Leigh sitting by her dresses
Leigh Panes
Leigh Alexandra
Trosolwg:
Mae entrepreneur ifanc o Lantrisant wedi agor tŷ dylunio, gan greu gwisgoedd gyda’r nos, ffrogiau priodas ac ar gyfer prom, o waith llaw.
Sectorau:
Manwerthu
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Rhondda Cynon Taf

Mae entrepreneur ifanc o Lantrisant wedi agor tŷ dylunio, gan greu gwisgoedd gyda’r nos, ffrogiau priodas ac ar gyfer prom, o waith llaw.

 

Bu Leigh Panes, 27, yn astudio Dylunio Ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru cyn dechrau ei busnes ei hun, Leigh Alexandra. Cafodd ei chasgliad cyntaf o ddillad achlysurol ei ddatgelu ym mis Medi 2019 ac mae Leigh yn awr yn lansio casgliad priodasol ac yn gweithio ar gasgliad arall o ddillad achlysurol ar gyfer yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

 

Mae Leigh Alexandra yn un o filoedd o fusnesau yng Nghymru sydd wedi cael eu heffeithio mewn rhyw ffordd gan y pandemig coronafirws. Doedd dim modd i Leigh gynnal sesiynau ffitio gyda chwsmeriaid presennol na rhai newydd, ac mae nifer o’i chleientiaid wedi gohirio eu priodasau tan 2021. Yn lle hynny, mae hi wedi treulio’r amser yn gweithio ar ei chasgliadau diweddaraf i ddatblygu syniadau newydd a meddwl sut y mae hi am i’r busnes symud ymlaen yn y dyfodol.

 

Gan gyfeirio at Syniadau Mawr Cymru, dywedodd Leigh: “Oni bai am Syniadau Mawr Cymru a’m cynghorydd busnes Miranda Thomas, nid wyf yn credu y byddai gen i’r hyder i ddechrau fy musnes fy hun. Hi wnaeth i mi gredu y gallwn wneud hynny. Mae Syniadau Mawr Cymru a Busnes Cymru wedi helpu llawer arnaf, o sefydlu’r busnes, creu cynllun busnes a hefyd fy helpu i ganfod cyllid drwy’r pandemig.”

Dechreuodd Leigh ei busnes pan oedd yn 25 oed gyda chymorth gan Syniadau Mawr Cymru, rhan o Fusnes Cymru, sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.  Mae’r gwasanaeth yn cael ei anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sy’n dymuno datblygu syniad busnes.

 

Mae Leigh yn creu gwisgoedd achlysurol hudolus gydag amlinellau sy’n amrywio o ddillad sy’n ffitio’n glos i’r corff i wisgoedd llawn, gan ddefnyddio gweadau a brodwaith. Caiff pob un o’i gwisgoedd eu gwneud â llaw ar gyfer pob cleient gan ddefnyddio cyflenwyr deunyddiau Prydeinig, gyda’r prisiau yn dechrau o £300.

 

Dywedodd Leigh: “Un o fy hoff bethau am redeg fy musnes fy hun yw ei fod yn fy ngalluogi i weithio ym mhob agwedd ar y diwydiant ffasiwn, o ddylunio i adeiladu, cynnal sesiynau tynnu lluniau, marchnata, cyllid, rwy’n cael y cyfle i wneud y cyfan ac yn dysgu rhywbeth newydd bob dydd.

 

“Rydw i wedi bod yn gwnïo ers pan oeddwn yn ifanc iawn ac wedi gweithio mewn tai dylunio a stiwdios priodasol yn Llundain a Chaerdydd.  Drwy weithio’n agos gyda dylunydd priodasol, syrthiais mewn cariad â’r crefftwaith sydd tu ôl i greu gwisg wedi’i theilwra’n arbennig. Ar ôl cymryd blwyddyn fwlch i weithio fel intern yn Llundain, gwyddwn fy mod eisiau parhau i weithio ym myd ffasiwn, ond gartref yng Nghymru.

