreuodd Laura ei busnes gyda chymorth Syniadau Mawr Cymru, rhan o Fusnes Cymru ac a ariannwyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae'r gwasanaeth wedi'i anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sydd am ddatblygu syniad busnes, gan gynnwys myfyrwyr a graddedigion.

“Creais y casgliad fel rhan o fy mhrosiect olaf ym Mhrifysgol Celfyddydau Leeds a chefais fy newis i ddangos y casgliad yn wythnos Grad Fashion. O hyn, cafodd y casgliad lawer o sylw, a chefais wahoddiad i fynychu sioeau ffasiwn eraill, gan gynnwys Llundain yn Fashion's Finest Closing Soiree a Doncaster.”

Parhaodd Laura: “Roedd mynychu sioeau ffasiwn yn anhygoel ac fe’m gwnaeth yn fwy penderfynol o barhau i greu casgliadau ar gyfer pob tymor sy’n feiddgar ac yn avant-garde. Ochr yn ochr â hyn, rwyf am fasnacheiddio'r casgliadau ar gyfer fy siop, Laura-Shannon, i bobl eu prynu a'u gwisgo.

“Yn y Brifysgol mae gennych yr holl gyfleusterau ac offer sydd eu hangen arnoch chi. Nawr rydw i wedi graddio, mae gen i beiriant gwnïo domestig, ond er mwyn creu'r dillad o ansawdd uchel rydw i eisiau eu gwneud, mae angen i mi gael yr holl beiriannau diwydiannol ac mae hynny wedi bod yn her gan eu bod mor ddrud."

Wrth siarad am Syniadau Mawr Cymru, dywedodd Laura: “Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai gen i lawer o gefnogaeth i ddechrau fy musnes, felly pan soniodd fy mam am y gwasanaeth i mi cefais fy syfrdanu’n llwyr. Ar ôl cysylltu â nhw, cefais fy rhoi mewn cysylltiad ag ymgynghorydd busnes, Miranda Thomas, a helpodd fi i ddatblygu cynllun busnes, gwneud cais am gyllid ar gyfer peiriannau a rhoi lot o help a chyngor imi.

“Rwy’n credu bod angen cefnogaeth arnoch chi pan rydych chi'n cychwyn eich busnes eich hun, yn enwedig yn ifanc. Mae cymaint nad wyf eto i'w ddysgu.”

Dywedodd Miranda Thomas, cynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru: “Mae Laura yn berson talentog a llawn cymhelliant sydd eisoes wedi ennill clod yn y byd ffasiwn. Ni allaf aros i weld i ble mae'r busnes yn mynd gan ei bod yn amlwg bod ganddi ddyfodol disglair o'i blaen. "

 

“Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai gen i lawer o gefnogaeth i ddechrau fy musnes, felly pan soniodd fy mam am y gwasanaeth i mi cefais fy syfrdanu’n llwyr. Ar ôl cysylltu â nhw, cefais fy rhoi mewn cysylltiad ag ymgynghorydd busnes, Miranda Thomas, a helpodd fi i ddatblygu cynllun busnes, gwneud cais am gyllid ar gyfer peiriannau a rhoi lot o help a chyngor imi."

 

Yn y dyfodol, mae Laura yn gobeithio rhedeg siopau ‘pop-up’ Laura-Shannon mewn gwyliau ledled y byd, gan ganiatáu iddi deithio wrth ddatblygu'r busnes.

Gorffennodd trwy ddweud: “Rwyf wedi bod yn ffodus trwy fynychu gwahanol sioeau ffasiwn i gwrdd â dylunwyr ac wedi trafod y posibilrwydd o gydweithredu. Byddai gallu gweithio’n greadigol gydag eraill yn y byd ffasiwn yn gymaint o freuddwyd, felly gobeithio y daw hyn yn realiti ryw ddiwrnod. ”

 

 

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates: “Mae’n wych gweld Laura yn troi ei syniad yn fusnes gyda chefnogaeth Syniadau Mawr Cymru.

“Mewn cyfnod byr, mae Laura eisoes wedi cyflawni cymaint, a chyda cymaint o benderfyniad a chymorth parhaus gan ei chynghorydd, mae’n amlwg bod ganddi ddyfodol cyffrous iawn o’i blaen.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi entrepreneuriaid ledled Cymru ac mae hon yn enghraifft wych arall o’r camau pwysig rydyn ni’n eu cymryd i’w helpu i ffynnu.”