photo of Lydia Hitchins
Lydia Hitchings
Rosy Cheeks
Trosolwg:
Mae Rosy Cheeks, yn cynhyrchu bicinis wedi’u gwneud â llaw unigryw mewn ymgais i leihau gwastraff a herio’r diwydiant ffasiwn cyflym.
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch
Rhanbarth:
Caerdydd

Darllenwch ymlaen i ddarganfod sut y dechreuodd Lydia ei busnes ei hun gyda chefnogaeth Syniadau Mawr Cymru. Os ydych chi eisiau gwybod mwy am ddechrau eich busnes eich hun, cofrestrwch yma i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddigwyddiadau a chyfleoedd ac i dderbyn Canllaw Cychwyn Busnes rhad ac am ddim. Os ydych yn barod i ddatblygu eich syniad busnes ymhellach gallwch siarad ag un o'n cynghorwyr busnes. Gallwch hefyd ein dilyn ar Facebook, Instagram neu Twitter.

Mae dylunydd ffasiwn brwd o Gaerdydd, a lansiodd ei busnes dillad nofio cynaliadwy ei hun yn ystod y cyfnod clo, eisoes yn gwneud argraff gyda dylanwadwyr Instagram a sêr teledu realiti.

Mae busnes Lydia Hitchings sy’n 24 oed, sef Rosy Cheeks, yn cynhyrchu bicinis wedi’u gwneud â llaw unigryw mewn ymgais i leihau gwastraff a herio’r diwydiant ffasiwn cyflym.

Gan roi ei gradd mewn Tecstilau o Brifysgol Metropolitan Caerdydd ar waith, mae Lydia yn dylunio’r holl brintiadau ffasiynol ar gyfer ei bicinis unigryw o’i hystafell wely, a hynny o amgylch ei swydd ran-amser fel derbynnydd yn ogystal â hyfforddi gyda thîm Pêl-rwyd Cenedlaethol Cymru.

Dechreuodd Lydia ei busnes gyda chymorth Syniadau Mawr Cymru, sy’n rhan o wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru ac sy’n cael ei ariannu gan gronfeydd yr UE. Mae’r gwasanaeth yn cael ei anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sy’n dymuno datblygu syniad busnes, gan gynnwys myfyrwyr a graddedigion.

Dywedodd Lydia: “Fy marchnad darged yw menywod rhwng 18 a 30 oed sy’n ymwybodol o ffasiwn, felly roedd y cyfryngau cymdeithasol bob amser yn mynd i chwarae rhan yn fy musnes, ond roedd y gwahanol gyfnodau clo yn cadarnhau’r angen am bresenoldeb cryf ar-lein. Rydw i wedi bod yn cysylltu â dylanwadwyr Instagram i gydweithio ac rydw i eisoes wedi profi llwyddiant gyda seren y sioe deledu Made in Chelsea, Ruby Adler, yn postio lluniau o fy micinis i'w channoedd o filoedd o ddilynwyr.”

Mae’r setiau bicini yn dechrau o £52 ac maen nhw i gyd wedi’u gwneud yn gwbl bersonol gan ddefnyddio pum print gwahanol. Ar hyn o bryd, mae’r bicinis yn cael eu cynnig yn yr arddull ‘triongl’, ond fel gwniadwraig sydd wedi dysgu ei hun, mae Lydia’n gobeithio y bydd, gydag ychydig o ymarfer, yn gallu cynnig amrywiaeth ehangach o arddulliau, gan gynnwys rhai gwddf sgwâr a rhai sy'n cau yng nghefn y gwddf.

Wrth siarad am lle daeth y syniad am Rosy Cheeks, dywedodd Lydia: “Drwy gydol fy ngradd, rwyf bob amser wedi arbenigo mewn dyluniadau gweledol ac yn ystod prosiect prifysgol, awgrymodd fy nhiwtor y byddai fy mhrintiau’n gweithio’n dda ar ddillad nofio.

“Ar y pryd, nid oedd gwnïo yn un o fy nghryfderau, ond drwy’r Ganolfan Entrepreneuriaeth yn y brifysgol, fe wnes i gais am grant a oedd yn caniatáu i mi fuddsoddi mewn peiriant gwnïo. O’r fan honno, ar ôl cymysgedd o diwtorialau YouTube a chryn dipyn brofi a methu, daeth ddillad nofio Rosy Cheeks yn fyw.”

I’r entrepreneur ifanc, mae’r hyn a ddechreuodd fel prosiect blwyddyn olaf bellach yn datblygu’n fusnes llwyddiannus gyda dros 35 o archebion wedi dod i mewn yn y cyfnod cyn-gwerthu ym mis Mai. Ar hyn o bryd, mae Lydia yn cymryd archebion drwy ei thudalen Instagram@rosycheeksswim, ac mae’n gobeithio gwerthu drwy ei gwefan yn y dyfodol agos.

Wrth siarad am ddechrau busnes yn ystod pandemig, dywedodd Lydia: “Fel cymaint o bobl ifanc eraill, gwelais fod graddio yn ystod hinsawdd mor ansicr yn golygu nad oedd llawer o gyfleoedd gwaith ar gael. Fodd bynnag, roedd gen i ddigon o amser i weithio ar fy sgiliau gwnïo a cheisio cael llwyddiant gyda Rosy Cheeks. Roeddwn i’n ffodus o gael cefnogaeth gwasanaethau fel Syniadau Mawr Cymru yn ystod y cyfnod hwnnw hefyd.”

Daeth Lydia i wybod am Syniadau Mawr Cymru am y tro cyntaf ar ôl mynychu un o’i digwyddiadau am ddim, Dathlu Syniadau Mawr, yn ystod ei chwrs prifysgol. Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd: “Dim ond breuddwyd oedd Rosy Cheeks bryd hynny, felly roedd clywed gan unigolion a busnesau a oedd eisoes wedi sefydlu am eu syniadau a’u cynnyrch yn ysbrydoledig iawn. Ar ôl y digwyddiad, fe wnes i gysylltu â Syniadau Mawr Cymru a wnaeth fy rhoi mewn cysylltiad â chynghorydd busnes, Miranda Thomas.

“Yn ystod y cyfnod clo, cefais lawer o alwadau un i un gyda Miranda a oedd bob amser wrth law i ateb unrhyw gwestiynau oedd gen i, o greu cynllun busnes i fy helpu i ddeall rhwydweithio. Yn sicr mae’n anodd rhedeg busnes o’ch ystafell wely, ond mae wedi bod yn rhyddhad enfawr cael cefnogaeth Syniadau Mawr Cymru drwy gydol y cyfan.”

Dywedodd Miranda Thomas, cynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru: “Mae’n wych gweld sut mae Lydia wedi llwyddo i lansio busnes llwyddiannus mewn ychydig fisoedd. Mae hi’n entrepreneur go iawn sydd wedi defnyddio ei sgiliau a’i chymhelliant i sicrhau bod dillad nofio Rosy Cheeks i’w gweld yng nghwpwrdd dillad pobl. Does gen i ddim amheuaeth y bydd y gwaith mae hi wedi’i wneud cyn misoedd yr haf yn dod â llwyddiant parhaus i Lydia a’i busnes.”  

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan stori Lydia ac eisiau gwybod mwy am ddechrau eich busnes eich hun, cofrestrwch yma i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddigwyddiadau a chyfleoedd ac i dderbyn Canllaw Cychwyn Busnes rhad ac am ddim. Os ydych yn barod i ddatblygu eich syniad busnes ymhellach gallwch siarad ag un o'n cynghorwyr busnes. Gallwch hefyd ein dilyn ar Facebook, Instagram neu Twitter.