 

“Sylweddolais yn gyflym fod diwydiant llawer llai ar gyfer hynny yng Nghymru, felly penderfynais sefydlu fy nhŷ dylunio fy hun a chreu fy ngyrfa ddelfrydol. Roedd gen i’r weledigaeth a’r sgiliau creadigol, ond wyddwn i ddim byd am ddechrau busnes, felly mae pob cam ers hynny wedi bod yn wers ac mae hynny’n ei wneud yn gyffrous.”

 

Mae pum gwisg yng nghasgliad priodasol newydd Leigh, gyda’r prisiau yn dechrau o £1,245. Enw’r casgliad yw ‘Bloom’ ac mae wedi cael ei ysbrydoli gan y casgliad a lansiodd ei busnes, sef ‘Blossom’.

 

Ychwanegodd: “Roedd fy nghasgliad cyntaf wedi ei ysbrydoli gan y twf y mae unigolyn yn ei deimlo wrth gamu i gyfnod penodol yn eu bywyd, boed hynny’n flodeuo fel oedolyn neu gychwyn gyrfa newydd. Mae’r casgliad o wisgoedd priodas yn parhau â’r syniad hwn a theithiau menywod i bennod nesaf eu bywyd.”

 

Ochr yn ochr â’r casgliadau priodasol a’r casgliadau blynyddol, mae Leigh yn cynnig gwasanaeth pwrpasol lle y mae’n gweithio'n uniongyrchol â chleientiaid i ddatblygu gwisgoedd unigol y gellir eu teilwra’n arbennig yn ôl siâp, deunydd a gorffeniad.

 

Dywedodd Leigh: “Mae pob gwisg a ddyluniaf yn cael ei gwneud i union fesuriadau corff y cleient, sy’n galluogi pob gwisg i gael ei haddasu i ddarparu ar gyfer pob siâp a maint. Daw pobl ataf gyda syniad mewn golwg ac rydw i’n helpu i ddod â’r weledigaeth honno’n fyw.”

 

Aeth Leigh i weithdy ‘Kickstarter’ Busnes Syniadau Mawr Cymru ym Merthyr Tudful cyn dechrau ei thŷ dylunio.

Gan siarad am y digwyddiad, meddai Leigh: “Roedd yn wych clywed o lygad y ffynnon gan bobl a fu’n llwyddiannus yn y diwydiant. Ar y pryd hwnnw, doeddwn i ddim yn meddwl fod gen i’r hyn oedd yn angenrheidiol i redeg busnes, ond ar ôl clywed gan wahanol bobl a oedd wedi bod yn yr un sefyllfa a chlywed eu bod yn teimlo’n debyg i mi ar ddechrau eu gyrfa, bu hynny’n help i mi gredu y gallwn i lwyddo hefyd.”

Dywedodd Miranda Thomas, cynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru: “Mae Leigh yn hynod ddawnus ac yn caru’r hyn mae’n wneud, sy’n ei helpu i redeg busnes llwyddiannus. Dros y misoedd diwethaf, mae hi wedi gorfod addasu’r ffordd y mae’n gweithio ond mae wedi gwneud defnydd da o’r amser i ddatblygu ei busnes.”

 

Wrth drafod y dyfodol, meddai Leigh: “Fy nod yn y pen draw yw cael brand sydd wedi’i sefydlu ac yn adnabyddus, gyda fy ngwisgoedd yn cael eu stocio ledled byd. Rwy’n gobeithio y bydd fu nghasgliad priodasol a’r casgliad o wisgoedd achlysurol y byddaf yn ei lansio yn ddiweddarach eleni yn fy helpu i gyrraedd y nod hwnnw.

 

“Gobeithio, yn y dyfodol, y byddaf mewn sefyllfa i roi mwy o gyfleoedd i bobl greadigol eraill yng Nghymru nad ydynt eisiau gorfod symud i Lundain er mwyn gweithio yn y diwydiant.”

 

I gael rhagor o wybodaeth am Leigh Alexandra ewch i: https://www.leighalexandra.com/